Mae’r Ysgol Peirianneg Electronig mewn sefyllfa ddelfrydol i’ch hyfforddi am yrfa mewn electroneg a thechnoleg gwybodaeth yn yr unfed ganrif ar hugain.
Mae galw cynyddol gan ddiwydiant, busnes ac addysg am raddedigion sy’n rhifog, yn gallu ymdopi â chyfrifiaduron gyda hyder ac sy’n gallu cyfathrebu’n effeithiol. Gall yr Ysgol Peirianneg Electronig ddarparu’r addysg a’r hyfforddiant i ateb y galw, o’r cyrsiau mwyaf damcaniaethol i’r rheini sy’n ymdrin â’r cymwysiadau diweddaraf mewn technoleg fodern.
Gall yr Ysgol Peirianneg Electronig olrhain ei hanes yn ôl more bell â 1884, lle arweiniodd datblygiadau yn adran Ffiseg y brifysgol at sefydlu un o adrannau ‘Trydan Gymhwysol’ cyntaf y Deyrnas Unedig. Rydym yn parhau ar flaen y gad ym meysydd addysg ac ymchwil electroneg heddiw, gyda’n ymchwil wedi ei gyfrif yn ail trwy’r DU ym maes peirianneg electronig a thrydanol yn yr Ymarfer Asesu Ymchwil (RAE). Yn ddiweddar rydym wedi datblygu graddau newydd mewn Technoleg Cerddoriaeth (gyda’n cydweithwyr yn yr Ysgol Cerddoriaeth) ac rydym hefyd yn cynnig graddau BSc mewn Electroneg ar gyfer pobl heb y cymwysterau arferol mewn Mathemateg a Ffiseg. Mae’r cyrsiau yma yn ychwanegol i’n cyrsiau BEng ac MEng sydd wedi eu achredu gan yr IET.
Mae Prifysgol Bangor yn falch o’i hetifeddiaeth academaidd, y mae hefyd yn sefydliad blaengar a deinamig, sy’n barod i wynebu’r sialensiau sy’n wynebu addysg uwch heddiw. Mae tros hanner o unedau’r Brifysgol wedi derbyn gradd ‘Rhagorol’ am ansawdd eu dysgu, ac mae perfformiad y Brifysgol yn yr Asesiad Ymchwil mwyaf diweddar yn cadarnhau bod ein sefydliad ymchwil gyda’r gorau trwy’r byd. Rydym hefyd ar y brig o ran yr help a’r gefnogaeth sydd ar gael i’n myfyrwyr yn ôl y Times Higher Educational Supplement, Mehefin 17, 2005.
Mae gan yr Ysgol labordai gydag ystod o gyfarpar ac ystafelloedd cyfrifiaduron sy’n cael eu defnyddio i gefnogi ac atgyfnerthu gwybodaeth a chysyniadau a gafodd eu cyflwyno yn ystod darlithoedd a thiwtorialau. At hynny, rydym yn ceisio sicrhau bod ein myfyrwyr yn defnyddio caledwedd a meddalwedd a ddefnyddir yn y diwydiant o’r cychwyn cyntaf ac rydym yn parhau i fuddsoddi mewn systemau cyfrifiaduron a’r meddalwedd diweddaraf i gefnogi ein dysgu.
Gan fod ein staff yn cydweithio â chwmnïau, drwy brojectau ymchwil ar y cyd, partneriaethau trosglwyddo gwybodaeth ac fel ymgynghorwyr, gall myfyrwyr fod yn sicr eu bod yn cael eu haddysgu gan beirianwyr a gwyddonwyr proffesiynol. Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn gweithio ar eich project unigol; yn aml mae’r rhain yn cael eu cyflawni drwy gydweithio gyda chwmni, sy’n rhoi profiad ymarferol gwerthfawr yn y diwydiant. Mae ein myfyrwyr yn cael y profiad hwn yn gryn fantais wrth wneud cais am swydd. Mae gennym hefyd Banel Diwydiannol sy’n cynnwys uwch bersonél rhai o gwmnïau mwyaf Prydain sy’n rhoi cymorth i sicrhau bod ein cyrsiau yn berthnasol heddiw ac yn y dyfodol.
Mae’r Ysgol Peirianneg Electronig yn gweithio'n agos iawn gyda'r Ysgol Cyfrifiadureg. Mae gennym gymuned fywiog o staff academaidd, israddedigion ac ôl-raddedigion, ynghyd â gweithwyr ymchwil ôl-ddoethuriaeth. Mae ein gwaith ymchwil ynghyd â rhyngweithiadau eraill gydag ystod o gwmnïau yn sicrhau bod ein graddau yn adlewyrchu tueddiadau cyfoes a datblygiadau diweddar yn eu pynciau.
Mae ein cysylltiadau diwydiannol yn ein caniatáu i gynnig nifer o addysgedau nawdd i fyfyrwyr. Gall y Brifysgol hefyd rhoi help llaw i chi ddod o hyd i swydd yn ystod eich gwyliau neu amser sbâr ynghyd â swydd blwyddyn i roi profiad o fewn diwydiant i fyfyrwyr addas.
Beth am gysylltu â ni am ragor o wybodaeth am sut y gallwn ni eich galluogi chi i gynllunio’r genhedlaeth nesaf o ddyfeisiadau electronig, neu dewch draw i un o’n Diwrnodau Agored?