Llosgi Bwriadol
Gan fod llosgi bwriadol yn cyfrif am gyfran sylweddol o danau yn y sector addysg (yr ystyrir yn aml eu bod yn dargedau rhwydd) dylid cynnwys y posibilrwydd o losgi bwriadol yn Asesiad Risg y Coleg / Adran.
Mae hefyd yn bwysig bod staff yn ymwybodol pa mor rhwydd yw achosi difrod i adeiladau a mannau storio, yn enwedig gan fod trefniadau diogelwch ar gyfer atal mynediad heb awdurdod i adeiladau yn gyfyngedig yn ystod y diwrnod gwaith, gan fod gan y brifysgol bolisi 'drws agored' yn gyffredinol ar gyfer llawer o adeiladau.
Un o'r pryderon mwyaf yw'r rhwyddineb y gall rhywun ddod o hyd i ddeunyddiau i’w llosgi i gynnau tân difrifol; mae hyn yn arbennig o wir wrth ystyried storio deunyddiau gwastraff. Yn aml mae llosgwyr bwriadol sy’n gweld eu cyfle yn targedu pentyrrau o sbwriel a deunyddiau llosgadwy eraill. Felly dylid rheoli'r maes hwn yn ofalus.
Canllawiau ar Atal Llosgi Bwriadol
Mewn adeilad:
- Peidiwch byth â rhwystro llwybrau dianc / allanfeydd tân
- Storiwch wastraff yn gywir ac yn ddiogel nes ceir gwared arno’n ddiogel
- Cyfyngwch ar faint o bapur sydd ar hysbysfyrddau, waliau ac ati; lle bo angen, gorchuddiwch hysbysfyrddau gyda phersbecs neu wydr diogelwch
Storiwch eitemau, e.e. offer, papur, yn gywir, gan gael gwared ar eitemau diangen ar unwaith i'w hatal rhag cronni
Y tu allan i adeilad:
-
Lle bo modd, rhowch finiau olwyn a sgipiau mor bell i ffwrdd â phosib oddi wrth adeiladau - 10m os yn bosibl.
-
Gofalwch bod biniau / sgipiau a ddefnyddir i storio gwastraff peryglus / llawer iawn o wastraff yn cael eu sicrhau, e.e. eu rhoi mewn cawell y gellir ei gloi.
-
Defnyddiwch sgipiau caeedig yn unig ar gyfer deunyddiau gwastraff llosgadwy.
-
Sicrhewch fod sgipiau'n cael eu danfon i le penodedig, i ffwrdd oddi wrth adeiladau.
-
Gofalwch fod biniau a sgipiau'n cael eu gwagio'n rheolaidd.
-
Trefnwch i gael gwared yn brydlon ar gasgliadau mawr annisgwyl o wastraff.
-
Cyfyngwch ar fynediad i rannau 'cudd' o'r tir, e.e. y tu ôl i adeiladau.
-
Cliriwch ddail a sbwriel cyffredinol i ffwrdd oddi wrth adeiladau.
Mae mwy o wybodaeth ar y dudalen Diogelwch Rhag Tân.
Ac yn olaf
- Rhowch wybod ar unwaith am bryderon / ymddygiad amheus i’r Adran Ddiogelwch drwy ffonio estyniad 2795.