Er mwyn cefnogi’i strategaeth ymchwil ac ymchwilwyr mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i weithredu egwyddorion y Concordat.
Mae Concordat 2008 i gefnogi datblygiad gyrfa ymchwilwyr yn gytundeb rhwng y cyllidwyr a chyflogwyr ymchwilwyr yn y DU sy'n nodi disgwyliadau a chyfrifoldebau ymchwilwyr, eu rheolwyr, eu cyflogwyr a chyllidwyr mewn perthynas ag egwyddorion datblygiad gyrfa ymchwilwyr. Gellir gweld egwyddorion Concordat yma.
Trwy’r Grŵp Tasg Adnoddau Dynol a'r Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil ac Arloesi, cytunodd Prifysgol Bangor ar gynllun gweithredu’r Concordat. Ar hyn o bryd caiff y Cynllun Gweithredu ei adolygu’n ffurfiol gan y Grŵp Tasg Adnoddau Dynol a Thîm Rheoli'r Brifysgol. Caiff y cynllun hwn ei adolygu’n flynyddol.
Yn 2011/12 penderfynwyd gwneud dadansoddiad bwlch i weld i ba raddau y mae’r Brifysgol yn rhoi sylw effeithiol i egwyddorion y Concordat ac i ddynodi unrhyw feysydd gwella yn y ddarpariaeth bresennol o gefnogi datblygiad gyrfa staff ymchwil y Brifysgol.
Gwnaed y dadansoddiad bwlch dan arweiniad y Swyddfa Ymchwil ac Arloesi a Datblygu Staff mewn ymgynghoriad ag ymchwilwyr yn y Brifysgol, yn arbennig gyda'r Grŵp Datblygiad Ymchwilwyr a'r Concordat.
Cynhaliwyd y dadansoddiad bwlch trwy:
a) anfon arolwg at bob aelod o'r staff ymchwil
b) trafodaethau gyda staff yn y Colegau
c) trafodaethau gyda staff trwy’r rhwydwaith Athena SWAN
d) ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol eraill yn y Brifysgol.
Yn sgil y gweithgareddau hyn cytunwyd ar y blaenoriaethau ar gyfer adolygu’r Cynllun Gweithredu Concordat. Cytunwyd ar y cynllun hwn gan y Grŵp Tasg Adnoddau Dynol a Phwyllgor Gweithredu’r Brifysgol a phwyllgorau perthnasol eraill y Brifysgol.
Dogfennau Perthnasol
Cynllun Gweithredu’r Concordat
The Concordat to Support the Career Development of Researchers
Am ragor o wybodaeth neu gopi o’r dadansoddi bwlch cysylltwch â’r adran adnoddau dynol yn hyfforddi@bangor.ac.uk.
Grŵp Datblygiad Ymchwilwyr a'r Concordat
Mae’r grŵp hwn yn cefnogi ac yn datblygu datblygiad ymchwilwyr ac yn rhoi sylw i anghenion y Concordat er mwyn sicrhau bod datblygiad gyrfa ymchwilwyr yn ateb anghenion ymchwilwyr yn y Brifysgol ac yn cyfrannu at weithredu Strategaeth Ymchwil y Brifysgol.
Mae’r grŵp hwn yn adrodd i’r Grŵp Tasg Adnoddau Dynol, Grŵp Tasg Strategaeth Ymchwil y Brifysgol a’r Grŵp Tasg Dysgu ac Addysgu. Mae cynrychiolwyr y Coleg yn adrodd i Bwyllgorau Ymchwil y Coleg. Gellir cael gwybodaeth am aelodaeth, cylch gorchwyl ac amcanion y grŵp yma.
Gallwch anfon unrhyw safbwyntiau neu sylwadau at y grŵp hwn yn hyfforddi@bangor.ac.uk a chaiff eich sylwadau eu hystyried fel rhan o’r ymgynghori parhaus yn y maes hwn.
Cysylltiadau perthnasol:
Swyddfa Ymchwil ac Arolesi
Uned Datblygu Academaidd