Mae staff Ysgol y Gyfraith ym Mangor yn raddedigion o lawer o brifysgolion blaenllaw, ac mae rhai wedi gweithio yn y sector cyfreithiol fel barnwyr, cyfreithwyr ac ynadon.
Arbenigedd Ymchwil
Gyda’r cyfuniad hwn o gefndiroedd amrywiol, mae arbenigedd ymchwil y staff hefyd yn amrywiol ac yn cynnwys meysydd megis cyfraith yr Undeb Ewropeaidd, Cyfraith Cyllid Corfforaethol, Cyfraith Forwrol, Cyfraith Fasnachol, Cyfraith Cwmnïau, Cyfreitheg, Cyfraith Weinyddol, Cyfraith A Chrefydd, Cyfraith Plant A Theuluoedd A Chyfraith Eiddo Deallusol. Ewch i dudalennau Pynciau Ymchwil i gael rhagor o fanylion am weithgareddau ymchwil.
Mae’r Ysgol yn gartref i’r Sefydliad ar gyfer Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael (SACC), sy’n arbenigo mewn ymchwil seiliedig ar dystiolaeth i mewn i ymatebion ymddygiadol sefydliadau cyhoeddus a’u cyflenwyr i bolisïau, deddfau ac ymarferiadau caffael cyhoeddus; a’r prosiect Ennill Wrth Dendro, prosiect Strategol gwerth £3.2 miliwn wedi’i anelu at weddnewid profiadau tendro cyhoeddus Cyflenwyr Brodorol Bychain ar draws Iwerddon a Chymru.
Hyfforddiant Ymchwil
Dyma’r meysydd y mae’r ysgol yn arbenigo ynddynt ac yn cynnig goruchwyliaeth ymchwil ar eu cyfer. Mae datblygu pobl ifanc broffesiynol trwy hyfforddiant ymchwil MPhil a PhD yn rhan ganolog o genhadaeth yr ysgol ac mae’r rhaglen ddoethuriaeth yn gwneud cyfraniad pwysig at hyfforddi ymchwilwyr y dyfodol.
Mae’r ffaith bod yr ysgol yn rhan allweddol o’r Coleg Busnes, Gwyddorau Cymdeithas a’r Gyfraith yn caniatau ymchwil rhyngddisgyblaethol gydag astudiaethau ym maes bancio a chyllid. Mae Ysgol Busnes Bangor ar y brig yn y Deyrnas Unedig am ymchwil ym maes cyfrifeg a chyllid. Mae rheoleiddio a risg, sy’n bynciau allweddol ym maes astudiaethau bancio a chyllid, hefyd yn bynciau pwysig yn y gyfraith.
Gwaith Ymgynghorol Allanol
Mae’r cyfraniad a wneir i amrywiol bolisïau llywodraethol yn adlewyrchu arbenigedd yr Ysgol. Mae’n cynnwys gwaith ymgynghorol i'r Comisiwn Ewropeaidd, adroddiadau i bwyllgorau seneddol yn San Steffan a chael grantiau project i gynnal adolygiad o gaffaeliad cyhoeddus
Rhaglen Siaradwyr Gwadd
Trefnir rhaglen o ddarlithoedd gan siaradwyr gwadd pob blwyddyn er mwyn cyfoethogi amgylchedd academaidd ac ymchwil yr Ysgol. Mae’r siaradwyr wedi cynnwys Pennaeth Heddlu Gogledd Cymru, Barnwr Llywyddol Cymru, y Dirprwy Chef du Cabinet yn y Comisiwn Ewropeaidd, staff uwch o gwmnïau cyfreithiol blaenllaw yn Llundain, ynghyd â darlithwyr ac athrawon o brifysgolion yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop. Mae staff Ysgol y Gyfraith ym Mangor hefyd yn rhoi darlithoedd gwadd a chyflwyniadau mewn cynadleddau rhyngwladol.
Cyhoeddiadau a Byrddau Golygu
Yn ogystal â chael cyhoeddi eu gwaith yn rheolaidd, mae staff yr ysgol ar fyrddau golygyddol nifer o gyfnodolion academaidd yn cynnwys yr Irish Journal of European Law, Butterworths Medico-Legal Report a’r Journal of Communications Law.