Cwestiynau Cyffredin: Gwefan Cymorth Cymraeg
1. Beth yw Cymorth Cymraeg?
Gwefan i'ch helpu i ddefnyddio'r Gymraeg yn eich gwaith.
2. Pwy all ddefnyddio Cymorth Cymraeg?
Mae'r wefan wedi'i chreu ar gyfer staff Prifysgol Bangor yn benodol, ond mae'r cynnwys yn addas i fyfyrwyr Bangor hefyd.
3. Beth yw cynnwys y wefan?
Mae'r wefan yn crynhoi ynghyd pob math o dempledi parod, adnoddau clywedol a chyfrifiadurol i roi cymorth ymarferol i staff a myfyrwyr y Brifysgol ddefnyddio'r Gymraeg yn eu gwaith o ddydd i ddydd.
4. Mae gen i gwestiwn ynglŷn â'r wefan, gyda phwy ddylwn i gysylltu?
Cysylltwch â Chanolfan Bedwyr os oes gennych unrhyw ymholiadau.