Graddio 2022 – Ffotograffiaeth
Ffotograffwyr
Mae’r Brifysgol wedi penodi Ede & Ravenscroft yn ffotograffwyr swyddogol ar gyfer y Seremonïau Graddio. Rydym o’r farn y byddant yn rhoi’r gwasanaeth gorau posibl ichi.
Gellwch archebu eich pecyn ffotograffau ymlaen llaw, ar yr un pryd ag y byddwch yn archebu eich gwn neu, fel arall, gellwch ei archebu ar adeg fwy cyfleus. Cewch fwy o wybodaeth am ffotograffau ar wefan trwy glicio ar Graduation Services Ede and Ravenscroft.
Os penderfynwch beidio ag archebu ymlaen llaw cyn y Seremoni Raddio, bydd staff Ede and Ravenscroft ar gael ar ddiwrnod y seremoni i’ch cynorthwyo.
Os na ellwch archebu’n uniongyrchol dros y we, neu os oes gennych unrhyw ymholiad parthed llogi gŵn neu ffotograffiaeth, dylech gysylltu gyda Ede & Ravenscroft ar 01223 734759.