UWB Crest

Cyfartaledd & Amrywiaeth

Croeso

Newyddion

Cynllun Cydraddoldeb Strategol


Diolch i bawb a gyfrannodd i ddatblygiad Cynllun Cydraddoldeb Strategol y Brifysgol.

Polisi Urddas yn y Gwaith ac wrth Astudio

Cynghorwyr ar Aflonyddu a Ffynonellau Cefnogaeth Eraill

Cynllun Cydraddoldeb Strategol
Cyfle i roi eich barn

Yn dilyn ymgynghori eang o fewn y Brifysgol, a oedd yn cynnwys staff a myfyrwyr, mae’r Brifysgol erbyn hyn wedi datblygu Cynllun Cydraddoldeb Strategol a Chynllun Gweithredu, i sicrhau bod Bangor yn cyflawni’r dyletswyddau newydd yng Nghymru o ran cydraddoldeb.

Gwelwch isod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol a’r Cynllun Gweithredu:

 

Llythyr gan yr Is-Ganghellor
Cynllun Cydraddoldeb Strategol

Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb

Adroddiadau Cydraddoldeb a Monitro:

Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb - Dyddiad adrodd Mawrth Mawrth 2013

Proffil Prifysgol Bangor – Dyddiad adrodd Mawrth Mawrth 2013

 
Am fwy o wybodaeth am y dyletswyddau cliciwch ar y linciau isod:

       

Datblygiadau mewn Hyfforddiant Cydraddoldeb
Mae’n angenrheidiol i holl staff fynychu hyfforddiant cydraddoldeb perthnasol ac mae’r Brifysgol yn cynnig nifer o opsiynau yn y maes yma sy’n cynnwys:

Pecyn E-ddysgu Cydraddoldeb
Mae’r pecyn e-ddysgu ar-lein ar gael i holl staff ac mae’n ymdrin â holl feysydd deddfwriaeth cydraddoldeb, polisi’r Brifysgol ac ymarfer dda. Modiwl hunan-astudio yw hwn y gall dysgwyr ei wneud wrth eu pwysau i gyd-fynd â gofynion gwaith. Mae pob aelod newydd o staff yn cael eu cofrestru ar y pecyn fel rhan o’r cynefino ac mae rhaglen o gofrestru staff ym mhob Coleg ag Adran Ganolog yn cael eu gweithredu.

Hyfforddiant Cydraddoldeb i Reolwyr
Mae hwn yn gwrs gorfodol i holl staff sy’n rheoli eraill. Mae’r gweithdy’n annog rheolwyr i ystyried sut y gweithredir Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y Brifysgol a sicrhau bod rheolwyr yn deall eu swyddogaethau a chyfrifoldebau yng nghyd-destun deddfwriaeth cydraddoldeb, yn ogystal â hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle.

Hyfforddiant Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Penodol ar gyfer Colegau ac Adrannau
Mae’r Tîm Datblygu Staff yn cynnig gweithdai penodol ar holl agweddau cydraddoldeb ar gyfer timau mewn gwahanol Golegau ac Adrannau. Er y bydd yr holl weithdai’n ymdrin â rhai materion cyffredinol yn ymwneud â chydraddoldeb, mae cyfle i addasu’r hyfforddiant ar gyfer sefyllfa neilltuol tîm a’i gysylltu â meysydd gweithgaredd eraill, e.e. rhoi gwasanaeth i gwsmeriaid a gweithio gyda myfyrwyr rhyngwladol.


Dethol a Dewis
Mae’r gallu i reoli broses dethol a dewis effeithiol er mwyn sicrhau profiad teg a tryloyw yn bwysig i’r Brifysgol. Felly, mae cwrs newydd Dethol a Dewis yn cychwyn yn 2012 fydd yn edrych ar yr holl broses, yr agweddau cyfreithiol a’r sgiliau o gyfweld.

Os ydych eisiau fwy o wybodaeth cysylltwch a hyfforddi@bangor.ac.uk