Graddio 30 Mehefin 2022 i 14 Gorffennaf 2022
Er mwyn sicrhau y gallwch ddod i'r seremoni, mae arnoch angen cwblhau'r prosesau canlynol:
- Cadarnhau'ch presenoldeb
- Pynu tocynnau i westeion
- Archebu'ch gwn academaidd
1] Presenoldeb
Cofrestru yma - Myfyriwr Presennol
Mae angen i'r holl fyfyrwyr sydd â hawl i ddod i'r Seremonïau Graddio roi gwybod i ni erbyn 5pm 30 Ebrill 2022 a fyddant yn dod i'r seremoni neu beidio. Dilynnwch y bwtwm 'Cofrestru Yma' (i'r dde) er mwyni cofrestru o ddiwedd mis Mawrth 2022.
Ni chaniateir i fyfyrwyr fynychu'r seremoni os nad ydynt wedi cofrestru eu presenoldeb erbyn 5pm 30 Ebrill 2022
Ar y diwrnod:
Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, nid yw’r digwyddiadau’n cael eu cynllunio gyda mesurau ymbellhau cymdeithasol ar waith, ond ni ddylai gwesteion fod yn bresennol os ydynt yn amau bod ganddynt Covid 19 neu’n dangos symptomau. Mae'r holl Seremonïau'n cael eu dangos yn fyw ar wefan y Brifysgol felly gellir eu gwylio'n fyw.
Dylai myfyrwyr yn unig gyrraedd y Prif Ddarlithfa'r Celfyddydau un awr cyn cychwyn y seremoni i gofrestru eu presenoldeb.
2] Tocynnau
Mae mynediad i'r seremoni ar gyfer pob gwestai DRWY DOCYN YN UNIG. Nid oes ar fyfyrwyr angen tocyn. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn hoffi dod â ffrindiau a theulu gyda nhw i'w seremoni raddio. Gan fod nifer y seddi yn Neuadd Prichard-Jones yn gyfyngedig, ni allwn warantu ond DAU DOCYN GWESTAI i bob myfyriwr os ydych yn archebu erbyn 5pm 30 Ebrill 2022, am £12.00 yr un.
Gallwch archebon tocynnau ar-lein drwy 'MyBangor'.
Os methwch â phrynu'ch tocynnau gwesteion erbyn 5pm 30 Ebrill 2022, ni allwn warantu y bydd eich gwesteion yn gallu bod yn bresennol yn y seremoni.
Os daw unrhyw docynnau ychwanegol ar gael ar gyfer unrhyw rai o'r seremonïau, caiff y rhain eu rhoi ar werth o 9am 20 Mehefin 2022 tan 5pm 24 Mehefin 2022 os nad yw'r ticedi eisoes wedi gwerthu allan. Bydd y tocynnau'n costio £12.00 yr un a chyfyngir hwy i ddau docyn ychwanegol i westeion i bob myfyriwr. Os bydd tocynnau ychwanegol ar gael fe'u gwerthir ar sail y cyntaf i’r felin.
Dim ond ar-lein y gellir prynu tocynnau.
NI anfonir y tocynnau atoch trwy’r post, byddant ar gael i’w casglu ar ddiwrnod eich seremoni o Brif Ddarlithfa’r Celfyddydau.
Casglu Tocynnau:
Bydd holl docynnau gwesteion ar gael i’w casglu wrth y ddesg cofrestru myfyrwyr ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau.
Mae'n rhaid i docynnau gael eu casglu 30 munud cyn dechrau'r seremoni.
Plant:
Ym Mhrifysgol Bangor mae graddio'n achlysur teuluol ac mae croeso i blant ddod i'r seremoni. Fodd bynnag, mae'n rhaid i oedolyn fod efo nhw. Mae'r seremonïau’n para oddeutu 90 munud ac rydym wedi gweld trwy brofiad bod plant yn diflasu a mynd yn aflonydd; felly nid ydynt yn addas i blant ifanc iawn. O ran parch at westeion eraill rydym yn gofyn am i blant gael eu hebrwng allan o'r neuadd os byddant yn mynd yn aflonydd yn ystod y seremoni rhag iddynt darfu ar y digwyddiadau a mwynhad gwesteion eraill.
Rhaid i blant dan 3 oed (dim mwy na dau i bob myfyriwr) eistedd ar lin oedolyn ac nid ar sedd. Nid oes angen tocyn arnynt. Rhaid i blant 3 oed a hŷn gael tocyn pris llawn i westeion i gael mynd i'r seremoni. Os ydych yn dod â babi sy'n dal mewn pram neu goets fach i'r seremoni, a fyddech cystal â nodi hynny pan fyddwch yn prynu eich tocynnau. Gofynnir i chi p'un a ydyw unrhyw rai o'ch gwesteion angen unrhyw drefniadau arbennig. Ein cyngor yw i blant wylio'r seremoni o Brif Ddarlithfa'r Celfyddydau, lle nad oes angen tocynnau.
Gwesteion ychwanegol:
Mae croeso i chi ddod â gwesteion ychwanegol a gallant wylio’r seremoni a ddarlledir ar sgrin fawr mewn darlithfa gerllaw - nid oes angen tocynnau ar gyfer hyn.
3] Archebu gwn academaidd
Mae graddio yn achlysur ffurfiol ac mae gofyn i fyfyrwyr wisgo gwisg academaidd. Mae'r wisg yn cael ei harchebu drwy Ede and Ravenscroft fan yma - Gwisg Academaidd.
Nodwch ei fod yn rhatach i archebu gynau o flaen llaw na thalu ar y diwrnod.