UWB Crest

Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau

Newyddion

Newyddion yn ôl...

Newyddion Hŷn

Sion Griffiths wedi ei ddewis ar gyfer Doc/Future,

Mae Sion Griffiths wedi ei ddewis ar gyfer Doc/Future, cynllun datblygiad proffesiynol gan y BFI a Skillset sydd wedi ei greu i ddatblygu cenhedlaeth newydd o gyfarwyddwyr a chynhyrchwyr yn niwydiannau ffilm, cyfryngau digidol a rhaglenni dogfen Prydain.  http://sheffdocfest.com/view/doc_future

Dyddiad Cyhoeddi: 27/04/2012

Mwy......


Gwyl Ffilm Myfyrwyr Prydain

Mae project ar y cyd rhwng israddedigion ac ol-raddedigion yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau wedi ei ddewis ar gyfer yr Ŵyl Ffilm Myfyrwyr Prydain ac yn cael ei darlledu yn Llundain, Bryste, Newcastle a Lerpwl yn ystod mis Ebrill. Llongyfarchiadau i'r tîm cynhyrchu ar y ffilm "31st May"

Dyddiad Cyhoeddi: 27/04/2012

Mwy......


Mae myfyrwyr Menter trwy Ddylunio Bangor yn dangos eu sgiliau entrepreneuriaeth a’u cynnyrch arloesol yn ‘Ffau’r Ddraig’

Mae deugain o fyfyrwyr Prifysgol Bangor wedi cymryd rhan mewn cystadleuaeth i ennill hyd at £10,000 o wobrau ariannol er mwyn datblygu eu cynnyrch arloesol eu hunain yn barod i'r farchnad.

Heriwyd myfyrwyr 'Menter trwy Ddylunio’ i ddylunio nwydd o’r syniad gwreiddiol i’r prototeip ac i roi cyflwyniad yn hyrwyddo’r cynnyrch i banel o feirniaid.

Dyddiad Cyhoeddi: 29/03/2012

Mwy......


Mae rhaglen ddogfen gan fyfyrwyr wedi ei rhoi ar restr fer categori ffeithiol gwobrau Ffresh, Gŵyl Ddelwedd Symudol Myfyrwyr Cymru.

Mae rhaglen ddogfen gan fyfyrwyr ail flwyddyn yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau wedi ei rhoi ar restr fer categori ffeithiol gwobrau Ffresh, Gŵyl Ddelwedd Symudol Myfyrwyr Cymru.

Dyddiad Cyhoeddi: 12/01/2012

Mwy......


Student work shorlisted for the Ffresh Award: Student Moving Image Festival Of Wales.

Second year SCSM documentary project has been shortlisted in the factual category at Ffresh, the Student Moving Image Festival Of  Wales. 

Dyddiad Cyhoeddi: 12/01/2012

Mwy......


Myfyriwr yn Gohebu o bencampwriaeth Snwcer

Bydd Danny Griffith, myfyriwr yr ail flwyddyn yn treulio'r wythnos ddarllen yn gohebu ar snwcer.

Dyddiad Cyhoeddi: 15/11/2011

Mwy......


Ffilmiau Myfyriwr yn Helpu Milwyr yn America

Cafodd cyfres o ffilmiau byr am fywyd gwyllt gan fyfyriwr o'r ail  flwyddyn, Osian Williams, eu defnyddio i helpu milwyr mewn ysbyty yn America.

Dyddiad Cyhoeddi: 15/11/2011

Mwy......


Cyfres Radio i Goffhau'r Marw o Irac ac Affganistan

Yn sgil ymchwil i ohebu rhyfel gan ddarlithydd o Fangor, mae cyfres ffeithiol yn cael ei darlledu ar BBC Radio Wales y mis yma.

Dyddiad Cyhoeddi: 11/11/2011

Mwy......


Rhestr Fer Gwyl Cyfryngau Celtaidd

Cafodd ffilm ddogfen gan ddarlithydd o Brifysgol Bangor ei dewis ar restr fer yr Wyl Gyfryngau Geltaidd. Darlledwyd 'Dic Jones, yn ei eiriau ei hun' ar S4C yn dilyn marwolaeth y prifardd ac Archdderwydd, Dic Jones. Cafodd ei chyfarwyddo gan Dr Llion Iwan o Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau.

