Hysbysiad Preifatrwydd Adran Recriwtio yn y DU a Marchnata

Sut rydym yn defnyddio eich data?

Mae eich data yn bwysig i ni. Dim ond yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol a'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn y bydd yr wybodaeth y byddwch chi yn ei darparu yn cael ei phrosesu. Mae sut y byddwn yn defnyddio eich data yn dibynnu ar eich perthynas â Phrifysgol Bangor. Rydym wedi categoreiddio ein hamrywiol gysylltiadau isod.

Rydych yn ymholydd os ydych wedi gofyn am brosbectws drwy ein gwefan.

Cyn cyflwyno gwybodaeth amdanoch chi eich hun yn y ffurflen gais am brosbectws byddwn yn tynnu eich sylw at yr hysbysiad preifatrwydd hwn. Drwy gyflwyno eich gwybodaeth rydych yn cytuno i delerau'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn ac yn cadarnhau eich bod dros 13 oed. Os ydych o dan 13 oed, gofynnwch i riant neu warcheidwad ofyn am brosbectws ar eich rhan.

Pam fod arnoch eisiau fy nata a sut y byddwch yn ei ddefnyddio?

Pan fyddwch yn gwneud cais am brosbectws Prifysgol Bangor drwy ein gwefan byddwn yn gofyn am eich gwybodaeth bersonol am y rhesymau canlynol:

1. Er mwyn ymateb i'ch cais i anfon prosbectws atoch.

2. Er mwyn anfon gwybodaeth bellach atoch sy'n berthnasol i'r diddordeb sydd gennych mewn astudio ym Mangor.

3. Mae'n bosibl hefyd y byddwn yn defnyddio eich data i gael cipolwg ar oedran, lleoliad daearyddol a dewis pynciau unigolion a allai fod â diddordeb mewn astudio ym Mangor.

Gall ymholwyr ddad-danysgrifio unrhyw bryd er mwyn peidio â derbyn rhagor o ohebiaeth oddi wrthym. Mae gennych hefyd hawliau pellach yn ymwneud â'ch data sydd i'w gweld yma.

Beth yw eich sail gyfreithlon dros brosesu fy nata?

Byddwn yn anfon prosbectws atoch ar sail gyfreithlon Buddiant Dilys. Drwy gyflwyno ffurflen gais am brosbectws byddech yn rhesymol yn disgwyl i ni ddefnyddio eich data i anfon prosbectws atoch, ac mae anfon ein prosbectws atoch o fudd i ni ac i chi. Mae ein Buddiannau Dilys ni yn cynnwys buddiannau masnachol a busnes, a bydd o fudd i chi ddysgu rhagor am astudio ym Mhrifysgol Bangor er mwyn ystyried gwneud cais. Gan ddibynnu ar y math o brosbectws yr ydych wedi gofyn amdano, bydd y prosbectws yn cael ei anfon naill ai drwy'r post neu mewn e-bost.

Ar waelod ein ffurflen gais am brosbectws byddwn hefyd yn gofyn am eich Cydsyniad i ni anfon gwybodaeth ychwanegol atoch am astudio ym Mhrifysgol Bangor. Bydd unrhyw gyfathrebu pellach yn cael ei deilwra i chi a'r diddordeb sydd gennych mewn astudio ym Mhrifysgol Bangor. 

Byddwn yn gofyn am eich cydsyniad i ni gysylltu â chi drwy e-bost, y post, negeseuon testun a dros y ffôn. Ar hyn o bryd, mae'r rhan fwyaf o'r cyfathrebu pellach a wnawn yn digwydd drwy e-bost. Mae modd i chi ddewis peidio â derbyn y negeseuon hyn ar unrhyw adeg.

Am ba hyd fyddwch chi'n defnyddio fy nata?

Dim ond hyd at y pwynt mynediad y mae gennych ddiddordeb ynddo neu hyd at 90 diwrnod ar ôl i ni dderbyn eich gwybodaeth y byddwn yn defnyddio eich data i gyfathrebu â chi. Os nad yw eich pwynt mynediad yn cael ei nodi, byddwn naill ai'n ffurfio barn ynglŷn â'ch tymor mynediad tebygol yn ôl y data a ddarparwyd (er enghraifft eich blwyddyn ysgol) neu'n rhagdybio bod gennych ddiddordeb yn y tymor mynediad nesaf. Gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth ddienw i adrodd yn ddienw y tu hwnt i'r pwynt hwn.

Gyda phwy y bydd fy nata'n cael ei rannu?

Gellir rhannu eich data ag adrannau ac ysgolion academaidd eraill ym Mhrifysgol Bangor. Gwneir hynny at y dibenion canlynol yn unig:

1. Er mwyn ystyried, prosesu ac ymateb i unrhyw ymholiad a wnewch am Brifysgol Bangor.

2. Er mwyn cysylltu â chi i sôn am Brifysgol Bangor.

3. At ddibenion ymchwil ar sail oedran, lleoliad daearyddol a dewis pynciau'r rhai sydd â diddordeb mewn astudio ym Mhrifysgol Bangor. 

