UWB Crest

Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg

Mwy am yr Ysgol

Delwedd o Brif Adeilad y Celfyddydau

Mae Hanes wedi cael ei ddysgu ym Mangor ers sefydlu'r Brifysgol yn 1884. Ymysg cyn-athrawon yr adran y mae Syr J E Lloyd (1895-1930) awdur A History of Wales from the earliest times to the Edwardian Conquest ; R T Jenkins (1930-1948), yr Athro Hanes Cymru cyntaf, a Charles Mowatt (1959-1970), awdur Britain between the Wars . Mae Archaeoleg wedi cael ei ddysgu yma ers 1960.

Ar hyn o bryd, mae 15-20 o staff dysgu yn yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg, ac fe dderbynnir tua 110 o fyfyrwyr bob blwyddyn.

Mae'r Adran yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau sy'n ymestyn o'r cyfnod cynhanesyddol i'r presennol. Mae'r cyrsiau Hanes yn cynnwys Hanes Gwledydd Prydain, Cymru, Ewrop ac America, tra bod y cyrsiau Archaeoleg yn canolbwyntio ar Archaeoleg Prydain ac Iwerddon. Ychydig iawn o gyfyngu sydd ar eich dewis o'r amrywiaeth eang o gyrsiau sy'n cael eu cynnig. Fe allwch chi ddewis astudio cyfnodau cynnar, rhai diweddar neu fe allwch chi gyfuno cyrsiau.

Rydym yn falch o allu rhoi sylw personol i bob myfyriwr yn ei astudiaethau. Rydym yn arbenigo mewn dysgu grwpiau bach: nid rhif yn unig ydi myfyriwr i ni. Mae elfennau arloesol i'n dulliau dysgu, ac fe fyddwn yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf. Mae gan yr Adran lawer o'i chyfrifiaduron ei hun.

Mae'r Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg wedi'i lleoli mewn adeilad braf sydd â gerddi o'i gwmpas. Mae'r ystafelloedd darlithio, llyfrgell y celfyddydau a'r archifau gerllaw. Hefyd, mae yna amgueddfa leol ym Mangor sy'n cadw creiriau, a bydd myfyrwyr yn cael cyfle i drin a thrafod y rhain. Mae'n gasgliad helaeth, o arfau cerrig i grochenwaith canoloesol. Bydd cyfle hefyd i wneud lleoliad gwaith yn yr uned archaeoleg, neu yn yr amgueddfeydd a'r archifau lleol.

Mae Bangor mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol, lle mae llawer iawn o henebion archaeolegol, beddrodau a chylchoedd cerrig cynhanesyddol, ceyrydd Rhufeinig, a ffermydd brodorol. Mae yma hefyd gestyll canoloesol sydd wedi'u dynodi'n Safleoedd Treftadaeth y Byd, sef Biwmares, Caernarfon a Chonwy. Os ydych chi'n astudio cwrs mewn Archaeoleg neu Dreftadaeth fe fyddwch yn cael manteisio ar amrywiaeth eang o deithiau maes i ymweld â'r henebion yma. Rhoddir cyfle i fyfyrwyr ddysgu am waith arolygon tir a chyfrifiadureg archaeolegol, ac fe fyddan nhw'n cael eu hannog i wneud gwaith cloddio ymarferol.

Trefnir rhaglen flynyddol o weithgareddau gan gymdeithasau gweithgar y myfyrwyr sy'n astudio Hanes ac Archaeoleg.

Mae enw da i'r adran yma yn ei maes ymchwil. Mae ei staff yn cyhoeddi llyfrau ac erthyglau'n rheolaidd ac mae nifer ohonyn nhw'n enwog yn rhyngwladol fel arbenigwyr yn eu maes. Fe gewch eich dysgu felly gan rai sydd wrthi'n gwneud gwaith ymchwil ac yn cyhoeddi yn y meysydd y byddwch chi'n eu hastudio.