UWB Crest

Datblygu Staff

Gwybodaeth i Staff Newydd

Croeso i safle cynefino’r Brifysgol. Yma cewch wybodaeth am broses gynefino’r Brifysgol a safleoedd defnyddiol a chysylltiadau i roi i chi’r wybodaeth y bydd arnoch ei hangen efallai yn ystod eich misoedd cyntaf yn y sefydliad.
Mae cynefino’n rhan allweddol bwysig o broses dod yn gyfarwydd â’r Brifysgol er mwyn sicrhau eich bod yn ymgartrefu'n gyflym yn eich swydd trwy ddeall yn glir beth yw natur eich gwaith a dod yn gyfarwydd â pholisïau a dulliau gweithredu perthnasol yn y Brifysgol.

Mae’r wefan hon yn rhoi gwybodaeth am y canlynol:

Y Rhaglen Gynefino - bydd eich cynefino’n digwydd ar lefel Adrannol, Ysgol ac ar lefel Prifysgol. Mae’r adran hon yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol ynglŷn â’r rhaglen yma.

Adleoli - os ydych nid yn unig newydd ddod i weithio i’r Brifysgol ond newydd symud i fyw i’r rhanbarth hefyd, diben y safle cynhwysfawr hwn yw eich helpu i ymgartrefu’n gyflym yn yr ardal trwy roi gwybodaeth hanfodol i chi am wasanaethau cyhoeddus a phethau i’w gweld a’u gwneud yn yr ardal.

Cynefino ar gyfer Staff Dros-Dro (Cytundeb Byr) - pan ydych yn gweithio’n rhan-amser i’r Brifysgol gall fod yn anodd mynd at y rhaglen gynefino ffurfiol. Mae’r safle hwn felly’n rhoi sylw i anghenion cynefino neilltuol staff rhan-amser a benodwyd yn ddiweddar.

Cysylltiadau Defnyddiol - mae rhai safleoedd yn fwy defnyddiol nag eraill pan ydych yn newydd ac mae'r dudalen hon yn cynnwys rhestr o'r rhai mwyaf defnyddiol ar gyfer staff newydd.

Polisiau Pwysig - mae'r tudalen yma yn rhoi amlinelliad o bolisïau dylai staff fod yn gyfarwydd â nhw. Hefyd, mae linc i Blackboard i gwblhau’r holiadur ar brif bolisïau.

Llawlyfr Staff

CANLLAWIAU CYNEFINO I REOLWYR - gwelwyd bod cynefino effeithiol yn cynorthwyo i ddal gafael ar staff a’u hysgogil. Mae’r safle hwn yn rhoi arweiniad i reolwyr a staff perthnasol ar y dull gweithredu gorau ar gyfer cynefino staff ac yn cynnwys templedi a syniadau ar gyfer dogfennau.