Cyflwyno sieciau bwrsariaeth i’r myfyrwyr MEng
Heddiw derbyniodd myfyrwyr blwyddyn gyntaf y cyrsiau MEng yn yr Ysgol Peirianneg Electronig eu sieciau bwrsariaeth. Yma gwelir Peredur Davies, Thomas Goodier, Luke Allen, Peter Doggart, Edward Jones, Adrian Cucu a Jamie Harper (ddim yn y llun) yn cael eu cyflwyno gyda siec am £500 bob un gan bennaeth yr Ysgol Peirianneg Electronig Yr Athro Paul Spencer.
Bob blwyddyn bydd myfyrwyr blwyddyn gyntaf y cwrs Meistr integredig yn yr Ysgol Peirianneg Electronig yn derbyn y fwrsariaeth i’w helpu gyda’r flwyddyn ychwanegol o astudio. Mae holl gyrsiau MEng yr Ysgol Peirianneg Electronig wedi eu achredu gan yr IET ac yn cymeryd 4 blynedd i’w cwblhau. Mae’r graddau yma yn boblogaidd iawn gyda chyflogwyr oherwydd eu bod yn paratoi’r graddedigion gyda’r wybodaeth a sgiliau proffesiynol i arwain yn y gweithle.
Ymunwch â ni ar Facebook 
Dylunio’r BLOODHOUND SSC – y car 1000 milltir yr awr. Darlith Cyhoeddus gan Yr Athro Kenneth Morgan FREng FLSW
Prif Darlithfa Ysgol Peirianneg Electronig, 6.00pm Mercher Mawrth 7fed
Mwy o wybodaeth...
Buddsoddiad anferth mewn Peirianneg Electronig
I adnabod perfformiad gwych yr Ysgol Peirianneg Electronig yn Ymarfer Asesu Ymchwil y DU, ac i gydnabod pwysigrwydd peirianneg yn yr economi Gymreig mae Prifysgol Bangor wedi datgan y bydd yn buddsoddi'n helaeth mewn offer a staff newydd yn yr Ysgol Peirianneg Electronig.
Bydd y brif labordy dysgu i israddedigion yn cael ei hadnewyddu a'i ailwampio yn llwyr. Bydd pob myfyriwr yn cael defnyddio'r osgilosgopau mwyaf diweddar gan Agilent Technologies, gyda sgrîn LCD a chyfradd samplo o 2GS/s. Bydd myfyrwyr hefyd yn dysgu defnyddio'r generaduron signalau, cyflenwadau pŵer a systemau mesur diweddaraf yn y labordy ar ei newydd wedd, a rheiny yn rheoladwy â chyfrifiadur. Bydd myfyrwyr yn gadael y brifysgol yn llawn gwybodaeth am y technolegau a dulliau diweddaraf, yn barod i fod yn weithwyr gwerthfawr mewn pob math o fusnesau technolegol.
Mae'r ysgol hefyd yn buddsoddi mewn rhagor o staff, gyda phwyslais ar alluogi "technolegau gwyrdd" ym meysydd cynhyrchu pŵer, offeryniaeth a rheoli a prosesu signalau. Bydd myfyrwyr yn gallu manteisio ar arbenigedd yr aelodau newydd yma o'r staff, fydd yn eu paratoi ar gyfer gyrfa mewn technolegau gwyrdd.
I gloi dyma'r amser gorau erioed i astudio yn yr Ysgol Peirianneg Electronig ym Mhrifysgol Bangor.
Darlith Sefydlu y Nuclear Institute yng Ngogledd Cymru 4 Hydref 2011
Fe’ch gwahoddir i ddarlith a drefnir gan y Nuclear Institute ac a gynhelir gan Brifysgol Bangor.
Teitl y Ddarlith: Safe Nuclear Reactor Design and the Consequences of the Accident at Fukushima
Mwy o wybodaeth...
Darlith Flynyddol Ysgolion Peirianneg Electroneg a Chyfrifiadureg
Dydd Iau 17 Tachwedd 2011
Yr Athro Darrel Ince
Mae Darrel Ince yn un o raddedigion yr Ysgol. Ar hyn o bryd mae’n Athro Cyfrifiaduro yn y Brifysgol Agored ac yn awdur oddeutu 120 o erthyglau academaidd a 22 o lyfrau ar bynciau’n ymwneud â datblygu systemau. Roedd yn olygydd papurau cyfrifiadurol Alan Turing, y gwyddonydd arloesol ym maes cyfrifiadureg a chryptograffydd adeg y rhyfel. Roedd Yr Athro Ince yn aelod o’r adolygiad diweddar ar ofal plant a drefnwyd gan y llywodraeth glymblaid.
“Why Systems Development Still Fails”
Fe wnaeth arolwg diweddar amcangyfrif bod £26 biliwn wedi’i wastraffu ar systemau gan Lywodraeth Prydain. Yn fy narlith byddaf yn edrych ar lawer o’r rhesymau. Er ein bod yn llwyddo’n llawer gwell drwodd a thro i gyflawni tasgau technegol, eto mae yna rai methiannau mawr, difrifol. Bydd fy sgwrs yn canolbwyntio ar yr Integrated Children's System (ICS). Set o brosesau a gomisiynwyd ar gyfer Lloegr gan y llywodraeth Lafur flaenorol oedd y system hon, ond fe’i mabwysiadwyd yng Nghymru hefyd. Mae wedi arwain at weithwyr cymdeithasol plant yn cael eu clymu wrth eu cyfrifiaduron am hyd at 85% o’u hamser, gan eu rhwystro rhag ymwneud â phlant mewn angen a’u teuluoedd. Roedd ICS yn unigryw o ran ei fod yn fethiant technegol, trefniadaethol, gwleidyddol, proffesiynol, rheolaethol a diwylliannol, lle roedd datblygwyr y systemau eu hunain yn ddifai. Roedd yn unigryw hefyd yn yr ystyr ei bod yn ymgorffori’r holl gamgymeriadau y gellir eu gwneud wrth ddatblygu systemau. Bydd y sgwrs yn addas ar gyfer cynulleidfa na yw’n arbenigwyr ar gyfrifiaduron.
- 5.30pm – Neuadd John Phillips, Ysgol Diwydiannau Creadigol, Ffordd y Coleg
- Croeso i bawb, dim angen archebu lle ymlaen llaw.
- Lluniaeth ysgafn ar gael o 5.00pm