 

Dyddiad Cyhoeddi: 15/03/2011

Mwy......


Rhaglen The One Show yn cofio ymweliad The Beatles â Bangor

Cofiwch wylio rhaglen The One Show ar BBC 1 am 7.00 nos Fawrth 23 Tachwedd i glywed am ymweliad y Beatles â Bangor.

Dyddiad Cyhoeddi: 23/11/2010

Mwy......


Dechrau gyrfa gyda’r BBC yn gwireddu breuddwyd Jack

Mae un o raddedigion Prifysgol Bangor sydd wedi ennill lle ar gynllun hyfforddiant cynhyrchu'r BBC yn ei ddisgrifio fel y ‘dechrau perffaith i’w yrfa’.

Dyddiad Cyhoeddi: 18/11/2010

Mwy......


Stori’r dudalen flaen i Nicholas

Mae Nicholas Whitmore, myfyriwr Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau yn ei drydedd flwyddyn, wedi cael erthygl wedi ei gyhoeddi ar dudalen flaen y Daily Post, Iau 11 Tachwedd 2010.

Dyddiad Cyhoeddi: 12/11/2010

Mwy......


Ymchwilwyr o Brifysgol Bangor yn cael gwahoddiad i roi cyflwyniad ar broject pwysig i Aelodau’r Cynulliad

Am yr ail dro eleni mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor wedi cael gwahoddiad i gyflwyno eu gwaith i gynulleidfa o Aelodau’r Cynulliad. Cafodd Dr Nathan Abrams a Dr Sally Baker, o’r Ysgolion Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau a Gwyddorau Cymdeithas, grant o  £19,000 gan Oelufa Cymru (Beacon for Wales) i gynnal arddangosfa deithiol ar Fywyd Iddewig yng Ngogledd Cymru. Mae Goleufa Cymru’n hyrwyddo gwaith pontio rhwng prifysgolion a’r cyhoedd, gan ddod â’r cyhoedd yn gyffredinol a phrifysgolion at ei gilydd. Hyd yma mae’r arddangosfa wedi ymweld â Blaenau Ffestiniog a Bangor ac mae ym Mhwllheli ar hyn o bryd. Eisoes denodd ymwelwyr o Gymru benbaladr, o Ewrop ac o’r Unol Daleithiau. Daeth hanner cant o bobl i dderbyniad gyda bwyd a gwin cosher ym Mhrif Lyfrgell Prifysgol Bangor ar achlysur dyfodiad yr arddangosfa i Fangor.

Dyddiad Cyhoeddi: 05/11/2010

Mwy......


Agoriad yr Arddangosfa ar Fywyd yr Iddewon – Gyda Derbyniad Cosher

Mae Goleufa Cymru wedi dyfarnu £19,000 i Dr Nathan Abrams o Ysgol Astudiaethau Creadigol Prifysgol Bangor a Dr Sally Baker o’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, gan gydweithredu ag Esther Roberts o Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, i gynnal arddangosfa deithiol ar fywyd yr Iddewon yng Ngogledd Cymru. Trwy’r arddangosfa hon, caiff pobl leol gyfle i ddysgu am hanes yr Iddewon yng Ngogledd Cymru. Mae Iddewon yn byw yng Ngogledd Cymru ers o leiaf ganrif a hanner, ac wedi chwarae rhan bwysig yn ei hanes. Er enghraifft, roedd Isidore Wartski yn faer ar Fangor, ac ef oedd y maer Iddewig cyntaf yng Nghymru.  Cynhelir yr arddangosfa mewn cyfuniad o leoliadau o fewn Prifysgolion ac adeiladau cyhoeddus ar draws Gogledd Cymru. Cynhelir hefyd gyfres o weithdai yn y Brifysgol, ac mewn lleoliadau ac ysgolion yn y cylch.
Mae Sally and Nathan wedi derbyn gwahoddiad gan Yr Adran Astudaiethau Crefyddol, Coleg Menai Bangor, i gyflwno eu hymchwil yn benodol i fyfyrwyr Lefel ‘A’ sydd ar hyn o bryd yn astudio Iddewiaeth ac hefyd i aelodau staff y Coleg.

Dyddiad Cyhoeddi: 06/10/2010

Mwy......