Bydd unrhyw adrannau ac ysgolion academaidd ym Mhrifysgol Bangor sy'n derbyn copi o'ch data yn ei brosesu yn unol â'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn a Pholisi Diogelu Data Prifysgol Bangor.

Rhannu eich data gyda thrydydd parti

Gellir rhannu eich data â darparwyr gwasanaethau trydydd parti, ond dim ond at ddibenion ystyried a phrosesu eich cais, cyfathrebu â chi am Brifysgol Bangor a gwneud ymchwil ynglŷn ag oedran, lleoliad daearyddol a diddordeb pwnc(pynciau) y rhai sydd â diddordeb mewn astudio ym Mangor. Bydd unrhyw ddarparwyr trydydd parti yn cadw at Bolisi Diogelu Data Prifysgol Bangor a dim ond fel y disgrifir yma y bydd eich data yn cael ei ddefnyddio.

Ni fyddwn byth yn gwerthu, rhentu, prydlesu na rhannu eich gwybodaeth mewn unrhyw ffordd sy'n anghydnaws â'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn.

Pa hawliau sydd gen i mewn perthynas â'm data?

Mae gennych hawl i ofyn i ni roi'r gorau i brosesu eich data at ddibenion cyfathrebu. Os hoffech i ni roi'r gorau i ddefnyddio eich data at ddibenion cyfathrebu, cysylltwch â ni yn defnyddio'r manylion a roddir yn ein negeseuon e-bost neu yn ein gohebiaeth.

Mae gennych hawliau eraill hefyd mewn perthynas â'r defnydd a wnawn o'ch data a gallwch weld beth yw'r hawliau hynny yma.

Rydych yn unigolyn arall sydd â diddordeb ym Mhrifysgol Bangor os daeth eich gwybodaeth atom:

1. Trwy ffurflen cipio data a oedd yn rhan o ymgyrch benodol ar ein gwefan.

2. Oherwydd i chi fynd i arddangosfa neu ddigwyddiad lle'r oedd ein cynrychiolwyr yn bresennol a chafodd eich data ei roi i ni (megis mewn ffair recriwtio).

3. O wefan trydydd parti (enghraifft o hyn fyddai WhatUni, lle ceir sawl proffil am Brifysgol Bangor lle mae modd i chi nodi bod gennych ddiddordeb ym Mhrifysgol Bangor).

4. Gan bartner yr ydym yn ymddiried ynddynt, megis asiant recriwtio.

Os gwnaethoch roi eich gwybodaeth i ni ar ffurflen cipio data fel rhan o ymgyrch benodol ar ein gwefan, byddwch wedi cael gwybod am yr hysbysiad preifatrwydd hwn cyn cyflwyno'r ffurflen. Drwy gyflwyno'r ffurflen rydych yn cytuno i delerau'r hysbysiad preifatrwydd hwn. Wrth gyflwyno eich gwybodaeth drwy un o'n ffurflenni cipio data rydych yn cytuno eich bod dros 13 oed. Os ydych o dan 13 oed, gofynnwch i riant neu warcheidwad lenwi'r ffurflen ar eich rhan.

Os wnaethom dderbyn eich gwybodaeth gan drydydd parti, byddwch wedi cael dolen i'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn y tro cyntaf i ni gyfathrebu â chi ar e-bost a phob tro yr ydym wedi cyfathrebu â chi ers hynny.

Pam fod arnoch eisiau fy nata a sut y byddwch yn ei ddefnyddio?

Os gwnaethoch chi gwblhau ffurflen cipio data fel rhan o ymgyrch benodol ar ein gwefan, fe wnaethoch hynny oherwydd y byddech yn hoffi cael rhagor o wybodaeth am Brifysgol Bangor. Os cafodd eich data ei ddarparu i ni gan drydydd parti, y rheswm am hynny yw eich bod wedi dangos diddordeb ym Mhrifysgol Bangor. Byddwn yn prosesu eich data am y rhesymau canlynol:

1. Er mwyn bodloni unrhyw gais a wnaethoch yn ystod eich ymwneud cyntaf â ni neu â'r trydydd parti sydd wedi casglu eich data ar ein rhan, megis er mwyn anfon ein prosbectws atoch, a/neu unrhyw wybodaeth bellach ynglŷn ag astudio ym Mhrifysgol Bangor.

2. Mae'n bosibl hefyd y byddwn yn defnyddio eich data i gael cipolwg ar oedran, lleoliad daearyddol a dewis pynciau unigolion a allai fod â diddordeb mewn astudio ym Mangor.

Gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd er mwyn peidio â derbyn rhagor o ohebiaeth oddi wrthym. Mae gennych hefyd hawliau pellach yn ymwneud â'ch data sydd i'w gweld yma.

Beth yw eich sail gyfreithlon dros brosesu fy nata?

Os gwnaethoch lenwi ffurflen cipio data a oedd yn rhan o ymgyrch benodol ar ein gwefan, byddwn yn prosesu eich data ar sail Cydsyniad.

