UWB Crest

Yr Adran Ystadau

Gwasanaethau Arlwyo

Image of tables set for catered event

Mae ein hisadran Arlwyo yn rheoli amrywiaeth o fannau arlwyo ar y safle yn ogystal â gwasanaeth arlwyo i’ch adeilad ar gyfer digwyddiadau arbennig.
Siopau Coffi a Chaffis.

 

‘Bwyd@Bangor’

Gwasanaeth arlwyo’r Brifysgol sy’n dosbarthu i chi

O goffi ganol bore i fwffe moethus neu arlwyo arbenigol ar gyfer digwyddiad – does dim yn rhy fach neu’n ormod i’n tîm 'Bwyd@Bangor'. Byddant yn dosbarthu’r hyn yr ydych wedi ei archebu i unrhyw le – eich swyddfa, ystafell gyfarfod, digwyddiad neu unrhyw un o ystafelloedd cyhoeddus y Brifysgol a lleoliadau a busnesau o amgylch Bangor.

Rydyn ni’n ymdrechu i ddarparu gwasanaeth ac ansawdd o’r radd flaenaf, ac rydyn ni’n cynnal digwyddiadau rheolaidd ar gyfer y clwb cwsmeriaid. Dyma gyfle gwych i’n cwsmeriaid ddweud wrthyn ni sut ydyn ni’n gwneud, profi syniadau newydd ar gyfer y fwydlen a chael cinio am ddim!

 

Bar Uno - Ar agor ar safle Ffriddoedd ar gyfer bwyd a diod

Bwydlen Bar Uno

Efallai eich bod yn byw ar Safle Ffriddoedd, yn aelod o staff y Brifysgol neu’n ymwelydd, ond byddwch i gyd wrth eich boddau gyda’n bar caffi, sy’n gyfandirol ei naws.  Mae digonedd o ddewis i bawb ar y bwydlenni brecwast, cinio a swper, yn brydau sylweddol neu iach. I gyd am bris rhesymol iawn!
Mae Bar Uno gyferbyn â Neuaddau newydd Idwal a Gwynant ar Safle Ffriddoedd.

Siopau Coffi a Chaffis

Mae gennym nifer o fannau arlwyo ar y safle sydd ar agor i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr fel y Bar Uno, Caffi Glas (Canolfan Yr Amgylchedd Cymru), Y Bistro a Cafe Teras. Os ydych am gael coffi cyflym rhwng darlithoedd neu eistedd i lawr a mwynhau pryd poeth, bydd gan yr adran arlwyo'r hyn sydd arnoch ei angen.