Cefnogi Bangor

Ers ei dechreuad, mae Prifysgol Bangor wedi elwa o gefnogaeth gan roddwr hael. Heddiw, mae rhoddion i'r Brifysgol yn helpu i sicrhau bod myfyrwyr yn elwa o addysg o'r radd flaenaf, wedi'i gefnogi gan adnoddau a gwasanaethau ardderchog. Mae cefnogaeth ddyngarol hefyd yn rhoi lles i ymchwil arloesol y Brifysgol sy'n torri tir newydd, sy'n cael ei harwain gan academyddion sy'n arweinwyr yn eu maes.
Telethon y Gronfa BangorDrwy gyflwyno rhodd i Gronfa Bangor, rydych chi’n ymuno â chyfranwyr hael eraill sy’n dangos eu cefnogaeth i Brifysgol Bangor drwy roi ymroddedig, rheolaidd. Mae eich rhodd – waeth faint ydyw – wir yn gwneud gwahaniaeth! Mwy...
Mae tudalennau newydd sbon Cymorth Cymraeg wedi cael eu lansio ar wefan Prifysgol Bangor diolch i roddion hael o Gronfa Bangor (y Gronfa Flynyddol gynt). Mwy...
Gellwch ein cefnogi’n awr drwy enwebu Prifysgol Bangor i dderbyn eich ad-daliad treth. Mae’n hawdd gwneud hyn a gellir cynyddu gwerth eich rhodd hefyd drwy Cymorth Rhodd.
Os dymunwch roi unrhyw ad-daliad treth sy’n ddyledus i chi, defnyddiwch god elusen unigryw Prifysgol Bangor - QAE79QG – ar eich ffurflen hunan-asesu neu ewch i www.hmrc.gov.uk a dilynwch y Cyswllt Cyflym i 'Find a Form'. Teipiwch SA100 Charity i gael y ffurflen gywir, llenwch hi a'i dychwelyd at Cyllid a Thollau EM gyda'ch Ffurflen Dreth.
I gael gwybod mwy am SA Donate a Cymorth Rhodd ewch i www.hmrc.gov.uk/charities/faq.htm. I ychwanegu at y rhodd hon drwy Gymorth Rhodd, ticiwch y bocs ar eich ffurflen hunan-asesu.