Os darparwyd eich data i ni gan drydydd parti, byddwn yn prosesu eich data ar sail Cydsyniad a/neu Fuddiant Dilys. Yn eich ymwneud cyntaf â'r trydydd parti neu ag un o'n cynrychiolwyr ni, byddwch wedi cydsynio iddynt roi eich manylion i ni. Drwy roi eich data iddynt byddech yn disgwyl yn rhesymol i ni ddefnyddio eich gwybodaeth i gysylltu â chi i sôn am astudio ym Mhrifysgol Bangor – mae hyn o fudd i chi ac i ni. Mae ein Buddiannau Dilys ni yn cynnwys buddiannau masnachol a busnes, a bydd o fudd i chi ddysgu rhagor am astudio ym Mhrifysgol Bangor er mwyn ystyried gwneud cais.

Am ba hyd fyddwch chi'n defnyddio fy nata?

Dim ond hyd at y pwynt mynediad y mae gennych ddiddordeb ynddo neu hyd at 90 diwrnod ar ôl i ni dderbyn eich gwybodaeth y byddwn yn defnyddio eich data i gyfathrebu â chi. Os nad yw eich pwynt mynediad yn cael ei nodi, byddwn naill ai'n ffurfio barn ynglŷn â'ch tymor mynediad tebygol yn ôl y data a ddarparwyd (er enghraifft eich blwyddyn ysgol) neu'n rhagdybio bod gennych ddiddordeb yn y tymor mynediad nesaf. Gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth ddienw i adrodd yn ddienw y tu hwnt i'r pwynt hwn.

Gyda phwy y bydd fy nata'n cael ei rannu?

Gellir rhannu eich data ag adrannau ac ysgolion academaidd eraill ym Mhrifysgol Bangor. Gwneir hynny at y dibenion canlynol yn unig:

1. Er mwyn ystyried, prosesu ac ymateb i unrhyw ymholiad / cais am wybodaeth a wnewch am Brifysgol Bangor.

2. Er mwyn cysylltu â chi i sôn am Brifysgol Bangor.

3. At ddibenion ymchwil ar sail oedran, lleoliad daearyddol a dewis pynciau'r rhai sydd â diddordeb mewn astudio ym Mhrifysgol Bangor. 

Bydd unrhyw adrannau ac ysgolion academaidd ym Mhrifysgol Bangor sy'n derbyn copi o'ch data yn ei brosesu yn unol â'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn a Pholisi Diogelu Data Prifysgol Bangor.

Rhannu eich data gyda thrydydd parti

Gellir rhannu eich data â darparwyr gwasanaethau trydydd parti, ond dim ond at ddibenion ystyried a phrosesu eich cais, cyfathrebu â chi am Brifysgol Bangor a gwneud ymchwil ynglŷn ag oedran, lleoliad daearyddol a diddordeb pwnc(pynciau) y rhai sydd â diddordeb mewn astudio ym Mangor. Bydd unrhyw ddarparwyr trydydd parti yn cadw at Bolisi Diogelu Data Prifysgol Bangor a dim ond fel y disgrifir yma y bydd eich data yn cael ei ddefnyddio.

Ni fyddwn byth yn gwerthu, rhentu, prydlesu na rhannu eich gwybodaeth mewn unrhyw ffordd sy'n anghydnaws â'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn.

Pa hawliau sydd gen i mewn perthynas â'm data?

Mae gennych hawl i ofyn i ni roi'r gorau i brosesu eich data at ddibenion cyfathrebu. Os hoffech i ni roi'r gorau i ddefnyddio eich data at ddibenion cyfathrebu, cysylltwch â ni yn defnyddio'r manylion a roddir yn ein negeseuon e-bost neu yn ein gohebiaeth.

Mae gennych hawliau eraill hefyd mewn perthynas â'r defnydd a wnawn o'ch data a gallwch weld beth yw'r hawliau hynny yma.

Neuaddau neu ar Ddiwrnod Ymweld y Drefn Clirio os ydych wedi cofrestru i fynychu un o'r digwyddiadau hyn naill ai drwy ein gwefan neu yn bersonol ar y diwrnod.

Bydd y rhai sy'n gwneud cais am ymweliad personol wedi cysylltu â ni drwy e-bost neu dros y ffôn i drefnu ymweld â'r Brifysgol ar adeg heblaw am ddigwyddiad wedi ei drefnu. Bydd ymweliad o'r fath wedi'i drefnu'n arbennig ar eich cyfer chi.

Os gwnaethoch gofrestru ar gyfer un o'n digwyddiadau trwy ein gwefan, byddem wedi tynnu eich sylw at yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn cyn i chi gofrestru. Drwy gofrestru rydych yn cytuno i delerau'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn ac yn cadarnhau eich bod dros 13 oed. Os ydych o dan 13 oed, gofynnwch i riant neu warcheidwad gofrestru ar gyfer y digwyddiad ar eich rhan.

