UWB Crest

Ysgol y Gyfraith

Ffug Lys

Image of a group of barristers

Yn flynyddol, mae Cymdeithas y Gyfraith Myfyrwyr Bangor yn cynnal Cystadleuaeth Fug Lys McLaren, a enwir ar ôl Ynad a Darlithydd yr Ysgol, Ann McLaren. Mae’r gystadleuaeth yn gyfle i fyfyrwyr dynwared gweithrediadau llys ac i ymroi eu dysg i amgylchiadau ymarferol, gyda’r rownd derfynol yn cymryd lle yn Llys y Goron yng Nghaernarfon.

  • Cymdeithas y Gyfraith Myfyrwyr Bangor yn cynnal Cystadleuaeth Ffug Lys McLaren

Mewn Ffug Lys, bydd dau bâr o adfocadau - sef yr Apelyddion a’r Atebyddion - yn dadlau ffug achos apêl o flaen ‘beirniad’ (fel arfer, darlithydd neu fyfyriwr ôl-radd). Nid y tîm buddugol sy’n angenrheidiol yn ennill yr ymryson, ond y tîm sydd yn rhoi'r cyflwyniad gorau o’i ddadlau cyfreithiol. Mae Ffug Lys yn atodiad hynod ddefnyddiol i radd yn y Gyfraith, gan fod y profiad yn arddangos yn union sut y gall gwybodaeth gyfreithiol cael ei ddefnyddio yn y byd go iawn. Yn bellach, mae’n darparu llwyfan delfrydol er mwyn datblygu sgiliau dadansoddi, dehongli a siarad yn gyhoeddus.

Mae’r gystadleuaeth, sydd ar agor i israddedigion yn yr ail a thrydedd flwyddyn, yn canolbwyntio un ai ar gyfraith cytundeb neu gyfraith droseddol. Gall myfyrwyr blwyddyn gyntaf cyfranogi fel amserwyr (ag eithriad myfyrwyr blwyddyn gyntaf y radd LLB dwy flynedd, sy’n gallu cymryd rhan yn y gystadleuaeth gyflawn). Gwahoddir enillwyr y gystadleuaeth i seremoni wobrwyo Cymdeithas y Myfyrwyr, ac ysgythrir eu henwau ar daran Ffug Lys McLaren sy’n cael ei arddangos yn Llyfrgell y Gyfraith.

Yn ogystal, cynhelir gornest arbenigol cyfrwng Cymraeg, y Cwpan Ffug Lys Griffiths, ochr yn ochr gyda Chystadleuaeth McLaren. Mae’r gystadleuaeth hon ar agor i bob myfyriwr, yn cynnwys israddedigion yn y flwyddyn gyntaf.

Am wybodaeth ynglŷn â digwyddiadau i ddod, ymunwch â thudalennau Facebook un-pwrpas Cystadlaethau Llys Ffug McLaren a Griffiths.

“Teimlwn gymaint o foddhad ar ddiwedd y gystadleuaeth - nid yn unig am ennill, ond hefyd am gymryd rhan mewn gweithgaredd oedd am helpu ni i ehangu ein gorwelion. Mae cystadleuaeth Ffug Lys yn gyfle ffantastig i unrhyw un sy’n ystyried dilyn ochr ymarferol y Gyfraith. Roedd y profiad hwn yn gyfle i ddatblygu ein gwybodaeth gyfreithiol yn ogystal â sgiliau ymchwil, dehongli a chyflwyno ar lafar - sgiliau y bydd yn ddefnyddiol mewn unrhyw yrfa.” - Gabriella Kyriacou, aelod o dîm buddugol cystadleuaeth Llys Ffug 2010/11.

Cystadleuaeth Adfocad Eithriadol

Yn gysylltiedig â Ffug Lys McLaren, sefydlwyd y Gystadleuaeth Adfocad Eithriadol er mwyn darparu cystadleuaeth benodol ar gyfer holl fyfyrwyr flwyddyn gyntaf y Gyfraith.

Gofynnir i gystadleuwyr cyflwyno dadl gyfreithiol, ysgrifenedig wedi ei seilio ar ffug senario. Bydd y ddadl gorau, fel y dyfarnwyd gan banel dethol, yn ennill gwobr ‘Adfocad Eithriadol’ yn seremoni gwobrwyo flynyddol y Ffug Lys.

Cystadleuaeth ddwyieithog yw hon sydd yn cyflenwi’r modiwl ‘Sgiliau Cyfreithiol’, ac mae’n fodd defnyddiol o ddatblygu sgiliau hollbwysig ymchwil a dyfyniad.