UWB Crest

Datblygu Staff

Cyrsiau Datblygu Staff Cyfrwng Cymraeg

Mae modd cynnal nifer fawr o’r cyrsiau sy’n ymddangos ar y rhaglen hyfforddi drwy gyfrwng Y Gymraeg.

Yn benodol, mae’r holl gyrsiau Datblygiad Personol ar gael yn Y Gymraeg neu’r Saesneg. Lle gellir, cynigir sesiynau dwyieithog hefyd. Yn ogystal, mae rhai o weithdai Sgiliau Rheoli, Rhaglenni Arweinyddiaeth a’r Cynllun Adolygu Perfformiad ar gael drwy’r Gymraeg.

Os byddwch yn adnabod yr angen am gwrs nad ydyw eisoes yn cael ei redeg yna rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda.

Sut allai fynychu gweithdy Cyfrwng Cymraeg?

Cymerwch olwg ar y rhaglen hyfforddi a phenderfynwch pa gyrsiau yr hoffech fynychu. Yna cysylltwch â hyfforddi@bangor.ac.uk i ddatgan diddordeb. Os nad oes cwrs wedi ei drefnu yn barod byddwn yn mynd ati i wneud hynny.

Mae nifer o’r cyrsiau cyfrwng Cymraeg ar y rhaglen Datblygiad Personol ar gael i fyfyrwyr ôl-radd yn ogystal â staff Prifysgol Bangor. Cysylltwch am fanylion.

Eisiau hyfforddiant unigol neu wasanaeth Mentora yn y Gymraeg?

Rydym yn darparu gwasanaeth hyfforddiant unigol (Coaching) a mentora drwy gyfrwng y Gymraeg i reolwyr a staff. Am fwy o fanylion gweler (linc plîs).

Mae hyfforddiant unigol ar gael yn y ddwy iaith ac yn cael ei ddefnyddio, er enghraifft, i gefnogi rhaglenni Arweinyddiaeth Prifysgol Bangor. Eleni (2011) lansiwyd ‘Rhaglen Arweinyddiaeth Cyfrwng Cymraeg’. Yn ogystal â mynychu seminarau cyfrwng Cymraeg roedd cyfle i fanteisio ar hyfforddiant unigol a derbyn adborth MBTI cyfwng Cymraeg hefyd.

Hyfforddiant Cydraddoldeb

Fel rhan o ymrwymiad y Brifysgol i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth mae’n bwysig bod pob aelod o staff yn dilyn peth hyfforddiant Cydraddoldeb. Mae ystod o gyrsiau ar gael i staff ac mae modd teilwro a chynnig rhywrai o’r gweithdai hyn drwy gyfrwng Y Gymraeg cysylltwch â Mari Ellis Roberts i drafod anghenion unigol neu grwpiau o staff.

Yn ogystal mae pecyn hyfforddiant Cydraddoldeb ar-lein Y Brifysgol ar gael i holl staff yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Cefnogaeth i staff Academaidd sy’n dysgu drwy Gyfrwng y Gymraeg?

Mae gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol lwyfan e-ddysgu sef Y Porth, sy'n galluogi prifysgolion Cymru i rannu adnoddau cyfrwng Cymraeg yn genedlaethol, a dysgu modiwlau prifysgol ar y cyd gan ddefnyddio'r technolegau e-ddysgu diweddaraf.

Mae'r Porth yn elfen allweddol o weledigaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o greu cymuned academaidd Gymraeg lle y gall myfyrwyr fanteisio ar addysg brifysgol trwy gyfrwng y Gymraeg o'r safon uchaf, a chroesewir unrhyw fyfyrwyr neu staff cyfrwng Cymraeg o bob prifysgol yng Nghymru i ymuno â'r Coleg i fanteisio ar adnoddau'r Porth. Dilynwch y linc http://www.porth.ac.uk/cy/ am fanylion pellach. Yn ogystal, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg a ceir manylion am y cyrsiau hyn ar Y Porth.

Mae Canolfan Bedwyr yn cynnig cyrsiau wythnosol i ddatblygu sgiliau iaith staff gweinyddol ac academaidd. Cysylltwch â Chanolfan Bedwyr am fwy o fanylion: swyddfa.canolfanbedwyr@bangor.ac.uk