Os gwnaethoch gysylltu â ni i drefnu ymweliad personol drwy e-bost neu dros y ffôn, byddem wedi tynnu eich sylw at yr hysbysiad preifatrwydd hwn mor fuan ag sy’n bosib.

Pam fod arnoch eisiau fy nata a sut y byddwch yn ei ddefnyddio?

Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer un o'n digwyddiadau neu'n gofyn am ymweliad personol gofynnwn i chi am eich gwybodaeth bersonol am y rhesymau canlynol:

1. Er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gallu darparu ar eich cyfer chi a'ch gwesteion ar y diwrnod.

2. Er mwyn anfon gwybodaeth benodol atoch am y digwyddiad / ymweliad.

3. Mae'n bosibl hefyd y byddwn yn defnyddio eich data i gael cipolwg ar oedran, lleoliad daearyddol a dewis pynciau unigolion sy'n cofrestru i ddod i'r digwyddiadau / gwneud cais am ymweliad.

Bydd modd i chi ddad-danysgrifio unrhyw bryd er mwyn peidio â derbyn rhagor o ohebiaeth oddi wrthym. Mae gennych hefyd hawliau pellach yn ymwneud â'ch data sydd i'w gweld yma.

Beth yw eich sail gyfreithlon dros brosesu fy nata?

Byddwn yn anfon gwybodaeth atoch yn benodol am y digwyddiad y gwnaethoch gofrestru ar ei gyfer neu am eich ymweliad ar sail gyfreithlon Buddiant Dilys. Drwy gofrestru ar gyfer ein digwyddiad neu drwy wneud cais am ymweliad personol byddech yn rhesymol yn disgwyl i ni ddefnyddio eich data i anfon gwybodaeth atoch am y digwyddiad/ymweliad hwnnw, ac mae hyn o fudd i chi ac i ni. Mae ein Buddiannau Dilys yn cynnwys buddiannau masnachol a busnes, ac mae o fudd ichi wybod am drefniadau'r digwyddiad/ymweliad er mwyn gallu bod yn bresennol.

Wrth gofrestru ar Ddiwrnod Agored byddwn hefyd yn gofyn am eich Cydsyniad i ni anfon gwybodaeth ychwanegol atoch am astudio ym Mhrifysgol Bangor. Bydd unrhyw gyfathrebu pellach yn cael ei deilwra i chi a'r diddordeb sydd gennych mewn astudio ym Mhrifysgol Bangor. Mae modd i chi ddewis peidio â derbyn y negeseuon hyn ar unrhyw adeg.

Am ba hyd fyddwch chi'n defnyddio fy nata?

Dim ond hyd at bythefnos ar ôl y digwyddiad yr ydych wedi cofrestru ar ei gyfer/eich ymweliad personol y byddwn yn defnyddio eich data i gyfathrebu â chi.

Os ydych wedi cofrestru i ddod ar Ddiwrnod Agored ac wedi cydsynio i ni anfon gwybodaeth ychwanegol atoch am astudio ym Mhrifysgol Bangor, byddwn yn cysylltu â chi hyd at y tymor mynediad nesaf yn dilyn y flwyddyn pan gynhaliwyd y diwrnod agored. Er enghraifft, os ydych yn cofrestru ar Ddiwrnod Agored a gynhelir yn 2018 byddwn yn tybio bod gennych ddiddordeb mewn astudio ym Mangor yn 2019. Ni fyddwn yn defnyddio eich data at ddibenion cyfathrebu y tu hwnt i fis Medi 2019.  

Gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth ddienw i adrodd yn ddienw y tu hwnt i'r pwynt hwn.

Beth os byddaf yn dewis rhoi gwybodaeth i chi am anabledd neu anghenion arbennig sy'n berthnasol i fi neu i rywun a fydd yn dod i gadw cwmni i mi?

Caiff yr wybodaeth hon ei chategoreiddio fel data Categori Arbennig a chaiff ei thrin yn unol â deddfwriaeth gyfredol. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei phrosesu ar sail Cydsyniad ac at y diben penodol o sicrhau ein bod yn darparu ar gyfer eich anghenion chi neu anghenion rhywun a fydd yn dod gyda chi i'r digwyddiad yr ydych wedi cofrestru ar ei gyfer/ar eich ymweliad personol. Dim ond er mwyn gwneud trefniadau ar eich cyfer ar y diwrnod y bydd yr wybodaeth hon ond yn cael ei rhannu gydag adrannau neu ysgolion academaidd eraill ym Mhrifysgol Bangor. Ni fydd yr wybodaeth hon yn cael ei storio gennym ar ôl dyddiad y digwyddiad/eich ymweliad.

Gyda phwy y bydd fy nata'n cael ei rannu?

