UWB Crest

Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Moddion

Croeso i’r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME).  Sefydlwyd y Ganolfan yn 2001, ac rydym ni yn awr yn un o’r canolfannau economeg iechyd mwyaf blaenllaw ym Mhrydain, a’n nod yw:

 “hyrwyddo a chynnal ymchwil o ansawdd uchel, cynyddu cyfleoedd ar gyfer ennill grantiau ymchwil a chyhoeddiadau mewn cyfnodolion pwysig”

Mae’r Ganolfan yn weithgar ar draws amrywiaeth o weithgareddau economeg iechyd a gwerthuso meddyginiaethau.  Caiff y rhain eu categoreiddio’n fras i’r themâu ymchwil canlynol:

  • Economeg iechyd y cyhoedd ac economeg iechyd ymyriadau seicogymdeithasol a thechnolegau iechyd eraill heb fod yn rhai ffarmacolegol, wedi’i arwain gan Yr Athro Rhiannon Tudor Edwards

  • Ffarmacoeconomeg, polisi fferyllol a’r defnydd o feddyginiaethau, wedi’i arwain gan Yr Athro Dyfrig Hughes

  • Ymchwil fethodolegol, gan ganolbwyntio ar werthuso economaidd ochr yn ochr ag arbrofion clinigol, parhau i gymryd meddyginiaethau a mesur canlyniad iechyd.

Mae CHEME wedi bod yn llwyddiannus wrth ddenu cyllid ymchwil o nifer o ffynonellau, yn fwyaf amlwg, yr MRC, ESRC, NIHR, CRUK a Llywodraeth y Cynulliad, i gefnogi ei ymchwil.

Yn ogystal, mae CHEME yn rhoi cefnogaeth ar gyfer ymchwil i economeg iechyd ar draws Gymru a Gogledd Orllewin Lloegr; a chefnogaeth ar gyfer ymchwil fethodolegol drwy’r MRC Methodological Advisory Service for Trials.

Mae gan y Ganolfan raglen efrydiaethau PhD weithgar, ac mae’n darparu modiwlau addysgu ôl-radd mewn economeg iechyd, economeg iechyd y cyhoedd a ffarmacoleg.

Mae ein gwefan yn rhoi rhagor o wybodaeth am ein staff, ein gweithgareddau a’n huchafbwyntiau ymchwil.

Rhiannon Tudor Edwards, Dyfrig Hughes

Cyd-Gyfarwyddwyr, CHEME