Cyrsiau Gloywi Iaith i Staff
Mae’r Uned Sgiliau Iaith yng Nghanolfan Bedwyr yn cynnig cyrsiau datblygu sgiliau iaith ar gyfer staff gweinyddol ac academaidd Prifysgol Bangor.
Mae’r cyrsiau hyn yn addas ar gyfer:
- Cymry Cymraeg sydd â sgiliau siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg ond sydd weithiau’n ansicr neu’n ddihyder wrth ddefnyddio’r iaith yn y gwaith
- Cymry Cymraeg sydd eisiau gwella eu sgiliau ysgrifennu
- Dysgwyr rhugl sydd wedi cyrraedd safon uchel (Safon Uwch / Meistroli) ac sydd eisiau gwella eu sgiliau llafar ac ysgrifennu
Mae’r cyrsiau sgiliau iaith yn canolbwyntio ar y prif bethau sy’n achosi trafferth i bobl wrth siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg e.e. sillafu; treigladau; gwallau cyffredin, defnyddio’r berfau; defnyddio patrymau Saesneg.
Mae'r cyrsiau yn cael eu cynnig ar nifer o batrymau gwahanol:
- Cwrs diwrnod i rai sy'n newydd i ddatblygu sgiliau iaith - staff gweinyddol ac academaidd
- Cwrs awr yr wythnos (10 wythnos) - i aelodau staff sydd wedi bod ar y cwrs diwrnod
- Cwrs diwrnod i rai sydd wedi gwneud y cwrs cyntaf - staff gweinyddol ac academaidd
- Cwrs i staff academaidd - cyfres o sesiynau i staff academaidd sydd eisiau datblygu eu sgiliau iaith eu hunain a sgiliau eu myfyrwyr
- Sesiynau amser cinio fel rhan o'r gyfres Cymorth Cymraeg
Am ragor o fanylion, cysylltwch â tiwtoriaid@bangor.ac.uk