UWB Crest

Ysgol Peirianneg Electronig

Cyrsiau i Israddedigion

Image of a circut board

Rydym yn cynnig ystod eang o gyrsiau yn yr Ysgol Peirianneg Electronig.

Delwedd yn dangos logo yr Institution of Engineering and TechnologyBle bynnag mae’n briodol, rydym yn ceisio derbyn achrediad a chymwysiadau oddi wrth yr Institution of Engineering and Technology. Ynghyd â dynodi bod ein cyrsiau’n cydymffurfio â safonau’r sefydliad proffesiynol pwysig yma, pe baech yn derbyn anrhydedd ail ddosbarth neu uwch, mae’r achrediad hefyd yn golygu y byddwch wedi’ch esgusodi’n awtomatig rhag arholiadau mynediad yr IET. Bydd hyn yn rhoi’r hawl i chi ymgeisio am aelodaeth ac, ymhen amser, ennill statws siartredig.

Astudio trwy'r Gymraeg

Nid oes cyrsiau ar gael yn gyfan gwbl trwy’r gymraeg mewn electroneg. gall myfyrwyr astudio rhai o’r modiwlau dwyieithog canlynol fel rhan o’r cyrsiau Peirianneg systemau Cyfrifiadurol, Peirianneg electronig, electroneg (systemau Caledwedd), electroneg (Rhaglennu Meddalwedd) Peirianneg Rheoli ac Offeryniaeth, Peirianneg diogelwch Critigol a Thechnoleg Cerddoriaeth ac electroneg:

  • Cylchedau Digidol 2
  • Project Unigol Electroneg (40 credyd)
  • Project Unigol Electroneg (30 credyd)
  • Labordy Electroneg 1 (20 credyd) gall myfyrwyr ar y Bsc Technoleg Cerddoriaeth ac electroneg hefyd gymryd rhai o’u modiwlau trwy gyfrwng y gymraeg.

Yn ogystal, bydd darlithwyr sy’n siarad Cymraeg ar gael i sgwrsio am eich gwaith o dro i dro yn ein holl bynciau.

Ewch i’n tudalen cyrsiau i israddedigion i weld pa radd sydd o ddiddordeb i chi. 

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cyrsiau ôl-raddedig ewch i’n tudalen i ôl-raddedigion