Dewislen Gwasanaethau Glanhau
Mae isadran Gwasanaethau Glanhau'r Adran Ystadau a Chyfleusterau yn darparu gwasanaethau glanhau ar gyfer y Brifysgol. Mae’r tîm Domestig yn gweithredu ar draws ardal ddaearyddol eang, gan ddarparu gwasanaethau glanhau ar gyfer lletyau yn Wrecsam a Llanelwy, glanhau mannau academaidd ym Mhorthaethwy ac, wrth gwrs, glanhau mannau dysgu, mannau gweinyddol a neuaddau preswyl ym Mangor.
Mae ein tîm yn cynnwys rhyw 150 o staff sydd yn glanhau mwy na 75 o adeiladau bob wythnos ar gyfer rhyw 2500 o oriau!
Rydym yn gwneud ein gorau i fod mor deg ag sydd bosibl i’r amgylchedd, ac wrthi’n ymchwilio i ddeunyddiau sy’n deg i’r amgylchedd. Rydym hefyd yn chwarae rhan fawr yn ymgyrch y Brifysgol dros ailgylchu.
Cyn inni fynd ati o ddifrif i ailgylchu, yn ystod y flwyddyn, byddem yn defnyddio mwy na 185,000 o fagiau bin plastig. Yn sgil ailgylchu, mae’r nifer hon yn lleihau’n sylweddol, felly helpwch ni i gael mwy fyth o leihad wrth ailgylchu cymaint o’ch gwastraff ag sydd bosibl a chadw gwastraff cyffredinol mor isel ag sydd modd.