Gweithdai Cymorth Cymraeg 2017
5 gweithdy 45 munud dros amser cinio i staff
Dydd Llun, 16 Hydref
Cymraeg ar y Cyfrifiadur - 10 awgrym doeth
Sut y gall y cyfrifiadur eich helpu i ysgrifennu Cymraeg mewn 10 cam.
Dr Llion Jones
Dydd Mercher, 1 Tachwedd
Trawsieithu nid Cyfieithu
Trosi gwybodaeth o’r Saesneg i’r Gymraeg.
Eleri Hughes
Dydd Mercher, 15 Tachwedd
Drafftio e-byst, llythyrau a dogfennau dwyieithog
Canllawiau ac awgrymiadau ar sut i greu testun addas a darllenadwy yn y ddwy iaith.
Ifan Prys
Dydd Mawrth, 28 Tachwedd
Y Safonau Iaith Gymraeg a Gwasanaethau i Fyfyrwyr
Mae’r Safonau Iaith Gymraeg newydd yn gofyn i ni fod yn rhagweithiol wrth gynnig a darparu gwasanaethau yn y Gymraeg i fyfyrwyr.
Bydd y gweithdy hwn yn edrych ar sut y gallwn sicrhau ein bod yn ateb y gofynion sydd arnom.
Dr Lowri Hughes
Dydd Llun, 4 Rhagfyr
Cyflwyniad i wefan Cymorth Cymraeg (ar gyfer dysgwyr)
Cyflwyniad byr yn rhoi gwybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael ar wefan Cymorth Cymraeg (addas ar gyfer dysgwyr lefel sylfaen).
Elen Davies
Cofrestru
E-bostiwch cymorthcymraeg@bangor.ac.uk neu ffoniwch Canolfan Bedwyr (ffôn: 3293) i gofrestru. Mae croeso i chi ddewis a dethol eich gweithdai. 'Does dim rhaid mynychu pob un.
Mae’r gweithdai’n addas ar gyfer dysgwyr da a siaradwyr rhugl.
Bydd y gweithdai’n cael eu cynnal am 1 o’r gloch yn Ystafell D1.07 Canolfan Bedwyr, Neuadd Dyfrdwy, Ffordd y Coleg.