UWB Crest

Ysgol y Gyfraith

Ein Cyfleusterau

Delwedd yn dangos myfyriwr yn y llyfrgell

Mae ein hadnoddau yn cynnwys Llyfrgell eang y Gyfraith, a gynhelir gan Lyfrgellydd y Gyfraith, Mairwen Owen. Rydym yn falch o fuddsoddiad sylweddol diweddar y Brifysgol a chymwynaswyr i Lyfrgell y Gyfraith. Mae Archifau’r Brifysgol yn cynnwys deunydd hanesyddol cyfoethog, a nifer helaeth o brif ffynonellau i chi sydd â diddordeb mewn gwneud gwaith ymchwil ar gyfer gradd uwch mewn meysydd megis hanes cyfreithiol. 

Mairwen Owen yw Llyfrgellydd y Gyfraith. Medrwch gysylltu â hi hefyd dros y ffôn: +44 (0)1248 382915, neu drwy e-bost: mairwen.owen@bangor.ac.uk

Mae Llyfrgell y Gyfraith ym mhen draw Darllenfa Lloyd ym Mhrif Lyfrgell y Celfyddydau.

Y Casgliad

Mae Llyfrgell y Gyfraith yn darparu ffynonellau electronig a printiedig i ddiwallu anghenion myfyrwyr Ysgol y Gyfraith. Mae’r casgliad wedi datblygu cryn lawer ers ei agor yn 2003/2004.

Mae’r casgliad yn Llyfrgell y Gyfraith wedi ei rannu fel a ganlyn:

Cyfeiriol

Crynoadau, gwyddoniaduron, geiriaduron y gyfraith ac offer chwilio megis y Current Law Case Citator, Current Law Yearbook a Halsbury’s Laws sydd yn y drefn hon.

Statudau

Yma fe welwch ddeunydd megis y Current Law Statutes sy’n cyhoeddi statudau mewn trefn gronolegol ym mhob blwyddyn galendr. Mae Halsbury’s Statutory Instruments sy’n mynegeio offerynnau statudol hefyd yn y dilyniant hwn.

Adroddiadau Cyfraith

Mae adroddiadau cyfraith yn cynnwys penderfyniadau llysoedd ar bwyntiau cyfreithiol. Nid yw’r adroddiadau cyfraith printiedig yn adrodd am bob achos, dim ond y rhai sydd o ddiddordeb cyfreithiol arwyddocaol. Y mae adroddiadau sy’n ymwneud â phob agwedd o’r gyfraith megis y Law Reports a’r All England Law Reports, yn ogystal â’r rhai sy’n arbenigo mewn pwnc arbennig, er enghraifft, Criminal Appeal Reports a Family Law Reports.

Cyfnodolion

Ffynhonnell eilaidd o wybodaeth gyfreithiol yw cyfnodolion, ond y maent yn rhoi erthyglau defnyddiol am amrywiaeth o bynciau cyfreithiol yn ogystal â sylwadau ar statudau ac achosion. Mae gan Lyfrgell y Gyfraith gasgliad eang o gyfnodolion yn cynnwys, Modern Law Review, Cambridge Law Journal, Oxford Journal of Legal Studies, New Law Journal a Solicitor’s Journal. Mae llawer o’r cyfnodolion hyn ar gael hefyd ar-lein trwy gatalog y llyfrgell.

Llyfrau a phamffledi

Mae’r adran hon yn cynnwys gwerslyfrau myfyrwyr a deunydd a welir ar eich rhestrau darllen.

Cyhoeddiadau Swyddogol

Dyma gasgliad bychan o adroddiadau a chyfrifon a gyflwynwyd i’r Senedd gan Adrannau’r Llywodraeth, ynghyd â pheth defnydd ystadegol ac Adroddiadau Comisiwn y Gyfraith.

Papurau Newydd

Mae The Times a The Independent ar gael yn Llyfrgell y Gyfraith. Yr ydym yn tanysgrifio i News UK sydd yn cynnwys 68 o bapurau newydd cenedlaethol a rhanbarthol.

Cronfeydd data ar-lein

Medrwch weld y cronfeydd data y mae Prifysgol Bangor yn tanysgrifio iddynt trwy’r linc Gwasanaethau crynodebu a mynegeio ar gatalog y llyfrgell. Mae cronfeydd data yn adnoddau hanfodol gan eu bod yn rhoi cyfoeth o ddeunydd cyfreithiol sy’n cael eu cyfoesi’n rheolaidd.

Mae gan y Llyfrgell fynediad i nifer o gronfeydd ddata megis Justcite,  Lawtel, LexisNexis a Westlaw.

Llungopïo

Mae llungopiwyr hunan-wasanaeth wedi eu lleoli tu allan i Ddarllenfa Lloyd. Gweithredwyd y llungopiwyr gyda cherdyn llungopïo ailwefradwy.