UWB Crest

Gwasanaeth Llyfrgell

Refworks/EndNote

Delwedd yn dangos myfyrwyr yn edrych ar gyfrifiadur

Meddalwedd cyfeirnodi Refworks ac Endnote Web

Os ydych erioed wedi treulio mwy o amser yn llunio’r llyfryddiaeth ar gyfer eich traethawd neu’ch traethawd hir nag ar y gwaith ei hun, byddwch yn deall o’r gorau yr hyn y gall meddalwedd cyfeirnodi ei wneud i chi.

Yn hytrach na chyfuno’n llafurus ganlyniadau eich chwiliadau o wahanol gronfeydd data ar-lein i greu un rhestr gyfeirio, a sicrhau’n ofalus fod pob cyfeirnod yn yr arddull cyfeirnodi cywir, gellwch gymryd y camau canlynol:

  • Lawrlwytho canlyniadau eich chwiliadau.
  • Eu rhoi yn y drefn o’ch dewis.
  • Eu fformatio yn yr arddull cyfeirnodi o’ch dewis, a chynhyrchu llyfryddiaeth ohonynt.
  • Fel y byddwch yn teipio eich gwaith, gosodwch ddyfyniadau o fewn eich papur ar fannau priodol yn y testun.

Mae Bangor yn cynnig dewis o 2 becyn rheoli llyfryddiaethol – ‘Refworks’ ac ‘Endnote Web’.

Refworks

Creu eich cyfrif Refworks

Mae Refworks ar gael ar y we

  • Cliciwch ar gysylltiad Login.
  • Cliciwch ar y cyswllt er mwyn Login through your institution (defnyddwyr Shibboleth)
  • Dewiswch ‘Prifysgol Bangor University’ o’r rhestr ddisgynnol o sefydliadau a chliciwch ar Login
  • Rhowch eich Enw Defnyddiwr safonol a’ch Cyfrinair o Fangor, a chliciwch ar Login
  • Rhowch eich manylion ar gyfer Name, E-mail Address, Type of User ac Area of Focus
  • Rhowch y Cod fel y gwelwch ef a chliciwch ar Register.

I fewngofnodi yn y dyfodol, dim ond camau 1-4 sydd eu hangen.

Am fwy o wybodaeth am Refworks, lawrlwythwch yr arweiniad hwn.

Os oes gennych ddiddordeb mewn trefnu gweithdy/ tiwtorial ar Refworks, naill ai fel unigolyn neu fel grŵp, cysylltwch â’r Llyfrgellydd Cefnogi Defnyddwyr , sef, Vashti Zarach .

EndNote Web

Mae Endnote Web yn fersiwn ar y we o feddalwedd Endnote ar gyfer y bwrdd gwaith. Gellwch gyflawni’r cyfan o brif swyddogaethau Endnote gan ddefnyddio Endnote Web.

Cofrestru i ddefnyddio Endnote Web

Cyn defnyddio Endnote Web, rhaid i ddefnyddwyr gofrestru gyda gwasanaeth Web of Knowledge ISI.

  • Dewiswch Web of Knowledge dan bennawd ‘Adnoddau Cyffredinol’.
(Os ydych oddi ar y campws, gofynnir ichi roi eich Enw Defnyddiwr a’ch Cyfrinair o Fangor.)
  • O dan ‘Customise Your Experience’ dewiswch Register.
  • Nodwch a chadarnhewch eich cyfeiriad e-bost, yna cliciwch ar Continue.
  • Cwblhewch y meysydd ar gyfer User Registration, yn cynnwys eich Cyfrinair.
(Eich Cyfrinair personol chi yw hwn, ac nid yw’n gysylltiedig â Phrifysgol Bangor.)
  • Dewiswch dderbyn neu beidio â derbyn gwybodaeth ychwanegol o Thomson Reuters (rydym yn argymell Peidio â derbyn.)
  • Dewiswch Fewngofnodi’n Awtomataidd neu beidio
  • Cliciwch ar Submit Registration

I fewngofnodi yn y dyfodol, ewch i www.myendnoteweb.com a rhowch eich cyfeiriad e-bost a’ch Cyfrinair priodol.

Am fwy o wybodaeth am Endnote Web, lawrlwythwch yr Arweiniad hwn.

Os oes gennych ddiddordeb mewn trefnu gweithdy/ tiwtorial ar Endnote Web, naill ai fel unigolyn neu fel grŵp, cysylltwch â’r Llyfrgellydd Cefnogi Defnyddwyr , sef, Vashti Zarach .