UWB Crest

Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd

Ysgoloriaeth Ôl-radd Cyfrwng Cymraeg mewn Nyrsio / Gwyddorau Gofal Iechyd

Mae Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Bangor yn cynnig ysgoloriaeth ôl-radd cyfrwng Cymraeg mewn Nyrsio / Gwyddorau Gofal Iechyd i ddechrau 1 Hydref 2011. Cyllidir yr ysgoloriaeth hon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae cyllid ar gael am hyd at bum mlynedd, yn cynnwys tair/pedair blynedd fel myfyriwr ymchwil doethurol a blwyddyn ychwanegol fel cymrawd dysgu. Bydd yr ysgoloriaeth ôl-radd yn cynnwys costau hyfforddi’r brifysgol (y gyfradd gyfredol i fyfyrwyr cartref/UE yw £3,466) a hefyd grant cynnal (y gyfradd gyfredol yw £13,590 y flwyddyn). Gwahoddir ceisiadau gan ddarpar ymchwilwyr â chefndir ym maes nyrsio / gwyddorau gofal iechyd ac sydd â diddordeb mewn archwilio cyfraniad nyrsio ar gyfer cynnal pobl sy’n byw â chyflyrau niwrolegol tymor hir, megis strôc neu ddementia, lle mae iaith a hunaniaeth yn feysydd ymarfer pwysig. Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus hefyd wneud peth gwaith dysgu cyfrwng Cymraeg yn yr Ysgol, fel un o amodau'r ysgoloriaeth. Ystyrir blwyddyn olaf yr ysgoloriaeth yn flwyddyn gymrodoriaeth pryd y bydd yr ymrwymiadau dysgu’n cynyddu.

Mae’r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd wedi ei lleoli o fewn y Coleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad sydd â dros 3000 o fyfyrwyr a 300 o staff academaidd a gweinyddol ar draws pedair ysgol academaidd a dau sefydliad ymchwil. Er bod pob ysgol/sefydliad yn cadw ei hunaniaeth benodol a'i ffiniau pynciol, mae’r Coleg yn meithrin cydweithrediad rhwng ysgolion a nodau ac ymarferion academaidd cyffredin. Ei nod yw cynnig profiad dysgu gyda’r gorau yn y byd, a nodweddir gan fanylder gwyddonol, perthnasedd ymarfer, ac, yn enwedig, dull cydweithredol ac amlddisgyblaethol o addysgu ac ymchwilio. Ceir rhagor o wybodaeth am y coleg ar ei wefan:

http://www.bangor.ac.uk/cohabs/index.php.en

Fel prif ddarparwr addysgu a dysgu dwyieithog ym maes addysg gofal iechyd ar draws Cymru, mae’r Ysgol wedi ymrwymo’n gadarn i gryfhau a phrif ffrydio’r ddarpariaeth hon ac ar yr un pryd i ganolbwyntio fwyfwy ar weithgarwch ymchwil a rhagoriaeth academaidd. Mae mwy o wybodaeth am ar Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ar gael ar ei gwefan:

http://www.bangor.ac.uk/healthcaresciences/

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y cymwysterau/cryfderau canlynol:

• Gradd ail ddosbarth uwch/dosbarth cyntaf mewn maes perthnasol (erbyn Medi 2011).
• Nyrs / gweithiwr gofal iechyd cofrestredig.
• Bydd yn medru siarad ac ysgrifennu Cymraeg yn rhugl.
• Bydd yn dangos y gallu a’r dyfalbarhad sydd eu hangen i gwblhau PhD trwy ymchwil o fewn cyfnod yr ysgoloriaeth.
• Bydd wedi paratoi amlinelliad o’i syniadau ar gyfer y project ymchwil arfaethedig.
• Bydd mewn sefyllfa i gyflawni dyletswyddau dysgu cyfrwng Cymraeg i’r Ysgol. Disgwylir i’r deiliad wneud cyfraniad pwysig tuag at ddysgu cyfrwng Cymraeg a thuag at ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg newydd.

Dylai ymgeiswyr anfon llythyr cais yn cynnwys amlinelliad o’u syniadau ar gyfer y project ymchwil arfaethedig (dim mwy na 1,000 o eiriau), copi cyfredol o’u CV, ynghyd ag enwau dau ganolwr sy’n gyfarwydd â’u gwaith academaidd, at:

Dr Malcolm Godwin, Pennaeth Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Bangor, Fron Heulog, Ffordd Ffriddoedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2EF.
e-bost: m.godwin@bangor.ac.uk Ffôn: 01248 383117

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Mehefin 2011. Caiff ymgeiswyr eu cyfweld ar gyfer yr ysgoloriaeth hon fel rhan o’r broses ddewis.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Gwerfyl Roberts, Uwch Ddarlithydd
e-bost: gwerfyl.w.roberts@bangor.ac.uk Ffôn: 01248 383165