Enw:
Swydd:
Ebost:
Lleoliad:
Ffon:
Aelod cysylltiol Canolfan
ESRC dros Ymchwil i Ddwyieithrwydd
Arweinydd: Llif gwaith thematig Ymwybyddiaeth
o Iaith a Diwylliant mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Ganolfan
ar gyfer Ymchwil gysylltiedig ag Iechyd
Mae prif ddiddordeb ymchwil Gwerfyl yn canolbwyntio ar wella’r sylfaen
o dystiolaeth ar gyfer ymarfer ieithyddol addas mewn iechyd a gofal
cymdeithasol. Mae hi’n Gydgyfarwyddwr LLAIS, menter a ariennir gan WORD
sy’n cynnig cyngor ac ymgynghoriaeth ar wella’r ymwybyddiaeth o’r Gymraeg
ar draws CRC Cymru, yr isadeiledd Ymchwil a Datblygiad newydd yng Nghymru;
ac mae hi’n cynnal portffolio rhwydwaith ymchwil ar ymarfer ieithyddol
addas. Mae’r ymchwil a gomisiynwyd yn cynnwys astudiaeth genedlaethol
i gael trosolwg ar draws y sector o lefelau’r ymwybyddiaeth o’r Gymraeg
ymhlith gweithwyr proffesiynol gofal iechyd; astudiaeth rychwantu i
benderfynu’r angen am rwydwaith ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol
ar gyfer ymwybyddiaeth o iaith yng Nghymru a gwerthusiad o brosiect
Twf, menter Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar drosglwyddo iaith yn y teulu,
a swyddogaeth gweithwyr proffesiynol gofal iechyd mewn hybu dwyieithrwydd
yn y cartref.
Bu gan Gwerfyl ran mewn cynhyrchu nifer o derminolegau gofal iechyd
dwyieithog safonedig a phecynnau addysgu i gefnogi ymarferwyr yn eu
rôl fel mentoriaid a hyrwyddwyr dewis iaith; ac mae hi hefyd yn gydawdur
yr Argraffiad Cymraeg 1af o Eiriadur Bydwragedd Baillière. Mae hi’n
aelod o Dasglu Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y Gymraeg yn y Gwasanaeth
Iechyd.
Grantiau Ymchwil a Ddyfarnwyd
| Blwyddyn |
Teitl yr Astudiaeth |
Corff Cyllido |
Dyfarniad |
| 2007-2008 |
Prif Ymchwilydd: Ymwybyddiaeth o Iaith mewn Ymchwil Iechyd a Gofal
Cymdeithasol: Pecyn Dysgu Hunangyfeiriedig ar gyfer Addysg Nyrsio. |
Cyngor Cyllido Addysg Uwch yng Nghymru |
£5,000 |
| 2007-2010 |
Ysgoloriaeth PhD |
Bwrdd yr Iaith Gymraeg |
£45,000 |
| 2007-2010 |
Ysgoloriaeth PhD |
Cyngor Cyllido Addysg Uwch yng Nghymru |
£45,000 |
| 2006-2009 |
Prif Ymchwilydd ar y cyd: LLAIS. |
Swyddfa Ymchwil a Datblygiad Cymru mewn Iechyd a Gofal Cymdeithaso |
£297,040 |
| 2005-2008 |
Cyd-ymchwilydd: Twf ac Ymlaen: Asesiad Effaith a’r Ffordd Ymlaen |
Bwrdd yr Iaith Gymraeg |
£214,000 |
| 2005 |
Prif Ymchwilydd ar y cyd: Astudiaeth Rychwantu i’r Ymwybyddiaeth
o Iaith mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. |
Swyddfa Ymchwil a Datblygiad Cymru mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
|
£14,000 |
| 2003-2004 |
Prif Ymchwilydd: Astudiaeth i’r Ymwybyddiaeth o’r Gymraeg yn y
Ddarpariaeth Gofal Iechyd yng Nghymru |
Llywodraeth Cynulliad Cymru |
£89,000 |
| 2001-2003 |
Prif Ymchwilydd: Mentrau Dwyieithog mewn Addysg Bydwreigiaeth |
Llywodraeth Cynulliad Cymru |
£100,000 |
Cyhoeddiadau Diweddar
Spencer L, Roberts G, Irvine F, Jones P, Baker C a Williams C (2007)
Using Cluster Analysis to Explore Survey Data. Nurse Researcher 15,
1, 37-54.
