UWB Crest

Cyrsiau

Cyrsiau i israddedigion

Image of some students in a group tutorial

Chwilio am gwrs...

Pa bwnc i'w astudio? Pa brifysgol i'w dewis? Mae'n benderfyniad anodd iawn i'w wneud, ond yn un hollbwysig ar gyfer eich dyfodol. O siarad efo'n myfyrwyr yma ym Mangor, rydym yn deall mai'r peth cyntaf mae'r mwyafrif yn chwilio amdano pan fyddant yn dewis prifysgol yw'r cwrs. Yma ym Mangor rydym yn ymfalchïo yn ansawdd yr addysg ac yn cynnig amryw o gyrsiau, nifer o'r rheiny drwy gyfrwng y Gymraeg.

Rydym hefyd yn cynnig nifer o gyrsiau newydd.

Os nad ydych chi eisiau canolbwyntio ar un maes penodol mi fedrwch chi ddewis astudio dau bwnc. Mae hynny'n bosibl drwy ddewis cwrs gradd Cydanrhydedd.

Mi fydd rhaid i bob cais gael ei wneud drwy UCAS, ond os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych chi eisiau trafod unrhyw beth ymhellach - cysylltwch â'r Adran Dderbyniadau ar 01248 382018 neu e-bostiwch marchnata@bangor.ac.uk