Gellir rhannu eich data ag adrannau ac ysgolion academaidd eraill ym Mhrifysgol Bangor. Gwneir hynny at y dibenion canlynol yn unig:

1. Er mwyn prosesu ac ymateb i'ch cofrestriad i ddod i un o'n digwyddiadau neu i'ch cais i ymweld â'r Brifysgol.

2. Er mwyn ystyried, prosesu ac ymateb i unrhyw ymholiad / cais am wybodaeth a wnewch am Brifysgol Bangor.

3. Er mwyn cysylltu â chi i sôn am Brifysgol Bangor.

4. At ddibenion ymchwil ar sail oedran, lleoliad daearyddol a dewis pynciau'r rhai sydd â diddordeb mewn astudio ym Mhrifysgol Bangor. 

Bydd unrhyw adrannau ac ysgolion academaidd ym Mhrifysgol Bangor sy'n derbyn copi o'ch data yn ei brosesu yn unol â'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn a Pholisi Diogelu Data Prifysgol Bangor.

Rhannu eich data gyda thrydydd parti

Gellir rhannu eich data â darparwyr gwasanaethau trydydd parti, ond dim ond at ddibenion ystyried a phrosesu eich cais, cyfathrebu â chi am Brifysgol Bangor a gwneud ymchwil ynglŷn ag oedran, lleoliad daearyddol a diddordeb pwnc(pynciau) y rhai sydd â diddordeb mewn astudio ym Mangor. Bydd unrhyw ddarparwyr trydydd parti yn cadw at Bolisi Diogelu Data Prifysgol Bangor a dim ond fel y disgrifir yma y bydd eich data yn cael ei ddefnyddio.

Ni fyddwn byth yn gwerthu, rhentu, prydlesu na rhannu eich gwybodaeth mewn unrhyw ffordd sy'n anghydnaws â'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn.

Pa hawliau sydd gen i mewn perthynas â'm data?

Mae gennych hawl i ofyn i ni roi'r gorau i brosesu eich data at ddibenion cyfathrebu. Os hoffech i ni roi'r gorau i ddefnyddio eich data at ddibenion cyfathrebu, cysylltwch â ni yn defnyddio'r manylion a roddir yn ein negeseuon e-bost neu yn ein gohebiaeth.

Mae gennych hawliau eraill hefyd mewn perthynas â'r defnydd a wnawn o'ch data a gallwch weld beth yw'r hawliau hynny yma.

Rydych yn ymgeisydd os ydych wedi gwneud cais i astudio ym Mhrifysgol Bangor.

Efallai eich bod wedi gwneud cais yn uniongyrchol drwy'r Brifysgol, drwy drydydd parti megis UCAS neu drwy un o'n hasiantau/cynrychiolwyr swyddogol.

Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn y tro cyntaf y bydd yr adran Marchnata, Recriwtio a Chyfathrebu yn cysylltu â nhw a phob tro y byddwn yn cysylltu â nhw ar ôl hynny.

Pam fod arnoch eisiau fy nata a sut y byddwch yn ei ddefnyddio?

Pan fyddwch yn gwneud cais i astudio ym Mhrifysgol Bangor byddwn yn gofyn am eich gwybodaeth bersonol am y rhesymau canlynol:

1. Er mwyn asesu a phrosesu eich cais.

2. Er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am eich cais ac am astudio ym Mhrifysgol Bangor.

3. Mae'n bosibl hefyd y byddwn yn defnyddio eich data i gael cipolwg ar oedran, lleoliad daearyddol a dewis pynciau unigolion sy'n gwneud cais i astudio ym Mangor.

Mae'r hyn y byddwn yn ei anfon at ymgeiswyr yn berthnasol i'w cais ac i astudio ym Mangor yn unig, a bydd yn cynnwys gwybodaeth bwysig megis sut i wneud cais am lety a sut i gofrestru ar gyfer eich cwrs. Os nad ydych eisiau derbyn gohebiaeth mwyach am eich cais i Brifysgol Bangor, cysylltwch ag dimrhagor@bangor.ac.uk, gan ddyfynnu eich rhif cyfeirnod ym Mhrifysgol Bangor (bydd y rhif hwnnw i'w weld ar bob e-bost y byddwch yn ei gael gennym). Mae gennych hefyd hawliau pellach yn ymwneud â'ch data sydd i'w gweld yma.

Beth yw eich sail gyfreithlon dros brosesu fy nata?

Byddwn yn prosesu eich data ar sail gyfreithlon Contract a Buddiant Dilys.

Rydych wedi gofyn i ni ystyried eich cais cyn ymrwymo i Gontract gyda chi ac mae angen prosesu eich data personol cyn ymrwymo i gontract. Byddwn yn defnyddio eich data i gysylltu â chi am eich cais ac am astudio ym Mangor ar sail gyfreithlon Buddiant Dilys. Mae gohebiaeth sy'n ymwneud â'ch cais ac sy’n ymwneud ag astudio ym Mangor o fudd i chi ac i ni. Mae ein Buddiannau Dilys ni yn cynnwys buddiannau masnachol a busnes, a bydd o fudd i chi ddysgu rhagor am astudio ym Mhrifysgol Bangor cyn ymrwymo i gontract i astudio yma.

