UWB Crest

Yr Adran Ystadau

Gwasanaethau Diogelwch

Image of a padlock

Yn uned Ddiogelwch yr Adran Ystadau a Chyfleusterau, ceir tîm hyfforddedig o unigolion sydd â chyfrifoldeb dros ddiogelwch myfyrwyr, staff ac ymwelwyr, yn ogystal ag Ystâd y Brifysgol.

Mae’r Tîm Diogelwch yn weithredol dros ardal ddaearyddol eang, gan ymdrin â safleoedd o Abergwyngregyn i Fona yn Ynys Môn, yn ogystal, wrth reswm, â sicrhau diogelwch adeiladau’r Brifysgol, ei hystâd a’i defnyddwyr ym Mangor. Mae’r adain Ddiogelwch hefyd yn gyfrifol am batrolio meysydd parcio’r Brifysgol ac am sicrhau bod mynedfeydd brys bob amser yn glir.