UWB Crest

Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau

Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau

Newyddion

Myfyriwr y Flwyddyn yn dod i Fangor

Mae Myfyriwr y Flwyddyn o Goleg Llandrillo, Julia Cansdale, yn dod i astudio i Brifysgol Bangor ym Medi 2008. Ar ôl cwblhau'n llwyddiannus ei Thystysgrif Mynediad i Addysg Uwch bydd Julia, sy'n dod o Fodelwyddan, yn dod i astudio ar y cwrs BA mewn Astudiaethau Ffilm. Darllen ymlaen...

Prifysgol Bangor i gynnal Cynhadledd MeCCSA 2009

Mae Prifysgol Bangor wedi cael ei dewis i groesawu 6ed Gynhadledd y Rhwydwaith Ôl-raddedigion a gynhelir gan Gymdeithas Astudiaethau’r Cyfryngau, Cyfathrebu a Diwylliant (MeCCSA). Darllen ymlaen...

Cyhoeddi derbynnydd cyntaf Hyfforddeiaeth Gŵyl y Gelli /Prifysgol Bangor!

Mae Simon Price, myfyriwr yn ei ail flwyddyn yn astudio Newyddiaduraeth ac Astudiaethau’r Cyfryngau, wedi ennill hyfforddeiaeth yng Ngŵyl y Gelli eleni. Darllen ymlaen...

Myfyriwr CREAD yn ennill lle yn Ysgol Ffilmiau Efrog Newydd

Mae myfyriwr CREAD, Sion Griffiths wedi cael lle yn Ysgol Ffilmiau Efrog Newydd. Mwy...

Clod gan y Guardian i fyfyriwr Ysgrifennu creadigol

Cafodd y myfyriwr PhD Mark McNay glod gan y Guardian am ei nofel gyntaf 'Fresh' (Canongate, £7.99). Darllenwch yr adolygiad llawn yma.

Arddangosfa 'Bywyd Iddewon yng ngogledd Cymru' ar agor

Mae 'Bywyd Iddewon yng Ngogledd Cymru', arddangosfa newydd yn cofnodi bywyd mewnfudwyr iddeweg yn yr ardal nawr ar agor yn Amgueddfa Gwynedd am y chwe mis nesaf. Mae darlithydd CREAD, Dr Nathan Abrams wedi cymeryd rhan yn rhoi'r gwaith at ei gilydd ynghyd â churadur yr Amgueddfa, Esther Roberts.

Fi, Fo a'r MC

Ffrwyth gwaith ymchwil gan ddarlithydd CREAD fydd cyfres newydd ar S4C yr wythnos yma. Darlithydd newyddiaduraeth Llion Iwan wnaeth gyfarwyddo’r gyfres, ‘Fi, Fo a’r MC’ sydd yn dilyn taith a wnaeth y bardd Syr TH Parry Williams yn 1925 o Rhyd Ddu i Cuba, Panama ac o amgylch De America. Mae ymchwil Llion yn canolbwyntio ar rôl a dylanwad y cyfarwyddwr mewn dogfen. Bydd rhan gyntaf y gyfres i’w gweld nos Fercher, 12 o Fawrth 9pm.

Actio ar Bobl y Cwm

Mae Aaron Morris, sydd bellach ar ei ail flwyddyn yn yr Adran Diwydiannau Creadigol, wedi cael cyfle arall i actio yng nghyfres fwyaf pobologaidd S4C, Pobol y Cwm.  Treuliodd bythefnos yng Nghaerdydd yn ffilmio'r golygfeydd fydd yn cael eu darlledu ddiwedd mis Chwefror.

Cefnogaeth Ariannol i Astudio Drwy'r Gymraeg:

Mae Bangor yn cynnig bwrsariaethau i gynorthwyo'r rheini sy'n dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mwy o fanylion...

Mwy o newyddion....

Ym Mhrifysgol Bangor y lleolir CREAD, sef adran y Diwydiannau Creadigol, sy'n darparu addysg brifysgol, ymchwil a throsglwyddo gwybodaeth yn yr holl bynciau sydd yn ymwneud â’r Diwydiannau Creadigol.

Mae CREAD yn falch o gyhoeddi'r cyrsiau cyffrous canlynol fel cyrsiau newydd ar gyfer 2007

Mae llefydd ar gael yn y meysydd canlynol:

  • Ysgrifennu Creadigol
  • Astudiaethau’r Cyfryngau
  • Newyddiaduriaeth
  • Astudiaethau Creadigol
  • Astudiaethau Ffilm
  • Y Cyfryngau Newydd a Thechnoleg Greadigol
  • Astudiaethau Drama a Theatr
  • Cyhoeddi
  • Cyfathrebu
  • Astudiaethau Adloniant

Cofiwch rydym hefyd yn cynnwys y cyrsiau cyfrwng Cymraeg canlynol:

Cefnogaeth Ariannol i Astudio Drwy'r Gymraeg:

Fel rhan o ymdrech Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynyddu nifer y myfyrwyr sy'n astudio trwy'r Gymraeg, mae Bangor yn cynnig bwrsariaethau i gynorthwyo'r rheini sy'n dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae bwrsariaethau o £500 y flwyddyn ar gael i'r rhai sy'n dewis astudio'r cyfan o'u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, a £250 y lfwyddyn i'r rhai sy'n dewis astudio rhan o'u cwrs (o leiaf 40 credyd y flwyddyn) drwy'r Gymraeg. Am fwy o fanylion am fwrsariaethau ac ysgoloriaethau ewch i'n tudalennau Cyllid Myfyrwyr.

