Mae’r Adran Ystadau a Chyfleusterau yn darparu amryw o wasanaethau post ar gyfer y Brifysgol. Mae’r rhain yn cynnwys yr elfennau isod:
- Gwasanaeth Post Mewnol ar gyfer llythyrau a phecynnau rhwng adrannau’r Brifsygol.
- Gwasanaeth Post Allanol ar gyfer post allanol, yn cynnwys parseli ac eitemau i wledydd tramor.
- Prosesu a Dosbarthu eitemau o bost sy’n cyrraedd yn ganolog.
- Cyngor ar bob agwedd ar y Post Brenhinol a gwasanaethau negesydd i’r DU a thramor, yn cynnwys postiadau swmp.
Rydym wedi’n Lleoli ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau, drws nesaf i’r Ystafell Ddiogelwch.
Fel rheol, bydd postmon y Brifysgol yn casglu post adrannol ddwywaith y dydd, ond gellwch ollwng post yn Ystafell y Post ar ddyddiau eraill rhwng 10am a 4pm.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni â chroeso:
Staff
Ystafell y Post
Ffôn (01248) 38 2008
Avril Roberts
Rheolwr
Ffôn (01248) 38 2622
Dafydd Jones
Goruchwyliwr Ystafell y Post
mailroom@bangor.ac.uk
.