Am ba hyd fyddwch chi'n defnyddio fy nata?

Dim ond tra bydd gennym gais cyfredol oddi wrthych chi y byddwn yn defnyddio eich data i gyfathrebu â chi. Os penderfynwch dynnu eich cais yn ôl, neu os penderfynwn ni beidio â chynnig lle i chi ym Mhrifysgol Bangor, byddwn yn rhoi'r gorau i gyfathrebu â chi.

Yr unig eithriad yw yn achos ymgeiswyr israddedig sy'n dewis gwrthod ein cynnig. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybodaeth i chi yn benodol am y drefn glirio rhag ofn yr hoffech ystyried Prifysgol Bangor fel un o'ch dewisiadau Clirio. Gwneir hyn ar sail gyfreithlon Buddiant Dilys. Os ydych wedi dangos diddordeb cychwynnol mewn astudio ym Mhrifysgol Bangor mae'n rhesymol tybio y byddai gennych ddiddordeb astudio yma o hyd pe baech yn chwilio am le yn ystod y drefn Clirio.

Gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth ddienw i adrodd yn ddienw y tu hwnt i'r pwynt hwn.

Gyda phwy y bydd fy nata'n cael ei rannu?

Gellir rhannu eich data ag adrannau ac ysgolion academaidd eraill ym Mhrifysgol Bangor. Gwneir hynny at y dibenion canlynol yn unig:

1. Er mwyn ystyried, prosesu ac ymateb i'ch cais i astudio ym Mhrifysgol Bangor.

2. Er mwyn ystyried, prosesu ac ymateb i unrhyw ymholiad / cais am wybodaeth a wnewch am Brifysgol Bangor.

3. Er mwyn cysylltu â chi i sôn am Brifysgol Bangor.

4. At ddibenion ymchwil ar sail oedran, lleoliad daearyddol a dewis pynciau'r rhai sydd â diddordeb mewn astudio ym Mhrifysgol Bangor. 

Bydd unrhyw adrannau ac ysgolion academaidd ym Mhrifysgol Bangor sy'n derbyn copi o'ch data yn ei brosesu yn unol â'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn a Pholisi Diogelu Data Prifysgol Bangor.

Rhannu eich data gyda thrydydd parti

Gellir rhannu eich data â darparwyr gwasanaethau trydydd parti, ond dim ond at ddibenion ystyried a phrosesu eich cais, cyfathrebu â chi am Brifysgol Bangor a gwneud ymchwil ynglŷn ag oedran, lleoliad daearyddol a diddordeb pwnc(pynciau) y rhai sydd â diddordeb mewn astudio ym Mangor. Bydd unrhyw ddarparwyr trydydd parti yn cadw at Bolisi Diogelu Data Prifysgol Bangor a dim ond fel y disgrifir yma y bydd eich data yn cael ei ddefnyddio.

Ni fyddwn byth yn gwerthu, rhentu, prydlesu na rhannu eich gwybodaeth mewn unrhyw ffordd sy'n anghydnaws â'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn.

Pa hawliau sydd gen i mewn perthynas â'm data?

Mae gennych hawl i ofyn i ni roi'r gorau i brosesu eich data at ddibenion cyfathrebu. Os hoffech i ni roi'r gorau i ddefnyddio eich data at ddibenion cyfathrebu, cysylltwch â ni yn defnyddio'r manylion a roddir yn ein negeseuon e-bost neu yn ein gohebiaeth.

Mae gennych hawliau eraill hefyd mewn perthynas â'r defnydd a wnawn o'ch data a gallwch weld beth yw'r hawliau hynny yma.

Bydd Myfyrwyr Presennol wedi eu cofrestru ym Mhrifysgol Bangor pan fyddwn yn casglu eu gwybodaeth. Byddwch yn cael gwybod sut rydym yn defnyddio eich data ac am yr Hysbysiad Preifatrwydd wrth i ni gasglu'r data. Drwy roi eich gwybodaeth i ni, rydych yn cytuno â thelerau ein Hysbysiad Preifatrwydd.

Pam fod arnoch eisiau fy nata a sut y byddwch yn ei ddefnyddio?

Gallwn ofyn i fyfyrwyr presennol rannu eu data â ni er mwyn i ni fedru rhoi gwybod iddynt am unrhyw waith cyflogedig neu wirfoddol yn ein hadran, megis cynorthwyo gyda Diwrnodau Agored, sesiynau tynnu lluniau neu grwpiau ffocws. Mae’n bosib y byddwn yn eich gwahodd i gwblhau arolwg. Bydd yr arolwg yn nodi os fydd eich ymatebion yn gyfrinachol neu ddim.

Beth yw eich sail gyfreithlon dros brosesu fy nata?

Byddwn yn prosesu eich data ar sail gyfreithlon Cysyniad a Buddiant Dilys. Drwy roi eich manylion i ni, rydych yn cydsynio i ni gysylltu â chi i sôn am gyfleoedd gwaith yn yr adran, a byddech yn disgwyl yn rhesymol i ni wneud. Mae hyn o fudd i chi ac i ni. Mae ein buddiannau ni'n cynnwys buddiannau masnachol a busnes a bydd eich buddiannau chi'n cynnwys cael profiad gwaith ymarferol a thâl ariannol.

