Dolennau Cyflym
Chwilio
- Defnyddiwch y blwch Google yma i chwilio drwy'r safle...
Gwneud cais
Amcan Adrannol Ystadau a Chyfleusterau
Ein hamcan yw rhoi gwasanaethau effeithlon o ansawdd uchel yn gyson gyda'r bwriad o fynd y tu hwnt i ddiswyliadau ein cwsmeriaid a chynorthwyo'r Brifysgol i sicrhau rhagoriaeth.
Byddwn yn cyflawni ein hamcanion drwy ymatebolrwydd, hyblygrwydd ac arloesi a thrwy gefnogi datblygiad ein staff.
Mae’r Adran Ystadau a Chyfleusterau yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau cefnogi sy’n gwneud cyfraniad sylweddol i’r Brifysgol. Ein prif nod yw ychwanegu gwerth at fywyd prifysgol.
Gyda dros 400 o staff, mae gennym amrywiaeth o arbenigedd i gefnogi’r Brifysgol. Mae ein gwasanaethau yn amrywio o lety, diogelwch a glanhau, i neuaddau, arlwyo a phrojectau cyfalaf.
Ein nod yw darparu gwasanaeth rhagorol a gwerth am arian drwy geisio deall anghenion ein defnyddwyr a gwella profiad myfyrwyr. Rydyn ni’n wastad yn ceisio dod o hyd i ffyrdd sy’n gwella ein gwasanaethau, ac mae ein hamcanion yn canolbwyntio’n glir ar geisio cynnal a chadw a datblygu ein gwasanaethau.
Rydyn ni’n croesawu eich adborth ac yn eich annog i roi gwybod i ni sut ydych chi’n teimlo yr ydyn ni’n ei wneud. Gellwch gysylltu â ni drwy e-bostio estates@bangor.ac.uk
Mike Goodwin
Cyfarwyddwr Ystadau a Chyfleusterau