Cafodd Raimund Karl, Athro Archeoleg a Threftadaeth Prifysgol Bangor, yr anrhydedd o draddodi'r ddarlith gyntaf mewn cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus yn yr arddangosfa 'y Celtiaid - derwyddon, tywysogion, rhyfelwyr’ ar Safle Treftadaeth y Byd yn y Saarland yn yr Almaen. Gan annerch cynulleidfa o tua 600, siaradodd yr Athro Karl am bynciau’r arddangosfa a chwalodd y myth am ddiwylliant ‘Celtaidd’ unffurf, ond gan gynnal arwyddocâd y cysyniad fel arf i ddeall Ewrop yn y cyfnod cynhanesyddol. Dilynwyd sgwrs yr Athro Karl gan drafodaeth fywiog gyda’r gynulleidfa a pharhaodd y drafodaeth yn ystod y derbyniad gwin a ddilynodd trwy nawdd y Weltkulturerbe Völklinger Hütte.
Dywedodd yr Athro Karl am y gynulleidfa fawr: ‘Mae’n dangos bod gan lawer o bobl ar hyd a lled Ewrop ddiddordeb mawr yn y Celtiaid. Mae hefyd yn dangos y rhan arweiniol y mae Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archeoleg Prifysgol Bangor wedi ei chwarae yn y gwaith o hybu dealltwriaeth o archeoleg a hanes Celtaidd ar hyd a lled Ewrop. Roedd yn anrhydedd mawr i mi gael fy ngwahodd i draddodi’r ddarlith.’ Roedd yr Athro Karl hefyd yn rhoi canmoliaeth fawr i’r lleoliad: ‘Mae Völklinger Hütte, Safle Treftadaeth y Byd, wedi gwneud argraff fawr arnaf a buaswn yn annog pawb i fynd i ymweld â’r safle. Mae’r arddangosfa ar y Celtiaid yn rhagorol. Ac mae'r safle ei hun - ynghyd â harddwch eithriadol y safle treftadaeth ddiwydiannol - yn werth teithio i'r Saarland i'w weld'.