Cwrdd â’n Dyfodol – cyflwyniadau poster project y flwyddyn olaf
4pm ymlaen, Dydd Mercher 9fed Chwefror, Yr Ysgol Peirianneg Electronig a’r Ysgol Cyfrifiadureg
Llyfrgell yr 2il Lawr, Stryd y Deon, Prifysgol Bangor
Te prynhawn
Dewch i gyfarfod myfyrwyr blwyddyn olaf Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig cyn iddynt ysgrifennu eu traethodau hir. Mae’r sesiwn boster flynyddol hon yn werthfawr dros ben i’r myfyrwyr wrth iddynt gwblhau eu projectau blwyddyn olaf, gan ei bod yn rhoi cyfle iddynt ddangos y projectau cyffrous y maent yn eu datblygu. Rydym yn estyn croeso cynnes i weithwyr proffesiynol yn y diwydiant ynghyd ag academyddion eraill i gwrdd â’n myfyrwyr a siarad gyda nhw am eu projectau ar adeg allweddol yn eu gyrfa academaidd.
Os hoffech ddod i’r sesiwn hon anfonwch air at stevie.scanlan@bangor.ac.uk
Gallwch weld lluniau o'r cyflwyniadau poster ar dudalen Facebook Ysgol Peirianneg Electronig
Seminar: Cyswllt busnes yn yr Ysgolion Peirianneg Electronig a Chyfrifiadureg, Prifysgol Bangor.
Yn yr hinsawdd presennol, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn rhannu gwybodaeth, cydweithio’n effeithiol a gwneud y gorau o gyfleoedd cyllido ar y cyd rhwng busnes ac academia. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cyllido gwahanol gynlluniau, gyda’r bwriad o helpu prifysgolion i gefnogi anghenion busnesau lleol. Bwriad y cynlluniau hyn yw hwyluso cael gafael ar yr offer arbenigol ac ar y staff a’r myfyrwyr a geir mewn prifysgolion. Felly, p’un ai ydych eisiau recriwtio graddedigion o’r safon uchaf neu ddefnyddio’r offer diweddaraf, mae'n debygol bod yna gynllun a all eich helpu. Bydd y seminar yma’n rhoi cyfle i chi weld beth sydd gennym i’w gynnig ac egluro hefyd sut y gellwch sicrhau cyllid a defnyddio ein harbenigedd a’n hoffer.
Cynhelir sesiwn gyfarwyddo dros ginio o 12pm – 1pm ar 2 Rhagfyr 2010 yn yr Ysgolion Peirianneg Electronig a Chyfrifiadureg, Stryd y Deon, Bangor LL57 1UT. Mae parcio am ddim ar gael. I gael eich tocyn ar gyfer yr achlysur am ddim hwn, a thrwydded barcio, anfonwch fanylion eich cwmni a’r nifer fydd yn dod. Darperir cinio. Am fwy o fanylion ebostiwch stevie.scanlan@bangor.ac.uk
Llyfr newydd am Beirianneg Electronig ym Mangor 1890-2010 allan nawr.
Darlith Flynyddol Ysgolion Peirianneg Electronig a Chyfrifiadureg
Dydd Mercher, 24 Tachwedd 2010, 5.30pm – Neuadd John Phillips, Ysgol Diwydiannau Creadigol a’r Cyfryngau, Ffordd y Coleg
Richard Parry-Jones, Cyn Islywydd Grŵp a Phrif Swyddog Technegol Cwmni Moduron Ford
“Sustainable Speed - the story of how cutting edge technology is transforming future cars - to eliminate all accidents, emissions and congestion”
Trafodaeth ar y ffordd y bydd y system cludiant personol yn debygol o gael ei thrawsnewid o ganlyniad i newidiadau mewn technoleg cerbydau, technoleg ynni a thechnoleg cyfathrebu i wneud moduro’n gynaliadwy, yn ddi-ddamweiniau a chael gwared ar dagfeydd. Cyflawnir hyn heb beryglu holl fanteision system cludiant personol heddiw, fel hwylustod, cyfforddusrwydd, hyblygrwydd a hwyl. Rhoddir sylw i drydanu a rheolaeth ddigidol gynyddol, yn cynnwys rheolaeth annibynnol.
Croeso i bawb, dim angen cadw lle ymlaen llaw. Lluniaeth ar gael o 5.00 pm
Llongyfarchiadau i holl raddedigion yr Ysgol Perianneg Electronig!


