Newyddion
Digwyddiadau
Nid oes yn y calendr digwyddiadau ar hyn o bryd.
Sefydlwyd yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau fel canolfan o ragoriaeth ar gyfer addysg prifysgol, ymchwil a throsglwyddo gwybodaeth mewn pynciau’n ymwneud â’r Diwydiannau Creadigol.
Rydym yn cyfuno astudiaeth academaidd yn y maes gyda dysgu’r sgiliau ymarferol ar gyfer gweithio yn y cyfryngau, boed yn ffilmio, golygu, ysgrifennu sgriptiau, newyddiadura ac actio.
Drwy’r byd, caiff Diwydiannau Creadigol eu diffinio fel: Teledu a Radio; Celfyddydau Ysgrifennu a Chyhoeddi (yn cynnwys Ysgrifennu Creadigol, Ysgrifennu Proffesiynol, Newyddiaduraeth); Ffilm a Fideo; Pensaernïaeth; Cerddoriaeth; Celfyddydau Perfformiadol; Meddalwedd a Gemau Cyfrifiadurol; Crefftau; Dylunio; Ffasiwn Cynllunwyr; y Farchnad Gelf a Hen Bethau; Meddalwedd Hamdden Rhyngweithiol a Hysbysebu.
Ym Mangor mae'r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau yn arbenigo mewn tri maes allweddol:
1. Ysgrifennu Creadigol, Ysgrifennu Proffesiynol, Newyddiaduraeth;
2. Astudiaethau’r Cyfryngau, Ffilm a Theledu, Cyfryngau Newydd;
3. Y Diwydiannau Adloniant a’r Celfyddydau Perfformiadol.
Ar yr ochr greadigol a beirniadol mae’r Sefydliad yn rhannu diddordebau ag Ysgol Gerddoriaeth adnabyddus Bangor (gyda diddordebau mewn perfformio, sain a cherddoriaeth) a chyda’r Ysgol Peirianneg Electronig a Chyfrifiadureg (gyda diddordebau mewn meddalwedd, meddalwedd hamdden rhyngweithiol a dylunio).
Mae’r Sefydliad Cenedlaethol yn rhannu diddordebau allanol â’r Ganolfan Ysgrifennu Creadigol, ac mae’n aelod o’r Hollywood Film Forum a’r European Cinema Research Forum (ECRF). Yn ogystal mae ganddo gynrychiolaeth yn CAST, y Ganolfan Uwch Feddalwedd Technoleg, ac mae’n aelod o’r grwp eSymudedd rhyngwladol. Mae’n cyfrannu at brojectau fel Campws Creadigol, E-lenyddiaeth, y Rhith Ganolfan Ddarllen, Rhith Ysgolion, Diwydiannau Creadigol Ieithoedd Celtaidd, Daearyddiaeth Ddiwylliannol, Emeritus.org, y Rhwydwaith Ysgrifennu Creadigol a Creativity Imagined.org.uk
O fewn Prifysgol Bangor gellir cymryd graddau cyfun, yn cynnwys pynciau Diwydiannau Creadigol, gydag Ysgolion fel Ysgol y Saesneg, yr Ysgol Hanes a Hanes Cymru, Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg a’r Ysgol Ieithoedd Modern. Mae rhaglenni gradd eraill ar y cyd rhwng y Sefydliad a Cholegau o Brifysgol Bangor, wrthi'n cael eu datblygu.
Mae astudio yn y Sefydliad yn brofiad cyfoethog ac ysgogol. Yma rhoddir pwyslais ar ymchwilio creadigol a dealltwriaeth feirniadol. Mae’r Sefydliad yn rhoi mwy na hyfforddiant mewn sgiliau, gan anelu at sicrhau bod ei raddedigion yn dod yn arweinwyr cenedlaethol a rhyngwladol yn eu gwahanol feysydd.