Am ba hyd fyddwch chi'n defnyddio fy nata?

Myfyrwyr sydd wedi darparu eu manylion ar gyfer cyfleoedd gwaith posibl: Byddwn yn cadw'ch data am ddim hwy na thair blynedd.

Myfyrwyr sydd wedi darparu gwybodaeth ar gyfer proffil ysgrifenedig neu fideo: Byddwn yn cadw'ch data a'ch gwybodaeth broffil am saith mlynedd.

Gyda phwy y bydd fy nata'n cael ei rannu?

Myfyrwyr sydd wedi darparu eu manylion ar gyfer cyfleoedd gwaith posibl:

Gellir rhannu eich data â chydweithwyr yn yr adran Marchnata, Recriwtio a Chyfathrebu at y dibenion a nodir uchod. Os ydych yn penderfynu cyfrannu at arolwg mae’n bosib bydd eich sylwadau yn cael eu rhannu gydag adrannau eraill o fewn y Brifysgol.

Os byddwch yn penderfynu gweithio fel tywysydd myfyrwyr ar Ddiwrnodau Agored, gellir trosglwyddo eich rhif ffôn i fyfyrwyr eraill sy'n gweithio yn y digwyddiad hwnnw er mwyn hwyluso trefniadau'r diwrnod. Bydd y rhesymau dros wneud hyn yn cael eu hesbonio i chi ymlaen llaw a byddwn yn gofyn i chi gydsynio i hyn cyn rhannu eich manylion.

Myfyrwyr sydd wedi darparu gwybodaeth ar gyfer proffil ysgrifenedig neu fideo:

Lle bo hynny'n berthnasol, gellir rhannu'ch data a'r wybodaeth a roddir yn eich proffil gyda chydweithwyr ar draws y Brifysgol. Efallai y bydd eich gwybodaeth, gan gynnwys unrhyw ddelweddau, yn cael ei chyhoeddi ar ein gwefan, mewn cyhoeddiadau, ar sianeli cyfryngau cymdeithasol neu rywle arall lle byddai disgwyl yn rhesymol i ni hyrwyddo'r Brifysgol. Os oes unrhyw wybodaeth na hoffech ei chyhoeddi, peidiwch â'i darparu yn eich proffil ysgrifenedig / fideo.

Efallai y bydd eich gwybodaeth hefyd yn cael ei rhannu ag asiantaethau trydydd parti sy'n gweithio ar ran Prifysgol Bangor. Bydd eich gwybodaeth bob amser yn cael ei defnyddio yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol a'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn.

Pa hawliau sydd gen i mewn perthynas â'm data?

Myfyrwyr sydd wedi darparu eu manylion ar gyfer cyfleoedd gwaith posibl:

Mae gennych hawl i ofyn i ni roi'r gorau i brosesu eich data at ddibenion cyfathrebu. Os hoffech i ni roi'r gorau i ddefnyddio eich data at ddibenion cyfathrebu, cysylltwch â ni yn defnyddio'r manylion a roddir yn ein negeseuon e-bost neu yn ein gohebiaeth.

Mae gennych hawliau eraill hefyd mewn perthynas â'r defnydd a wnawn o'ch data a gallwch weld beth yw'r hawliau hynny yma.

Myfyrwyr sydd wedi darparu gwybodaeth ar gyfer proffil ysgrifenedig neu fideo:

Mae gennych hawl i ofyn i ni roi'r gorau i ddefnyddio'ch proffil ysgrifenedig / fideo. Os hoffech i ni roi'r gorau i brosesu'ch gwybodaeth / defnyddio'ch proffil ysgrifenedig / fideo, cysylltwch â ni ar y manylion a roddir ar eich ffurflen gydsynio.

Mae gennych hefyd hawliau eraill sy'n ymwneud â'n defnydd o'ch data y gallwch ddod o hyd iddynt yma.

Mae'r Brifysgol yn cynnal nifer o ddigwyddiadau cyswllt addysg i blant a phobl ifanc o wahanol oed. Byddwch yn cael gwybod sut rydym yn defnyddio eich data ac am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn wrth i ni gasglu'r wybodaeth. Drwy roi gwybodaeth amdanoch chi / am eich plentyn i ni, rydych yn cytuno â thelerau ein Hysbysiad Preifatrwydd.

Digwyddiadau i blant dan 16 oed

Mae'r digwyddiadau hyn yn cynnwys Dosbarthiadau Meistr Mathemateg a Chyrsiau Adolygu Gwyddoniaeth. Yn achos plant/pobl ifanc o dan 16 oed byddwn bob amser yn gofyn i riant gydsynio i ni ddefnyddio eich data.

Pam fod arnoch eisiau fy nata a sut y byddwch yn ei ddefnyddio?