Swydd Darlithydd mewn Peirianneg Electronig
Mae’r Ysgol Peirianneg Electronig am apwyntio unigolyn rhagorol i swydd darlithydd mewn Peirianneg Electronig. Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu tuag at ehangiad arfaethedig ymchwil yr ysgol mewn Electroneg Organig neu Gyfathrebu Optegol. Mwy wybodaeth...
Sesiwn Posteri
Cafodd myfyrwyr o’r drydedd flwyddyn, o ysgolion Peirianneg Electronig a Chyfrifiadureg, gyfle i arddangos eu prosiectau mewn sesiwn posteri dydd Mawrth, Chwefror 10fed. Roedd ffrindiau, teulu, staff a phartneriaid diwydiant yn bresennol yn y digwyddiad. Fe fu myfyrwyr yn arddangos eu gwaith yn ogystal ag ateb cwestiynau gan y panel beirniadu; Yr Athro Sian Hope, Dirprwy-Is-Ganghellor ac Athro Chyfrifiadureg, Dr Jonathon Roberts, Chyfrifiadureg, a Dr Iestyn Pierce, Ysgol Peirianned Electronig. Fe aeth y wobr gyntaf, sef taith i ddau mewn hofrennydd dros Eryri, i Jack Warder a’r ail wobr i Adam Telford. Enillydd y drydedd wobr oedd Olga Kasprzyk. Fe gafodd gwaith Anthony Albuquerque a Gareth Roberts ei ganmol gan y beirniadai hefyd. Mae’r posteri yn cael ei arddangos o fewn yr ysgol. Llongyfarchiadau mawr i’r enillwyr.
Cliciwch yma i wylio'r fideo

