UWB Crest

Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau

Cyrsiau israddedig

Mae'r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau arloesol i fyfyrwyr israddedig sydd â diddordeb mewn cyfathrebu, y cyfryngau, y theatr a newyddiaduraeth. Rydym yn cynnig profiad ymarferol proffesiynol ynghyd â gwaith academaidd.

Ein Cyrsiau Cyfrwng Cymraeg

Rydym yn cynnig y cyrsiau cyd-anrhydedd canlynol trwy'r Gymraeg:

Ein Cyrsiau Cyfrwng Saesneg

Gall rhai o gyrsiau eraill o fewn y Coleg Celfyddydau a'r Dyniaethau hefyd fod o ddiddordeb i chi.

Proffil Myfyfrwyr Is-raddedig - Meirion Jones

Treuliodd Meirion Jones flwyddyn wedi pasio ei arholiadau lefel A yn cael mwy o brofiad yn y byd darlledu.

‘Cefais gyfle i fynd ar brofiad gwaith ar gyfres i blant, Concro’r Cwm, ac odd ar hynny, dwi wedi cael salw cyfle wedyn,’ meddai Meirion o Lanymawddwy ger Machynlleth.

Treuliodd wythnos yr haf diwethaf yn byw mewn coedwig yng ngorllewin Cymru yn gwneud gwaith camera ar gyfres Antura. Yn sgil hyny penderfynnodd ei fod eisiau gweithio ar raglenni teledu.
‘Eleni dwi wedi bod yn gweithio ar sawl rhaglen yn y gyfres Ralio +, ac mae’n brofiad gwerthfawr, ac fel arfer dwi’n ffilmio’r digwyddiadau fy hun neu yn ran o dim mwy.”

Mae ei gwrs gradd Astudiaethau’r Cyfryngau yn rhoddi’r cyfle i ddysgu mwy am y diwydiant ac yr offer ac y technegau. Bu’n aelod o Gor ieuenctid Cymru yn 2010 ac mae’n aelod bwrd o’r Aelwyd ac y Clwb Ffermwyr Ifanc, ac mae diddordeb mawr ganddo mewn ynni gwyrdd.