UWB Crest

Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg

Pam astudio yma?

Image of collage of cuttings and photos
  • Mae Hanes wedi cael ei ddysgu ym Mangor ers i’r Brifysgol gael ei sefydlu yn 1884 ac felly mae gennym brofiad helaeth a theimlad cryf o draddodiad
  • Mae gennym arbenigedd gwirioneddol mewn hanes modern a chyfoes yn ogystal ag mewn hanes canoloesol, modern cynnar, hanes Cymru ac archaeoleg.
  • Os oes gennych chi ddiddordeb penodol mewn Hanes Cymru, Bangor yw’r lle naturiol i’w astudio - rydym yn cyffwrdd â phob cyfnod o orffennol Cymru
  • Mae’r Brifysgol wedi ei lleoli mewn ardal sydd yn ddwfn mewn hanes ac mae cyfoeth eithriadol  o henebion: beddi cynhanes a chylchoedd cerrig, caer Rhufeinig, ffermydd brodorol a chestyll canol oesol gan gynnwys Safleoedd  Treftadaeth y Byd ym Miwmares, Caernarfon a Chonwy
  • Mae’r ardal yn yr adnodd gwych ar gyfer gwaith maes yn ogystal â bod yn lleoliad rhagorol ar gyfer astudio
  • Anogir myfyrwyr i gymryd rhan mewn cloddiadau yn ogystal â chymryd mantais o’r cyfleoedd i weithio yn yr Uned Archaeolegol, amgueddfeydd ac archifdai
  • Mae enw rhagorol gan yr Ysgol am ansawdd ei dysgu a blaengarwch mewn ymchwil.
  • Mae ein staff yn cyhoeddi llyfrau ac erthyglau yn gyson ac mae nifer o’n staff yn adnabyddus yn rhyngwladol am eu gwaith ymchwil yn ei maes.
  • Rydym yn cynnig ystod eang iawn o gyrsiau gyda dewis helaeth o fodiwlau opsiynol.
  • Mae gan yr Ysgol enw da, o safbwynt ei dysgu ac rydym yn cyfuno’r defnydd o dechnoleg newydd â dysgu mewn grwpiau bychain a sylw personol.
  • Rydym yn arbenigo mewn addysgu mewn grwpiau bychan lle cewch sylw personol.
  • Llwyddodd dros hanner o'r Ysgolion ym Mhrifysgol Bangor i ennill y radd uchhaf mewn asesiad diweddar ar ran y llywodraeth o ansawdd ymchwil mewn prifysgolion trwy Brydain.
  • Rydym wedi cael ein henwi fel y Brifysgol gorau ym Mhrydain pan mae'n dod at gynnig cymorth i'n myfyrwyr-The Times Higher Educational Supplement (Mehefin 17, 2005)
  • Mewn arolwg gan y wefan Accommodation for Students cafodd Bangor ei enwi fel un o'r dinasoedd prifysgol gorau ym Mhrydain o ran cyfleusterau a lleoliad.
  • Mae'r Ymarfer Asesu Ymchwil diweddaraf yn cadarnhau ein statws fel sefydliad ymchwil o fri
  • Rydym yn cynnig un o'r rhaglenni Arweinwyr Cyfoed mwyaf ym Mhrydain
  • Mae'r gyfradd droseddol yng ngogledd Cymru yn isel iawn i gymharu â dinasoedd eraill ym Mhrydain.
  • Mae ein Canolfan Gyrfaoedd a Chyfleoedd yn cael ei chydnabod yn genedlaethol fel un o’r gwasanaethau gyrfaoedd mwyaf gweithgar ym Mhrydain gyda dros 87% o raddedigion yn cael gwaith neu'n cael ei derbyn ar gwrs addysg bellach o fewn 6 mis
  • Mae costau byw yn isel ym Mangor i gymharu â dinasoedd prifysgolion eraill. Yn ôl The Independent's A-Z of Universities and Higher Education Colleges, Bangor yw "un o'r llefydd rhataf ym Mhrydain"
  • Mae gennym wasanaethau ar-lein fel ‘BangorPortal’ sy'n eich galluogi i ddod o hyd i wybodaeth fel Pa fodiwlau rwyf yn ei hastudio? Beth yw fy nghanlyniadau? a.y.y.b
  • Lleoliad Bangor, mae'n debyg, yw'r lleoliad prifysgol prydferthaf ym Mhrydain. Mae wedi ei lleoli rhwng Mynyddoedd Eryri a'r Fenai. Mae'n baradwys i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn chwaraeon