Newyddlen
Cliciwch yma i ddarllen y daflen newyddion diweddaraf
Archif
Newyddion
Cyfrifiadureg yw astudiaeth sylfeini damcaniaethol gwybodaeth a chyfrifiant a’u gweithrediad a’u cymhwysiad mewn systemau cyfrifiaduron. Mae gan gyfrifiadureg amryw o is-feysydd; rhai ohonynt yn pwysleisio cyfrifiant canlyniadau penodol (fel graffigwaith cyfrifiadurol), lle mae eraill (fel darganfyddiad gwybodaeth) yn cysylltu’r broses o ddarganfod patrymau newydd, diddorol a defnyddiol mewn data. Mae’r Ysgol Cyfrifiadureg ym Mangor yn arbenigo yn y ddau is-bwnc yma, ynghyd â chynnig arbenigedd eang o sylfaen cyfrifiaduraeth.
Mae galw cynyddol gan y diwydiannau busnes ac addysg am raddedigion sy’n rhifog, yn gallu ymdopi â chyfrifiaduron gyda hyder ac sy’n gallu cyfathrebu’n effeithiol. Gall yr Ysgol Electroneg a'r Ysgol Cyfrifiadureg darparu’r addysg a’r hyfforddiant i ateb y galw, o gyrsiau damcaniaethol i’r rheini sy’n ymdrin â’r cymwysiadau diweddaraf mewn technoleg fodern.
Mae Prifysgol Bangor yn falch o’i hetifeddiaeth academaidd, y mae hefyd yn sefydliad blaengar a deinamig, sy’n barod i wynebu’r sialensiau sy’n wynebu addysg uwch heddiw. Mae tros hanner o unedau’r Brifysgol wedi derbyn gradd ‘Rhagorol’ am ansawdd eu dysgu, ac mae perfformiad y Brifysgol yn yr Asesiad Ymchwil mwyaf diweddar yn cadarnhau bod ein sefydliad ymchwil gyda’r gorau trwy’r byd. Rydym hefyd ar y brig o ran yr help a’r gefnogaeth sydd ar gael i’n myfyrwyr yn ôl y Times Higher Educational Supplement, Mehefin 17, 2005.
Mae ein cysylltiadau agos gyda chyflogwyr yn sicrhau bod ein cyrsiau yn gyfoes, yn ymdrin â phynciau sy’n berthnasol heddiw ynghyd â thechnolegau’r dyfodol. A thrwy ein cysylltiadau a’n henw da, gall cyflogwyr ddatblygu hyder yn safon uchel ein graddedigion.