Ar ôl Eich Gradd .. Beth Nesaf?
- Help ar ôl Graddio
- Ffeiriau Recriwtio Yn Ystod Yr Haf
- Arolwg Lleoliad rhai sy’n Gadael Addysg Uwch
- Astudiaeth Ôl-raddedig
Help ar ôl Graddio
Cyfarwyddyd a Gwybodaeth
- Arweiniad un i un
- Cymorthfeydd gyrfa ac e-arweiniad
- Gweithdai sgiliau chwilio am waith (CVs, Ceisiadau, Cyfweliadau, Canolfannau Asesu)
- Adnoddau gyrfaoedd a gwybodaeth ar-lein
Byddwch Fentrus.
Darparu hyfforddiant sgiliau a chefnogaeth i ddarpar entrepreneuriaid.
JobZone
Chwilio am swyddi gwag yn genedlaethol i raddedigion, yn ogystal â swyddi rhan-amser a lleol. Gweler www.prospects.ac.uk hefyd i gael manylion am swyddi gwag cenedlaethol drwy e-bost a chofrestru i dderbyn cylchlythyrau rheolaidd. Ewch hefyd i http://targetjobs.co.uk.
Gwasanaethau Rhanbarthol i Raddedigion
Ewch i www.prospects.ac.uk/links/CareersServices i weld a ellwch ddefnyddio cyfleusterau gwasanaeth gyrfaoedd prifysgol yn agos i’ch cartref. Mae’r ddarpariaeth yn amrywio mewn gwahanol sefydliadau, felly cysylltwch â hwy ymlaen llaw i weld beth sydd ganddynt i'w gynnig.
Ffeiriau Recriwtio Haf
Bydd nifer o brifysgolion yn cynnal ffeiriau recriwtio haf i raddedigion ym Mai a Mehefin. Cewch fanylion am y rhain yn www.prospects.ac.uk/links/careerfairs
Arolwg Cyrchfannau rhai a Adawodd Addysg Uwch
Fel prifysgolion eraill yn y DU, bydd y Brifysgol yn cysylltu â chi yn Rhagfyr i weld a ydych yn gweithio, yn gwneud gwaith astudio pellach, cymryd blwyddyn rydd neu’n dal i chwilio am waith. A fyddech cystal â dychwelyd yr holiadur – cysylltir drachefn ar y ffôn â phawb na fydd yn ymateb!
Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni
Mae’r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni yma i’ch helpu i aros mewn cysylltiad gyda’ch cyfoedion, i ddod o hyd i ffrindiau coll, i’ch helpu i drefnu aduniadau a chadw’ch cysylltiad â Phrifysgol Bangor o le bynnag yr ydych yn y byd.
Fel aelod o’r rhwydwaith byd-eang hwn o fwy na 50,000 o alumni, byddwch yn derbyn gwybodaeth bwrpasol ar gyfer cyn-fyfyrwyr yn cynnwys ein cylchgrawn ar gyfer alumni, Bangoriad, yn ogystal â newyddion am ddigwyddiadau, gwirfoddoli, grwpiau a gweithgareddau eraill.
Nid ydym eisiau colli cysylltiad â chi – gadewch i ni wybod pan fyddwch yn symud ty neu waith, neu’n newid eich cyfeiriad e-bost drwy lenwi’r ffurflen ddiweddaru
Am fwy o wybodaeth am Swyddfa Datblygu a Cysylltiadau Alumni Prifysgol Bangor, cliciwch yma neu e-bostiwch: alumni@bangor.ac.uk