Irvine F, Roberts G, Tranter S, Williams L a Jones P (2007) Using the
critical incident technique to explore student nurses' perceptions of
language awareness. Nurse Education Today. doi:10.1016/j.nedt.2007.02.010.
Roberts G ac Irvine F (2007) LLAIS Papur Briffio 2: Ymwybyddiaeth o
Iaith wrth Lywodraethu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Prifysgol Bangor. Gellir ei lwytho i lawr o: http://www.bangor.ac.uk/llais/brief/Papur%20Briffio%202.pdf
Roberts G, Irvine F, Jones P, Spencer L, Baker C a Williams C (2007)
Language awareness in the bilingual healthcare setting: a national survey.
International Journal of Nursing Studies. 44, 1177-1186.
Irvine F, Roberts G, Jones P, Spencer L, Baker C a Williams C (2006)
Communicative sensitivity in the bilingual healthcare setting: A qualitative
study of language awareness. Journal of Advanced Nursing 53, 4, 1-13.
Roberts G ac Irvine F (2006) LLAIS Papur Briffio 1: Ymarfer Ieithyddol
Addas mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Prifysgol Bangor. Gellir
ei lwytho i lawr o: http://www.bangor.ac.uk/llais/brief/LLAIS_ORG.pdf
Roberts G, Irvine F, Richardson J, Earles C, Gareth E a Prys R (2005)
Adroddiad am Astudiaeth Rychwantu i’r Ymwybyddiaeth o Iaith mewn Iechyd
a Gofal Cymdeithasol. Prifysgol Bangor. Gellir ei lwytho i lawr
o:
http://www.word.wales.gov.uk/content/networks/language-e.pdf
Prys D, Roberts G a Paden L (2004) Geiriadur Bydwragedd Bailllère.
(Argraffiad Cymraeg 1af). Prifysgol Bangor.
Roberts G, Irvine F, Jones P, Baker C a Williams C (2004) Adroddiad
am Astudiaeth i’r Ymwybyddiaeth o’r Gymraeg yn y Ddarpariaeth Gofal
Iechyd yng Nghymru. Llywodraeth Cynulliad Cymru, Caerdydd. Gellir ei
lwytho i lawr o:
http://www.wales.nhs.uk/sites3/documents/415/ACF3394.pdf
Muntz R, Tudor Edwards R, Tunnage, Prys a Roberts G (2004) Development
of a Welsh Language Version of the EQ-5D Health-Related Quality of Life
Measure. Stage One: Translation. The Psychologist in Wales 18,
Roberts G, Kent B, Prys D a Lewis R (2003) Describing chronic pain:
towards
bilingual practice. International Journal of Nursing Studies 40, 889-902.
Roberts G a Paden L (2000) Identifying the factors influencing minority
language
use in healthcare education: a European perspective. Journal of Advanced
Nursing 32,
1, 75-83.
Roberts G a Prys D (1997) Termau Nyrsio a Bydwreigiaeth / An English-Welsh
Dictionary of Nursing and Midwifery Terms. Prifysgol Bangor.
Roberts G (2003) Mentora yn y Lleoliad Dwyieithog. Prifysgol Bangor.
http://www.wales.nhs.uk/sites3/documents/415/mentora.pdf
Roberts G a Williams C ( 2003) Gair o Gysur: Hybu Ymarfer Ieithyddol
Addas. Prifysgol Bangor.
http://www.wales.nhs.uk/sites3/documents/415/Gair-o-Gysur-pdf.pdf