Mae’r Is-adran Delathrebu’n gyfrifol am reoli caledwedd a meddalwedd y system Delathrebu er mwyn darparu switsfwrdd a gwasanaeth telathrebu o ansawdd uchel i’r Brifysgol.
Mae’r system delathrebu bresennol yn cael ei harolygu ar hyn o bryd, a chaiff ei diweddaru’n ddiweddarach yn y flwyddyn.
Rhoi gwybod am Ddiffygion
Os ydych yn cael problemau â’ch ffôn, cysylltwch ag Avril ar estyniad 2622 neu anfonwch e-bost at telecoms@bangor.ac.uk. Yna, bydd Avril yn cynnal nifer o brofion ar-lein er mwyn canfod natur y broblem.
Setiau Llaw Newydd
Os bydd profion yn dangos bod angen set law newydd, argraffwch a llenwch y Ffurflen Gais am Ffôn Newydd, y gellwch ei lawrlwytho yma (cyswllt â’r ffurflen o.g.y.dd.), a’i hanfon, fel copi caled, trwy ffacs neu e-bost, at Avril wrth y Switsfwrdd.
Ffonau ac Estyniadau Newydd
Os oes angen ichi drefnu i ffôn newydd gael ei osod, cysylltwch ag Avril ar estyniad 2622 neu anfonwch e-bost at telecoms@bangor.ac.uk. Yna, bydd hi’n gwirio cynhwysedd y pwynt data yn eich lleoliad a rhoi cyngor priodol ichi.
Cael Hyd i Rif Ffôn
Mae defnyddio Ymholiadau Llyfr Ffôn BT yn costio tua £1.5k bob blwyddyn i’r Brifysgol. Fodd bynnag, mae ymholiadau llyfr ffôn ar y rhyngrwyd yn rhad ac am ddim ac yn syml iawn. Cliciwch ar un o’r cysylltiadau isod i gael hyd i rif.
• Ymholiadau Llyfr Ffôn BT
• Tudalennau Melyn