BA (Anrhydedd) Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol
Côd cwrs UCAS: L3LK
Ar gyfer codau graddau cyd-anrhydedd, gwelwch ein tudalen ar raddau cyd-anrhydedd.
Hyd: 3 blynedd
Gofynion Mynediad
Am fanylion cyffredinol, darllenwch ein tudalen ar ofynion mynediad.
Ar gyfer cyrsiau gradd cyd-anrhydedd, cofiwch fwrw golwg ar ofynion
mynediad y pwnc arall a ddewiswch.
- 180 pwynt o 2 lefel A, neu 220 pwynt o 3 lefel A
- GNVQ (Uwch) gyda Theilyngdod
- Diploma Cenedlaethol BTEC gyda Theilyngdod cyffredinol
- Rydym yn ystyried myfyrwyr hŷn yn ôl pob cais unigol.
Mwy o wybodaeth:
Gwenda Rhian Jones
Tiwtor Mynediad Cyfrwng Cymraeg
Ysgol Gwyddorau Cymdeithas
Ffôn: 01248 388094
e-bost: gwyddoraucymdeithas@bangor.ac.uk
www.bangor.ac.uk/so
Cefndir y cwrs
Mae’r cwrs hwn yn codi rhai cwestiynau pwysig ynglŷn â
sut y mae ein cymdeithas yn gweithio, ac ynglŷn â’r
polisïau y byddai’n bosib eu dyfeisio i fynd i’r
afael â rhai o’i phroblemau dwysaf. Mae’n darparu’r
wybodaeth a’r dulliau dadansoddi sy’n ein galluogi i ddeall
cymdeithas, a datblygu barn wybodus ar faterion cymdeithasol cymhleth.
Pam dewis Bangor?
- Mae'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yn cynnig amgylchedd cyfeillgar ac anffurfiol, ac yn eich annog
i ddatblygu'ch diddordebau eich hunain.
- Mae ein modiwlau i gyd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg, felly byddwch
yn astudio mewn amgylchedd lle byddwch yn cyfarfod llawer o siaradwyr
Cymraeg eraill.
- Mae’r cwrs yn canolbwyntio yn arbennig ar Gymru a materion
Cymreig mewn fframwaith Ewropeaidd.
- Mae ein staff yn ymchwilwyr cydnabyddedig yn eu meysydd pwnc,
ac mae gan yr uned record dda o gynhyrchu graddedigion ar gyfer graddau
MPhil a PhD, gyda rhai ohonynt wedi symud ymlaen wedyn i wneud ymchwil
bellach.
Beth fyddaf yn ei astudio?
Blwyddyn 1
Ar gyfer anrhydedd sengl, byddwch yn dilyn 6 modiwl gorfodol; ar gyfer
gradd cyd-anrhydedd byddwch yn dilyn 4 modiwl gorfodol ym mhob pwnc
gyda’r dewis o ddilyn 2 modiwl pellach.
Modiwlau gorfodol:
- Cyflwyniad i Bolisi Cymdeithasol
- Sgiliau Ymchwil
- Cymdeithaseg a'r Byd Cyfoes
Modiwlau dewisol:
- Cyflwyniad i Drosedd a Chyfiawnder
- Sgiliau Craidd yr Heddlu
- Cyflwyniad i Gynllunio Ieithyddol
Blwyddyn 2 a 3
Yn ogystal â’r modiwlau gorfodol, byddwch yn gwneud nifer
o ddewisiadau sy’n adlewyrchu eich diddordebau er mwyn gweithio
ar draethawd estynedig.
Modiwlau gorfodol:
- Theori Gymdeithasol
- Dulliau Ymchwil
- Gwasanaethau Cymdeithasol Personol
- Traethawd Hir
- Theori Gymdeithasegol Glasurol
Mae’r dewisiadau'n cynnwys:
- Problemau Cymdeithasol Cymru
- Gender
- Trais a Throsedd
- Trosedd a Chyfiawnder
- Lleoliad Gwaith Heddlu Gogledd Cymru
- Cynllunio Ieithyddol yn Ewrop
- Polisi Cymdeithasol a Phlant
- Cymuned
- Iaith a Diwylliant
- Yr Heddlu a Chymdeithas Gyfoes
- Hawliau Ieithyddol
Sut y byddaf yn dysgu?
Am fwy ar astudio gradd darllenwch ein tudalennau am Astudio ym Mangor.
Byddwch yn cael darlithoedd a grwpiau seminar bob wythnos yn ogystal
â dosbarthiadau tiwtorial unigol lle bo’r angen. Byddwch
hefyd yn gwneud traethodau, yn gwneud gwaith paratoi ar gyfer cyflwyniadau
seminar, yn darllen, ymchwilio, yn dadansoddi dogfennau ac yn gwneud
gwaith cwrs arall. Os ydych yn dilyn y cwrs fel pwnc gradd unigol, byddwch
yn gwneud traethawd estynedig yn ymwneud ag ymchwil mewn maes o’ch
dewis chi.
Rydym yn defnyddio nifer o ddulliau asesu yn cynnwys gwaith cwrs, arholiadau
a’r traethawd estynedig (yn gyfwerth â 40 credyd). Mae'r
rhan fwyaf o fodiwlau yn cael eu hasesu trwy waith cwrs.
Rhagolygon Gyrfaoedd
Mae Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn radd eang, sy'n rhoi sail academaidd gadarn i chi, ac yn eich paratoi'n ardderchog i ddilyn gyrfa mewn nifer o feysydd, yn cynnwys:Y Gwasanaeth Prawf, Yr Heddlu, Dysgu, Ymchwil, Gwaith Cymdeithasol, Y Gwasanaeth Sifil, Y Cyfryngau, Llywodraeth ganolog a lleol, Llysoedd Barn a Mudiadau Gwirfoddol.
Lleoliadau Gwaith Heddlu Gogledd Cymru
Ceir 6 wythnos o leoliad gwaith gyda Heddlu Gogledd Cymru, sy'n rhoi cyfleoedd gwych i chi weld sut mae gwasanaeth brys yn gweithredu a’r amryw o yrfaoedd sydd ar gael, sy’n cynnig amrywiaeth, cyffro, her a boddhad. Detholir myfyrwyr llwyddiannus ar sail gystadleuol wrth ddilyn y modiwl Sgiliau Craidd yr Heddlu ym mlwyddyn 1.