Pensiynau
Mae Prifysgol Bangor yn gweithredu dau gynllun pensiwn galwedigaethol. Rhoddir cynnig i bob aelod staff (rhwng 18 - 60 mlwydd oed) i ymuno â'r naill gynllun neu'r llall.
Y prif gynllun pensiwn yw'r Universities' Superannuation Scheme (USS) a gynllunnir yn benodol ar gyfer staff academaidd ac academaidd-gysylltiedig mewn prifysgolion y DU a sefydliadau eraill penodol sy'n gyflogedig mewn addysg uwch ac ymchwil. Y cwmni ymddiriedol yw'r Universities Superannuation Scheme Limited sy'n gyfrifol am weinyddu'r cynllun. Ceir rhagor o wybodaeth am USS ar we-fan USS yn y cyfeiriad canlynol: www.usshq.co.uk
Yr University Pension & Assurance Scheme (UPAS) yw'r cynllun pensiwn ar gyfer yr holl staff cefnogi ac ategol. Mae'n gyfyngedig i'r Brifysgol ac fe'i cynhelir gan wyth ymddiriedolwr; penodir pedwar o'r rhain gan y cyflogwr a phedwar gan yr aelodau. Ceir rhagor o wybodaeth am y cynllun ei hun fan yma.
Mae gan y Brifysgol hefyd nifer o aelodau (wedi eu neilltuo'n benodol) o'r Cynllun Pensiwn Athrawon o ganlyniad i'r uniad rhwng y Brifysgol a'r Coleg Normal yn 1996. Fodd bynnag, yn PCB, nid yw'r Cynllun hwn yn agored i bobl sy'n cael eu penodi o'r newydd. Ceir rhagor o wybodaeth am fuddion y Cynllun Pensiwn Athrawon ar eu gwe-fan: www.teacherspensions.co.uk
Mae USS ac UPAS yn cynnig y buddion canlynol: