UWB Crest

Cyrsiau

Order a prospectus

archebu prospectws

Cyrsiau i israddedigion

Cyrsiau i israddedigion

BA (Anrhydedd) Diwydiannau Creadigol

Cod cwrs UCAS: PWQ1

Hyd: 3 blynedd

Gofynion Mynediad

Am fanylion cyffredinol, darllenwch ein tudalen ar ofynion mynediad.

  • 220-260 pwynt, lefel A; nid oes angen unrhyw bynciau penodol
  • GNVQ (Uwch) gyda Theilyngdod cyffredinol
  • Os oes gennych HND addas mae’n bosibl y gallwch gychwyn ar flwyddyn 2
  • Rydym yn ystyried myfyrwyr hŷn gyda phrofiad perthnasol yn ôl pob cais unigol
  • BTEC Diploma Cenedlaethol mewn pwnc perthnasol.

Mwy o wybodaeth:

Y Tiwtor Derbyn
Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau
Ffôn: 01248 388560
e-bost: creadigol@bangor.ac.uk
www.bangor.ac.uk/creadigol

Cefndir y cwrs

Dyma gwrs newydd sbon sydd nid yn unig yn galluogi’r myfyrwyr i ddatblygu ystod o sgiliau dadansoddol ac ymarferol o fewn y diwydiannau creadigol, ond sydd hefyd yn cyflwyno agweddau economaidd a masnachol y diwydiannau hyn. Mae’n adeiladu ar arbenigedd disgyblaethol o fewn yr ysgol hon, yn ogystal â nifer o ysgolion eraill yn y brifysgol. Mae’n gwrs a gyflwynir yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.

Pam dewis Bangor?

  • Mae gennym gysylltiadau arbennig gyda’r diwydiannau creadigol proffesiynol yng Nghymru a thu hwnt, gan gynnwys cwmnïau teledu annibynnol, BBC Cymru, S4C a’r wasg leol a chenedlaethol.
  • Mae’r arbenigedd a geir ym Mangor ym meysydd Busnes a’r Gyfraith yn cryfhau’r elfen alwedigaethol i’r cwrs.
  • Bydd canolfan newydd Pontio yncreu cyfleoedd arbennig iawn ym maes y diwydiannau creadigol.
  • Mae ystod eang iawn i’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, nid yn unig yn yr ysgol, ond o fewn y Brifysgol yn gyffredinol.

Beth fyddaf yn ei astudio?

Cliciwch yma i lawr-lwytho manylion y rhaglen.

Blwyddyn 1

Byddwch yn astudio detholiad o’r canlynol::

  • Ymarfer Creadigol
  • Cyfathrebu Digidol
  • Cyflwyniad i Fusnes a Rheolaeth
  • Sgiliau Defnyddio’r Gymraeg
  • Cyflwyniad i Astudiaethau’r Cyfryngau
  • Cyflwyniad i Farchnata
  • Gloywi’r Gymraeg
  • Cyflwyniad i Newyddiaduraeth
  • Cyflwyniad i Ymarfer y Cyfryngau
  • Gweld y Llun
  • Gweithdy Creadigol

Blwyddyn 2


Byddwch yn astudio detholiad o’r canlynol:

  • Y Cyfryngau yng Nghymru
  • Marchnata
  • Gweinyddu’r Celfyddydau
  • Cyfraith y Cyfryngau
  • Mentergarwch a Rheoli Cyllid
  • Hanes a Datblygiad Newyddiaduraeth
  • Y Ffilm Ddogfen: Theori
  • Hanes Cerddoriaeth Bop Gymraeg
  • Cerddoriaeth Cymru Heddiw
  • Cyfathrebu Marchnata
  • Datblygiad y Cyfryngau Newydd
  • Ymarfer y Cyfryngau: Ffeithiol
  • Newyddiaduraeth Ymarferol Safonol
  • Ymchwil Marchnata
  • Prosiect Celfyddydau yn y Gymuned

Blwyddyn 3


Byddwch yn astudio detholiad o’r canlynol:

  • Datblygu Cynnyrch Creadigol
  • Astudiaeth Unigol/Prosiect Grŵp
  • Sut mae’r Cyfryngau’n Gweithio
  • E-Gyhoeddi
  • Ymarfer Cyfryngol: Ffuglen
  • Radio: Theori ac Ymarfer
  • Cynhyrchu ar gyfer y Cyfryngau Digidol
  • Ymarfer Theatr
  • Datblygiad Cysylltiadau Cyhoeddus

Sut y byddaf yn dysgu?

Am fwy ar astudio gradd darllenwch ein tudalennau am Astudio ym Mangor.

Byddwch yn treulio 12 awr yr wythnos ar gyfartaledd mewn darlithoedd a seminarau. Ar gyfer modiwlau penodol bydd un diwrnod yr wythnos hefyd yn cael ei neilltuo’n arbennig ar gyfer cynyrchiadau ymarferol. Mae ein cymhareb staff-myfyrwyr yn un ffafriol iawn. Mae dulliau asesu yn amrywio. Bydd rhai modiwlau yn cael eu hasesu yn gyfan gwbl trwy waith cwrs; gydag eraill bydd hyd at hanner yr asesiad trwy gyfrwng arholiad.

Rhagolygon Gyrfaoedd

Dyma raglen sydd yn cynnig posibiliadau eang yn un o brif sectorau economaidd Cymru, gydag apêl arbennig i fyfyrwyr sydd â diddordeb yn agweddau rheolaethol a gweinyddol y diwydiannau creadigol. Yn ogystal â’r cyfleoedd hyn, bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy sydd yn berthnasol i amryw o feysydd, yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Mae ein myfyrwyr bellach yn gweithio mewn nifer o feysydd amrywiol: y cyfryngau traddodiadol a newydd, ysgrifennu a chyhoeddi, addysg a llywodraeth leol, marchnata a chysylltiadau cyhoeddus a’r heddlu.

Gwella eich Cyflogadwyedd

Cymrwch olwg ar sut y gallwch chi wella eich cyflogadwyedd wrth astudio ym Mhrifysgol Bangor yma.