Rydym yn casglu manylion y plant/pobl ifanc a fyddai'n hoffi dod i un o'n digwyddiadau er mwyn i ni fedru cynllunio'r digwyddiad. Anfonir ffurflenni cydsyniad rhiant i ysgolion a chânt eu dosbarthu i'r disgyblion. Os yw rhiant/gwarcheidwad yn dymuno i'w plentyn gymryd rhan yn un o'n digwyddiadau, dylent lenwi'r ffurflen a'i dychwelyd.

Ar ôl y digwyddiad, gallwn adrodd faint oedd yn bresennol, beth oedd eu hystod oedran, eu rhyw ac o ble roeddent yn dod. Ni fyddwn yn defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol y gellid ei defnyddio i'ch adnabod yn ein hadroddiadau.

Bydd rhieni/gwarcheidwaid yn cael gwybod sut rydym yn defnyddio data eu plant ac am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn y Ffurflen Cydsyniad Rhiant.

Beth yw eich sail gyfreithlon dros brosesu fy nata?

Byddwn yn prosesu'r data hwn ar sail gyfreithlon Cydsyniad.

Am ba hyd fyddwch chi'n defnyddio fy nata?

Caiff eich data ei ddileu o fewn tri mis i fynd i'r digwyddiad.

Gyda phwy y bydd fy nata'n cael ei rannu?

Ni fydd data personol y gellir ei ddefnyddio i'ch adnabod yn cael ei rannu â neb heblaw am gydweithwyr yn yr adran hon.

Gellir rhannu gwybodaeth am gategorïau ehangach o fynychwyr yn y digwyddiadau hyn, megis rhyw, oedran ac o ble daw mynychwyr, ag adrannau eraill y Brifysgol, Llywodraeth Cymru a'r Sefydliad Brenhinol.

Digwyddiadau i bobl ifanc dros 16 oed

Mae'r digwyddiadau hyn yn cynnwys Ysgolion Haf, Diwrnodau Gwybodaeth a Chyngor i Fyfyrwyr Hŷn a Chynadleddau Bagloriaeth Cymru.

Pam fod arnoch eisiau fy nata a sut y byddwch yn ei ddefnyddio?

Gofynnwn am eich gwybodaeth er mwyn i ni allu cynllunio'r digwyddiad. Darperir eich data i ni mewn dwy ffordd:

1. Caiff eich gwybodaeth ei throsglwyddo i ni gan eich ysgol / coleg. Byddwn yn anfon ffurflen gais atoch, wedi'i chyfeirio at eich ysgol / coleg, a gallwch ddewis a ydych am wneud cais i ddod i un o'n digwyddiadau.

2. Efallai eich bod wedi clywed am un o'n digwyddiadau ac wedi penderfynu troi i fyny ar y diwrnod. Yn ystod y digwyddiad byddwn yn gofyn i chi am eich manylion.

Dim ond at ddibenion cynllunio a gwerthuso ein digwyddiad(au) y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth. Ar ôl y digwyddiad, gallwn adrodd faint oedd yn bresennol, beth oedd eu hystod oedran, eu rhyw ac o ble roeddent yn dod. Ni fyddwn yn defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol y gellid ei defnyddio i'ch adnabod yn ein hadroddiadau.

Bydd y ffurflen gais / ffurflen gofrestru'n cynnwys gwybodaeth am sut rydym yn defnyddio eich data a dolen at yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn.

Beth yw eich sail gyfreithlon dros brosesu fy nata?

Byddwn yn prosesu'r data hwn ar sail gyfreithlon Cydsyniad.

Am ba hyd fyddwch chi'n defnyddio fy nata?

Caiff eich data ei ddileu o fewn tair blynedd i fynd i'r digwyddiad. Rydym yn cadw eich gwybodaeth am y cyfnod hwn er mwyn gweld a fyddwch maes o law yn dewis astudio ym Mhrifysgol Bangor.

Gyda phwy y bydd fy nata'n cael ei rannu?

Ni fydd data personol y gellir ei ddefnyddio i'ch adnabod yn cael ei rannu â neb heblaw am gydweithwyr yn yr adran hon.

Gellir rhannu gwybodaeth am gategorïau ehangach o fynychwyr yn y digwyddiadau hyn, ac am nifer y mynychwyr sy'n mynd ymlaen i fod yn ymgeiswyr neu'n fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor, gydag adrannau eraill yn y Brifysgol.

Pa hawliau sydd gen i mewn perthynas â'm data?

Mae gennych hawl i ofyn i ni roi'r gorau i brosesu eich data at ddibenion cyfathrebu. Os hoffech i ni roi'r gorau i ddefnyddio eich data at ddibenion cyfathrebu, cysylltwch â ni yn defnyddio'r manylion a roddir yn ein negeseuon e-bost neu yn ein gohebiaeth.

Mae gennych hawliau eraill hefyd mewn perthynas â'r defnydd a wnawn o'ch data a gallwch weld beth yw'r hawliau hynny yma.

 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?