Mae’r Tîm Cynnal yn cynnwys gweithwyr proffesiynol a chrefftwyr sydd â’r dasg o ofalu am adeiladau a gwasanaethau’r Brifysgol, er mwyn darparu amgylchedd diogel a chyffyrddus i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr.
Atgyweiriadau o Ddydd i Ddydd
Mae’r uned gynnal yn cyflawni mân atgyweiriadau a gwaith cynnal gan ddefnyddio’r gweithlu mewnol, contractwyr tymor penodol, neu gontractwyr arbenigol cydnabyddedig eraill fel y bo’n briodol. Fel rheol, wrth gyflawni gwaith cynnal, mae angen ystyried nifer o faterion deddfwriaethol a rhai sy’n gysylltiedig ag yswiriant a diogelwch, felly mae’n bwysig gwneud cais am unrhyw waith cynnal trwy’r Uned Gynnal, lle mae’r unigolion wedi cael hyfforddiant proffesiynol i ymdrin â’r materion hyn.
Mae’r gyllideb Ystadau a Chyfleusterau ar gyfer Gwaith Cynnal yn cynnwys darpariaeth ar gyfer atgyweiriadau ar ffabrig adeiladau presennol a gwasanaethau. Nid yw’n talu am beiriannau adrannol nac am gynnal offer.
Os hoffech wneud cais i gael gwneud gwaith cynnal a chadw, cysylltwch â’r Adran Ystadau.
Gwaith Cynnal wedi’i Gynllunio
Mae gwaith cynnal wedi’i gynllunio wedi’i gyfyngu i offer hanfodol a ddefnyddir i gynnal diogelwch a gweithrediad cost-effeithiol adeiladau, peiriannau ac offer. Ceir contractau cynnal fel y bo hynny’n briodol er mwyn sicrhau bod dyletswyddau’n cael eu cyflawni. Mae’r contractau hyn yn cynnwys larymau tân, lifftiau, cynnal boeleri a goleuadau argyfwng.
Cynnal a Chadw o Bwys
Yn gyffredin â’r rhan fwyaf o Brifysgolion eraill, mae gan y Brifysgol lawer o waith cynnal wedi hir-hel, a rhan ohono’n cael ei gwneud drwy strategaeth 10 mlynedd noddedig gan yr Ystadau. Mae hwn yn gyfyngedig i waith penodol sydd wedi’i flaenoriaethu dros gyfnod o 10 mlynedd, ar sail arolwg ar gyflwr yr Ystâd.
Y nod yw gweithredu cynllun cynnal a fydd yn codi safon adeiladau’r Brifysgol fel eu bod yn cydymffurfio â diffiniad Categori B Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS): “Cadarn, yn gweithredu’n ddiogel, a heb ddangos unrhyw ddiffygion o bwys”.