UWB Crest

Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau

Cyrsiau israddedig

Mae'r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau arloesol i fyfyrwyr israddedig sydd â diddordeb mewn cyfathrebu, y cyfryngau, y theatr a newyddiaduraeth. Rydym yn cynnig profiad ymarferol proffesiynol ynghyd â gwaith academaidd.

Ein Cyrsiau Cyfrwng Cymraeg

Rydym yn cynnig y cyrsiau cyd-anrhydedd canlynol trwy'r Gymraeg:

Ein Cyrsiau Cyfrwng Saesneg

Gall rhai o gyrsiau eraill o fewn y Coleg Celfyddydau a'r Dyniaethau hefyd fod o ddiddordeb i chi.

Profiad Myfyriwr

"Y peth gorau am astudio ym Mangor yw ei fod yn bosib astudio drwy’r Gymraeg, ac mae modiwlau diddorol iawn ar gael, gydag amrywiaeth eang ohonynt. Mae’n braf cael cymysgedd o waith ymarferol ac ysgrifenedig, boed yn draethawd neu’n gynhyrchiad ffilm. Eleni, cefais gyfnod o brofiad gwaith gyda phapur lleol ac fe ysgrifennais erthyglau a gafodd eu cyhoeddi yn y papur, sydd yn berthnasol iawn i fy nghwrs. Rydw i wrth fy modd gyda’r cwrs oherwydd ei fod yn llawn hwyl, rydw i wedi dysgu llawer iawn am fyd y cyfryngau, a hefyd wedi gwneud llawer o ffrindiau da. Mae hi wedi bod yn dair blynedd anhygoel!"

CARI ROBERTS, myfyriwr 3ydd blwyddyn