UWB Crest

Astudiaethau ôl-radd ym Mangor

Ffioedd a Chyllid

Image of postgraduate students

Pwrpas yr adran hon yw rhoi gwybodaeth i chi am eich ffioedd hyfforddi ôl-radd, dulliau talu a ffynonellau cyllido posibl ar gyfer eich cwrs ôl-radd.

Efallai nad ydych yn sylweddoli bod gennych nifer o ddewisiadau talu hyblyg i helpu i ledaenu cost astudiaeth ôl-radd. Nid oes angen talu’r ffi lawn bob amser ar adeg cofrestru.

Fel y gwyddoch o bosibl, nid oes cyllid statudol ar gael ar gyfer astudiaeth ôl-radd, ac nid yw’r Student Loans Company yn rhoi benthyciadau i dalu ffioedd hyfforddi ôl-radd. Fodd bynnag, mae cymorth ariannol ar gael yn aml mewn gwahanol ffyrdd ac o amryw o wahanol ffynonellau.

Cyfleoedd cyllido cyfredol ym Mangor

Ffynonellau Cyllido Allanol

  • Cyngor i’r rhai sy’n ystyried gwneud cais am gyllid gan y Cyngor Ymchwil
  • Benthyciadau. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am gymorth ariannol i gefnogi’ch dysgu.