Cysylltwch â'r Dr Kate Taylor ar k.taylor@bangor.ac.uk neu cos606@bangor.ac.uk

Gellir hefyd astudio nifer o gyrsiau ar y cyd â phynciau eraill megis Cymraeg, Cerddoriaeth, Ieithoedd Modern, Saesneg, Gwyddorau Cymdeithasol, Gwyddorau Cyfrifiadur, Y Gyfraith

Dewch i wybod mwy am astudio cwrs cydanrhydedd yn cynnwys y Diwydiannau Creadigol

Cyrsiau M.A.

  • M.A. mewn Ffilm ac Astudiaethau’r  Cyfryngau
  • M.A. Cyfryngau Ymarferol
  • M.A. Drama
  • M.A. Ysgrifennu Creadigol
  • Mae astudiaethau PhD ar gael mewn nifer o bynciau ar draws y sbectrwm Diwydiannau Creadigol, gydag ymchwil posibl mewn meysydd fel Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol, Astudiaethau Ffilm neu ac Astudiaethau’r Cyfryngau, Y Cyfryngau Newydd, Drama, Cyfathrebu….

Drwy’r byd, caiff Y Diwydiannau Creadigol eu diffinio fel: Teledu a Radio; Celfyddydau Ysgrifennu a Chyhoeddi (yn cynnwys Ysgrifennu Creadigol, Ysgrifennu Proffesiynol, Newyddiaduraeth); Ffilm a Fideo; Pensaernïaeth; Cerddoriaeth; Celfyddydau Perfformiadol; Meddalwedd a Gemau Cyfrifiadurol; Crefftau; Dylunio; Ffasiwn Cynllunwyr; y Farchnad Gelf a Hen Bethau; Meddalwedd Hamdden Rhyngweithiol a Hysbysebu.

 

Yma yn CREAD rydym yn arbenigo mewn tri maes allweddol..:

 

1. Ysgrifennu Creadigol, Ysgrifennu Proffesiynol, Newyddiaduraeth; 

 

2. Astudiaethau’r Cyfryngau, Ffilm a Theledu, Y Cyfryngau Newydd;

 

3. Y Diwydiannau Adloniant a’r Celfyddydau Perfformiadol.

 

Ar yr ochr greadigol a beirniadol mae’r Sefydliad yn rhannu diddordebau ag Ysgol Gerddoriaeth adnabyddus Bangor (gyda diddordebau mewn perfformio, sain a cherddoriaeth) a chyda’r Ysgol Peirianneg Electronig a Chyfrifiadureg (gyda diddordebau mewn meddalwedd, meddalwedd hamdden rhyngweithiol a dylunio).

 

Mae’r Sefydliad Cenedlaethol yn rhannu diddordebau allanol â’r Ganolfan Ysgrifennu Creadigol, ac mae’n aelod o’r Hollywood Film Forum a’r European Cinema Research Forum (ECRF).  Yn ogystal mae ganddo gynrychiolaeth yn CAST, y Ganolfan Uwch Feddalwedd Technoleg, ac mae’n aelod o’r grwp eSymudedd rhyngwladol. Mae’n cyfrannu at brojectau fel Campws Creadigol, E-lenyddiaeth, y Rhith Ganolfan Ddarllen, Rhith Ysgolion, Diwydiannau Creadigol Ieithoedd Celtaidd, Daearyddiaeth Ddiwylliannol, Emeritus.org, y Rhwydwaith Ysgrifennu Creadigol a Creativity Imagined.org.uk

 

O fewn Prifysgol Bangor gellir cymryd graddau cyfun, yn cynnwys pynciau Diwydiannau Creadigol, gydag Ysgolion fel Ysgol y Gymraeg, Ysgol y Saesneg, yr Ysgol Hanes a Hanes Cymru, Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg a’r Ysgol Ieithoedd Modern. Mae rhaglenni gradd eraill ar y cyd rhwng y Sefydliad a Cholegau o Brifysgol Bangor, wrthi'n cael eu datblygu.

 

Mae astudio yn y Sefydliad yn brofiad cyfoethog ac ysgogol. Yma rhoddir pwyslais ar ymchwilio creadigol a dealltwriaeth feirniadol. Mae’r Sefydliad yn rhoi mwy na hyfforddiant mewn sgiliau, gan anelu at sicrhau bod ei raddedigion yn dod yn arweinwyr cenedlaethol a rhyngwladol yn eu gwahanol feysydd.