O'r chwith: Dr Iestyn Pierce, Jack Warder, Adam Telford, Gareth Roberts, Olga Kasprzyk, Anthony Albuquerque a Dr Jonathan Roberts
Gwobrau a Doethuriaethau
Dyma gyfres o luniau yn dangos enillwyr gwobrau a myfyrwyr ôl-radd o'r Ysgol Peirianneg Electronig. Llongyfarchiadau i bawb.

Yr Athro Martin Taylor hefo Penny Easter a dderbyniodd ei PhD eleni

Gwobr i'r project tîm MEng, Mark Anthony Fisher a berfformiodd yn rhagorol

Gwobr project tîm MEng a ddyfarnwyd i Daniel Simeon Knight wnaeth hefyd berfformio'n rhagorol

Gwobr perfformiad rhagorol project tîm MEng a ddyfarnwyd hefyd i Gareth Jones

Gwobr IEEE ar gyfer y myfyriwr gorau yn ei flwyddyn gynderfynol, a ddyfarnwyd i Stefan Roberts
Rhagor o fanylion RAE
Rydym bellach wedi derbyn rhagor o wybodaeth ynglŷn â pherfformiad gwych yr Ysgol yn Ymarfer Asesu Ymchwil 2008 (RAE). Yn ogystal â chael ein dyfarnu yn ail ar y cyd drwy’r DU a derbyn y sgôr uchaf ym Mhrifysgol Bangor, rydym nawr yn gwybod fod 100% o’r papurau ymchwil a gyflwynwyd wedi eu dyfarnu o safon rhyngwladol (wedi sgorio 2*, 3* neu 4*) a dyfarnwyd 75% o’r rhai gyflwynwyd yn arwain y byd (4*) neu o safon rhyngwladol rhagorol (3*). Mae hyn yn gadarnhad pellach o’r ymchwil ardderchog sy’n cael ei wneud yn yr Ysgol Peirianneg Electronig, ymchwil sy’n gwella’r profiad addysgu i’n holl fyfyrwyr.
Rhifyn diweddaraf o "Electronics Leads"
Gallwch lawr-lwytho y rhifyn diweddaraf o "Electronic Leads" yma.
Canlyniad ardderchog yn yr RAE
Roedd canlyniad yr Ysgol Peirianneg Electronig yn Ymarfer Asesu Ymchwil 2008 (RAE) yn ardderchog, gyda 70% o’n allbynnau wedi eu sgorio gyda 3* neu 4* (y marciau uchaf, gydradd ag ymchwil o safon rhyngwladol) a’r gyfran uchaf ar y cyd o waith 4* trwy’r DU. Dengys Tablau RAE y Guardian Ysgol Peirianneg Electronig Bangor yn ail yn y DU.
“Mae Ysgol Peirianneg Electronig bob amser wedi bod ag enw da am ymchwil o’r safon uchaf a mae’n bleser gen i fod hyn wedi ei gydnabod yn swyddogol yn RAE 2008,” meddai Yr Athro Paul Spencer, Pennaeth yr Ysgol. Aeth ymlaen i ddweud “mae’r canlyniad yma’n arbennig o bwysig i’n myfyrwyr, isradd ac ôl-radd wrth iddynt gael profiad o arbenigeddau ymchwil yr ysgol ym mhob agwedd o’r addysg maent yn ei dderbyn”.
Cliciwch yma am fwy o fanylion ynglyn a canlyniadau RAE 2008 y Brifysgol.