UWB Crest

Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg

Newyddion diweddaraf

Delwedd o bapurau newydd

Ethol Athro yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru

Y mae Huw Pryce, Athro Hanes Cymru ym Mhrifysgol Bangor, wedi’i ethol yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn Etholiad Agoriadol y Gymdeithas o gymrodyr newydd yn 2011. Darllen ymlaen ...

Darlith gyhoeddus yn yr Almaen gan athro o Fangor

Threftadaeth Prifysgol Bangor, yr anrhydedd o draddodi'r ddarlith gyntaf mewn cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus yn yr arddangosfa 'y Celtiaid - derwyddon, tywysogion, rhyfelwyr’ ar Safle Treftadaeth y Byd yn y Saarland yn yr Almaen. Darllen ymlaen ...

Ymchwil archeolegol Bangor ar y cyfnod cynnar yng Ngwlad yr Iâ yn denu sylw rhyngwladol

Mae darganfyddiadau archaeolegol a phalaeoecolegol yn dangos bod pobl wedi bod yn byw yng Ngwlad yr Iâ er y flwyddyn O.C. 800 - mae hynny 70 mlynedd yn gynharach na’r dyddiad traddodiadol ar gyfer nodi dyfodiad y Llychlynwyr i’r wlad. Darllen ymlaen ...

Dyddiad Cyhoeddi: 21/01/2011

Mis Hanes Cymru’n dechrau gydag erthyglau gan haneswyr Bangor

Dechreuodd y Mis Hanes Cymru newydd yn y Western Mail ar ddydd Sadwrn 18 Medi 2010 gydag erthygl gan yr Athro Raimund Karl yn gofyn ai disgynyddion i’r Celtiaid yw’r Cymry mewn gwirionedd. Hefyd ymhlith yr erthyglau cyntaf oedd un gan yr Athro Huw Pryce (ar y cŷd â’i gyd-olygydd yr Athro Aled Jones o Brifysgol Aberystwyth) yn dathlu 50 mlynedd o’r Welsh History Review: Cylchgrawn Hanes Cymru, y prif gylchgrawn academaidd ar hanes Cymru. Mewn dwy erthygl arall yn y gyfres bydd Huw Pryce yn trafod a oedd tywysogion Gwynedd yn anelu at annibyniaeth i Gymru, ac i ba raddau’r oedd gan y Cymry ymdeimlad o hunaniaeth genedlaethol yn yr oesoedd canol. Bydd hanesydd arall o Fangor sy’n cyfrannu i’r gyfres, Dr Kate Olson, yn edrych ar gysylltiadau rhyngwladol Cymru yn y cyfnod cyn-fodern, a hefyd yn pwysleisio mor araf oedd llwyddiant y Diwygiad protestannaidd yng Nghymru.

Ysgoloriaethau Dathlu

Os ydych yn ystyried astudiaethau ôl-radd, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer gwneud cais am un o Ysgoloiaethau Dathlu Prifysgol Bangor. Mwy o wybodaeth...

Dewch i'n gweld

Oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio yn yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archeoleg? Pam na ddowch i'n gweld ni yn ystod un o'n Dyddiau Agored?

Rydym yn cynnal Dyddiau Agored y Coleg a Dyddiau Agored y Brifysgol trwy gydol y flwyddyn. Am fwy o fanylion, ewch i'n tudalen Dyddiau Agored.