Cronfa Bangor
Ers ei sefydlu ym 1884, mae gan Brifysgol Bangor hanes balch o ddyngarwch. Nodwedd bwysig o’i sefydlu oedd y cyfraniadau gwirfoddol a wnaed gan ffermwyr a chwarelwyr lleol o’u cyflogau prin. Mae’r traddodiad hwn o roi yn parhau hyd heddiw ac rydym yn gofyn i chi ymuno ag alumni eraill i roi rhodd i Gronfa Bangor a chefnogi myfyrwyr heddiw.
Prif ddiben Cronfa Bangor yw galluogi'r brifysgol i gyfoethogi a rhoi elfennau ychwanegol i’r profiad a gaiff ei myfyrwyr. Gallwch ddewis bennu eich rhodd o fewn tri dosbarth bras:
- Cronfa’r Is-ganghellor – Mae'r cronfeydd hyn yn cefnogi blaenoriaethau pwysicaf y brifysgol a bennwyd gan gynllun strategol y brifysgol.
- Cymorth i Fyfyrwyr – Mae’r gronfa hon yn darparu ysgoloriaethau, bwrsariaethau, teithiau maes, interniaethau, grantiau teithio a chymorth uniongyrchol arall i fyfyrwyr. Mae hefyd yn cefnogi mentrau sy’n gwella profiad myfyrwyr ac yn cyfrannu’n sylweddol at fywyd y campws.
- Yr Iaith Gymraeg a Diwylliant Cymru – Mae’r gronfa hon yn adlewyrchu ein cenhadaeth i gefnogi amrywiaeth eang o weithgareddau yn ymwneud â’r Gymraeg a’r diwylliant Cymreig trwy’r brifysgol gyfan.
Os ydych yn aelod staff a hoffech ystyried gwneud cais am grant o Gronfa Bangor, cysylltwch a Persida Chung, Swyddog Datblygu, i drafod ar p.v.chung@bangor.ac.uk.
Cyfrannu i Fangor
Darganfyddwch fwy am gyfrannu.
Cyfrannu i Fangor
Darganfyddwch fwy am gyfrannu.
Newyddion Cefnogi Bangor
-
Rhoddion cyn-fyfyrwyr yn cefnogi fideos Undeb Bangor
-
Cronfa Bangor yn cefnogi ymweliad i Archifau Stanley Kubrick
-
Cronfa Bangor yn cefnogi hyfforddiant gwaith maes blaengar yn y gwyddorau naturiol
-
Cronfa Bangor yn hybu profiad myfyrwyr yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau
-
Project 'Trafod Testun' wedi’i noddi gan Gronfa Bangor
-
Cronfa Bangor yn cefnogi Cronfa Fuddsoddi yn Ysgol Busnes Bangor
-
Cronfa Bangor yn cefnogi Gardd Llesiant Neuadd Rathbone
-
Symposiwm Merched ym Myd Cyhoeddi - ariannwyd gan Gronfa Bangor
-
Project Colobws Coch Zanzibar gyda cefnogaeth Cronfa Bangor
-
Myfyrwyr yn cymryd rhan ym Mhrosiect Orca Gwlad yr Iâ diolch i Gronfa Bangor
-
Clwb Hwylio Prifysgol Bangor yn cael ail wynt
-
Myfyrwyr addysg yn ymweld â Dulyn diolch i gyn-fyfyrwyr