Canolfan Astudiaethau Canoloesol
Mae 'Medievalism Transformed', y gynhadledd flynyddol sydd wedi ei noddi gan y Ganolfan Astudiaethau Canoloesol, wedi denu diddordeb ariannol gan ddau gronfa mawreddog: Cymdeithas Hanesyddol Brenhinol a'r AHRC, a siaradwr gwadd yr Athro Nicholas Orme (Exeter). I ddarllen mwy am y gynhadledd, ewch i'r wefan: www.bangor.ac.uk/medievalismtransformed
Mae sesiynau Hyfforddi Paleograffeg yn parhau i gael eu cynnig trwy’r Ysgol i Raddedigion newydd yng Ngholeg y Celfyddydau a’r Dyniaethau ac yn cael eu trefnu gan Dr Raluca Radulescu (Saesneg). Mae’r cyrsiau hyfforddi a oedd yn flaenorol yn cael eu hariannu gan yr AHRC (2005-7), yn boblogaidd iawn gydag ôl-raddedigion ledled prifysgolion Prydain. Am fwy o fanylion am y cynllun blaenorol ewch i http://www.bangor.ac.uk/palaeography_training/index.php.
Am fwy o fanylion am y cynllun cyfredol, Dr Raluca Radulescu (r.radulescu@bangor.ac.uk) neu Mrs Llinos Williams
(llinos.williams@bangor.ac.uk).
Bydd y 6ed Gynhadledd Ryngwladol Layamon yn cael ei chynnal yng Ngregynog, 1-6 Gorffennaf 2008. Bydd y gynhadledd sydd wedi ei threfnu gan Dr Raluca Radulescu (Bangor) a Dr Rosamund Allen (Queen Mary, University of London), yn dod ac ysgolheigion o Brydain, America, Yr Almaen, Ffrainc a thu hwnt at ei gilydd. Mae'r gynhadledd hon wedi ei chynnal bob ychydig flynyddoedd ers 1992 ym Mhrydain, America ac Ewrop. Bydd y 6ed Gynhadledd hon yn cael ei chynnal yn bennaf gan Brifysgol Bangor ac yn cadw'r traddodiad yn fyw. Am fwy o fanylion cysylltwch â Dr Raluca Radulescu (r.radulescu@bangor.ac.uk) neu Dr Ros Allen (r.s.allen@qmul.ac.uk).
Yn dilyn llwyddiant y cynllun hyfforddi palaeograffeg ar gyfer myfyrwyr doethuriaeth a gafodd ei ariannu gan yr AHRC a’i redeg ym Mangor gan Dr Raluca Radulescu (2005-7), bydd yr Ysgol i Raddedigion ym Mhrifysgol Bangor yn cefnogi datblygiad a hyfforddiant lleol yn y maes rhyngddisgyblaethol hwn. Mae rhaglen hyfforddi ymchwil dwys yn cael ei gynllunio ar hyn o bryd. Rydym yn rhagweld y bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i ôl-raddedigion Prifysgol Bangor a’r rhai hynny sy’n perthyn i golegau Prifysgol Cymru. Er hynny bydd ymgeiswyr allanol yn cael eu hannog i wneud cais ar gyfer y llefydd gwag eraill.
Bydd y gangain Prydeinig o'r Gymdeithas Rhyngwladol Arthuraidd yn cyfarfod yn Neuadd Gregynog, Y Drenewydd, Powis ar 14-16 Medi 2007.
Aelodau yn unig sydd yn cael mynychu. Gellir cael mwy o fanylion am sut i ymaelodi drwy ymweld â http://www.st-andrews.ac.uk/~iasbb/index.htm
Am fwy o fanylion am y gynhadledd, gan gynnwys y rhaglen, cysylltwch â'r trefnwyr, Dr Raluca Radulescu neu Dr Neil Thomas
Cliciwch yma i lwytho'r ffurflen gofrestru i lawr (Word Doc)
Mae cynllun peilot mewn paleograffeg ganoloesol yn awr yn cael ei drefnu gan y Dr Raluca Radulescu (Saesneg) ar y cyd â chanoloeswyr o bobman ym Mhrifysgol Cymru. Bydd y cynllun yn rhedeg yn ystod 2005-6 ac fe’i cynigir i bob myfyriwr ôl-raddedig a gofrestrwyd am radd doethur, yn amodol ar gymeradwyo ac argymhelliad gan y goruchwyliwr/wyr a’r adran(nau) perthnasol. Cynllun yw hwn dan y Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar (IMEMS), sydd yn dwyn ynghyd ysgolheigion yn y meysydd hyn ym Mhrifysgol Cymru. Bydd mwy o fanylion, gan gynnwys llythyr newyddion a fforwm drafod, ar gael ar y dudalen hon o Ragfyr 2005 ymlaen.