UWB Crest

Gwasanaethau TG

Cyflwyniad

Delwedd yn dangos arwydd system un ffordd

Cymhwyster TG sydd ar gael drwy Ewrop yw'r ECDL. Caiff ei weinyddu yn y DU gan y British Computer Society (BCS) ac mae'n galluogi pobl i ddangos eu medrusrwydd mewn sgiliau cyfrifiadurol. Nid oes angen gwybodaeth flaenorol o TG na sgiliau cyfrifiadurol cyn dechrau ei wneud, a'i amcanion yw

  • gwella lefel medrusrwydd mewn TG a sgiliau cyfrifiadurol
  • gwella cynhyrchiant gartref ac yn y gwaith
  • darparu cymhwyster sy'n cael ei gydnabod gan ddiwydiant

Meddalwedd profi

Ar ôl cynnig profion a marcio ar bapur yn unig ar gyfer yr ECDL, mae Canolfan ECDL Prifysgol Bangor wedi symud tuag at ddarparu profion ar gyfer yr ECDL gan ddefnyddio meddalwedd profi 'Activ'. Mae'r amgylchedd profi yn galluogi ymgeiswyr i gael adborth ar unwaith am ganlyniadau'r profion heb orfod aros i'w prawf fynd trwy'r drefn farcio ffurfiol. Unwaith y byddwch wedi cofrestru i sefyll profion yng nghanolfan brawf Prifysgol Bangor, bydd ffug-brofion ar gael ichi ymarfer arnynt cyn sefyll prawf gwirioneddol yr ECDL. Am fwy o fanylion ynglyn â sefyll profion, dilynwch y cysylltiadau o frig y dudalen hon.

 

ECDL LOGOS