Ystyried mynd i'r brifysgol?

Gofynion Mynediad 

Edrychwch ar fanylion y cwrs i sicrhau bod eich graddau neu raddau disgwyliedig yn cyfateb i'r hyn maen nhw'n chwilio amdano. Hefyd, edrychwch a fydd angen unrhyw brofiad gwaith penodol arnoch chi i fyn i mewn. 

Bydd rhai cyrsiau yn gofyn ichi sefyll prawf neu arholiad mynediad neu baratoi darn o waith cwrs tra bydd rhai prifysgolion yn gofyn ichi ddod i mewn am gyfweliad cyn cynnig lle i chi. Ond peidiwch â phoeni, gall eich ysgol neu goleg drefnu cyfweliad ffug fel eich bod wedi paratoi'n dda. 

Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor

Ymweld â phrifysgolion

Y ffordd orau o ddod i adnabod prifysgol yn iawn yw ymweld ar Ddiwrnod Agored neu ymuno mewn Ddiwrnod Agored Ar-lein. Ewch i gymaint o ddyddiau agored ac y medrwch i gael blas o'r prifysgolion a'r cyrsiau.

PETHAU ERAILL I'W HYSTYRIED

Myfyrwyr yn mwynhau ger y Llyn yn Llanberis

Mae maint a lleoliad yn bwysig i chi eu hystyried. Ydych chi'n chwilio am brifysgol dinas fawr neu gymuned glos lai? Edrychwch ar y map a gweld pa mor bell yw'r brifysgol rhag ofn y bydd angen i chi fynd ar deithiau adref yn aml gyda'ch golch neu ar gyfer penblwyddi teulu ac achlysuron arbennig. 

Sut mae'r cyfleusterau? Sut mae'r brifysgol yn perfformio mewn tablau cynghrair? Ydyn nhw'n cynnig cyfleoedd astudio dramor neu brofiad gwaith? Mae'r rhain i gyd yn ffactorau y bydd angen i chi eu hystyried cyn llunio'ch meddwl. 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?