Y Brifysgol
Sefydlwyd Prifysgol Bangor ym 1884 ac mae ganddi draddodiad hir o ragoriaeth o ran dysgu.
Y Tywysog Siarl yw Canghellor y Brifysgol. Daeth i ymweld â Bangor i ddathlu canmlwyddiant gosod carreg sylfaen Prif Adeilad y Brifysgol
Mae Bangor yn ail ar y rhestr o brifysgolion sy’n rhoi’r gwerth gorau am arian ym Mhrydain (The Independent)
Lleoliad gwych, gyda ffyrdd a rheilffyrdd yn cysylltu’r ddinas gyda Caerdydd, Manceinion, Lerpwl a Llundain
Mae Bangor yn ymddangos yn gyson yn y 15 uchaf o brifysgolion yn y Deyrnas Unedig o ran profiad myfyrwyr (Times Higher Education Supplement)
Mae Bangor yn cael ei hystyried fel un o’r dinasoedd mwyaf diogel i fod yn fyfyriwr ynddi gan fod cyfradd droseddu gogledd Cymru yn un o’r rhai isaf yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig.
Mae Bangor wedi’i lleoli rhwng mynyddoedd Eryri ac afon Menai - mae’n debyg mai dyma’r un o’r lleoliadau prifysgol prydferthaf ym Mhrydain. Mae Bangor yn baradwys i fyfyrwyr sy’n hoffi’r awyr agored.
Mae cymdeithas gref o fyfyrwyr o Gymru, ynghyd a neuadd breswyl John Morris Jones (JMJ) ar gyfer y Cymry Cymraeg.
Mae pob myfyriwr yn wahanol, dyna pam fod Bangor yn cynnig rhywbeth i bawb. Mae’r ddinas ei hun yn fychan a chroesawgar, sy’n golygu ei bod yn hawdd gwneud ffrindiau. Mae yma hefyd gymuned Gymraeg glos ac os ewch chi allan am beint i dafarn enwog y Glôb, rydych yn siwr o ddod ar draws rhywun yr ydych yn ei adnabod. Darllenwch ein tudalennau ar Bywyd Myfyrwyr am fanylion pellach.
Ysgol y Gyfraith ym Mangor
Nodwyd graddfa foddhad o 92% gan fyfyrwyr Ysgol y Gyfraith ym Mangor yn ddiweddar (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr)
Mae graddfa uchel o foddhad myfyrwyr yn adlewyrchu'r gefnogaeth sylweddol y rhoddir i fyfyrwyr a'r dosbarthiadau llai sydd ym Mangor o gymharu ag ysgolion y gyfraith eraill yn y Deyrnas Unedig
Mae nifer o’r staff yn Gymry Cymraeg.
Darlithwyr arbenigol mewn nifer eang o feysydd y gyfraith
Mae gennym lyfrgell y gyfraith dan ofal llyfrgellydd cyfreithiol proffesiynol.
Cyrsiau LLB
Mae’r cyrsiau i gyd yn ‘raddau cymhwysol yn y gyfraith’ (QLD) sy’n golygu y bydd graddedigion LLB Bangor wedi cwblhau rhan academaidd eu hyfforddiant sydd ei angen i weithio yn y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr.
Gan fod gan holl raddau LLB Bangor statws QLD, gall graddedigion fynd yn syth ar gyrsiau ymarfer cyfreithiol LPC (Legal Practice Course) i fynd yn gyfreithwyr neu ar gyrsiau galwedigaethol BVC (Bar Vocational Course) i fynd yn fargyfreithwyr.
Mae deiliaid gradd LLB o Fangor yn gymwys i sefyll arholiadau mynediad Cymdeithas Cyfreithwyr Iwerddon: FE-I
Gall myfyrwyr Cymraeg gael tiwtorialau ym mhob un o’r pynciau craidd naill ai yn Saesneg neu yn Gymraeg, dewis gwneud LLB y Gyfraith gyda Chymraeg a gwneud rhai modiwlau yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r graddau’n ymdrin ag agweddau ar amgylchedd a datblygiad cyfreithiol cyfoes ym Mhrydain, Ewrop ac yn rhyngwladol.
Rydym yn gwarantu lle i bob myfyriwr blwyddyn gyntaf yn un o’r 2,000 o ystafelloedd sydd ar gael yn ein neuaddau preswyl
Mae gennym gynllun gradd yn y Gyfraith gyda’r Gymraeg yn arbennig ar gyfer myfyrwyr sydd am ddatblygu gyrfa gyfreithiol yng Nghymru a gweithio gyda’r un hyder a meistroldeb drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae ein staff profiadol, amlieithog wedi dysgu yn y Deyrnas Unedig ac mewn nifer o wledydd tramor, ac adlewyrchir eu harbenigedd yn yr amrywiaeth arbenigol eang o fodiwlau.
Graddau ôl-radd
Mae Ysgol y Gyfraith, Bangor, yn ganolbwynt ymchwil sy’n cynnig amrywiaeth o raglenni LLM, MBA a MA arloesol a gynlluniwyd i ddarparu myfyrwyr gyda’r wybodaeth a sgiliau y mynnwyd gan weithle fwyfwy byd-eang.
Mae ein staff profiadol, amlieithog wedi dysgu yn y Deyrnas Unedig ac mewn nifer o wledydd tramor, ac adlewyrchir eu harbenigedd yn yr amrywiaeth eang, arbenigol a masnachol o fodiwlau yn ein cyrsiau meistr mewn meysydd sy’n cynnwys Cyfraith Ryngwladol, Cyfraith Caffael, Cyfraith Eiddo Deallusol, Bancio a Throseddeg.
Mae’r Ysgol yn cynnig nifer o Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau gwerth hyd at £5,000 i helpu gyda’r gost o astudio ar lefel meistr.
Ar gyfer myfyrwyr PhD, mae’r Ysgol yn cynnig cymuned fywiog, yn gwneud ymchwil ar amrywiaeth o bynciau diddorol a heriol.